Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Home UMCA Llywydd UMCA
Materion Cymreig a Llywydd UMCA

Shwmae byti! Tammy ‘dwi, Swyddog Materion Cymreig a Llywydd UMCA am y flwyddyn. Rwyf newydd raddio gyda BA yn y Gymraeg felly byddaf yn gallu cynrychioli myfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Fy rôl i fel Llywydd UMCA yw cynrychioli’r myfyrwyr Cymraeg o fewn y Brifysgol a threfnu digwyddiadau amrywiol ar gyfer y gymuned Gymraeg. Mae gan UMCA gymuned glòs iawn, ac mae’n digwyddiadau ni’n boblogaidd iawn â’r Cymry Cymraeg. Ond ni olyga hyn fod UMCA ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig. Trwy gynnig gwersi Cymraeg am ddim a chynnal Wythnos Gymreig yn yr undeb, gobeithiaf annog y rhai hynny sydd â diddordeb yn y Gymraeg a diwylliant Cymreig i ymuno â’n undeb gwych. Fel rhywun o gefndir di-Gymraeg rwy’n llwyr werthfawrogi’r rhwystrau y mae’n rhaid i bobl ddi-Gymraeg eu hwynebu. Gobeithiaf eleni y bydd y cynlluniau ar gyfer y “Pantycelyn Newydd” yn ateb gofynion y myfyrwyr a gobeithiaf hefyd lansio ein cynllun profiad gwaith newydd, ‘UMCA yn y Gymuned’. Byddaf yn gweithio rownd y rîl ynghyd â’r Sabs eraill i sicrhau’ch bod chi’n cael blwyddyn wych yn Aber, ac fel bod gennych atgofion y byddwch yn eu trysori am oes. Hwyl am y tro!

Tammy Hawkins
Materion Cymreig a Llywydd UMCA

Ffôn: 01970 621739  Ffôn Symudol: 07764260670

Ebost: umca@aber.ac.uk

LAST_UPDATED2
 

Gold Crested Glass Paperweight
£12.50
» more info

 

♥ ABER Cotton Shopping Bag
£2.00
» more info

» see all products

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students