Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Home UMCA Clybiau a Chymdeithasau UMCA
Clybiau a Chymdeithasau UMCA

Y GeltaiddY Geltaidd
Y Geltaidd yw’r gymdeithas chwaraeon sy’n trefnu timau megis Rygbi, Pêl-droed a Phêl-rwyd. Maent hefyd yn trefnu’r trip rygbi blynyddol. Ond nid chwaraeon yn unig yw cyfrifoldeb y Geltaidd – maent hefyd yn trefnu crols yn ystod y flwyddyn, partïon pwnsh a chiniawau mawreddog. Heb os, mae’r Geltaidd yn cyfoethogi bywyd cymdeithasol myfyrwyr Cymraeg Aber!

Aelwyd Pantycelyn
Mae croeso mawr i unrhyw un ymuno â chôr Pantycelyn. Yn sicr dyma un o’r ffyrdd gorau o ddod i adnabod myfyrwyr eraill o bob blwyddyn ac mae yna wastad digon o hwyl yn yr ymarferion. Bydd y côr yn cwrdd yn rheolaidd nos Fawrth a nos Iau yn lolfa fach Pantycelyn. Yn ogystal â chystadlu yn yr ŵyl Gerdd Dant ac yn Eisteddfod yr Urdd a pherfformio mewn cyngherddau a gwasanaethau, mae’r côr hefyd yn adnabyddus am ei nosweithiau allan ‘hwyliog’ ac mae pawb yn mwynhau noson o ganu’r hen ffefrynnau yn y Cwps. Felly pawb i ymuno hyd yn oed os nad ydych chi wedi bod yn aelod o gôr o’r blaen ond awydd trio pethau newydd, achos dyna ydi holl bwynt coleg! Arweinydd yw Manon Mai Rhys mnr5@aber.ac.uk Hefyd os ydych chi’n dda am ddawnsio cewch groeso mawr gan y criw Dawnsio Gwerin, ac mae’r criw Llefaru yn cystadlu’n frwd bob blwyddyn hefyd.

Cymdeithas Taliesin
Dyma Gymdeithas Lenyddol UMCA sy’n cynnal nifer o ddigwyddiadau ar draws y flwyddyn. Hefyd ceir y cyfle i gael ambell wers ar farddoni.

Cell Cymdeithas yr Iaith
Dyma gell y myfyrwyr sy’n trefnu digwyddiadau yn y dref ac yn y sir. Maent yn weithgar iawn ac yn ogystal ag ymgyrchu maent hefyd yn trefnu nosweithiau o adloniant. Maent yn cyfarfod bob nos Fercher yn lolfa Pantycelyn.

Cymru X
Cymru X yw Mudiad Ieuenctid Plaid Cymru ac yn ôl y mudiad ‘Bwriad Cymru X yw annog a rhoi’r gallu i bobl ifanc Cymru i chwarae rôl weithgar ym mhroses wleidyddol y wlad.’ Maent yn cyfarfod yn rheolaidd yn lolfa Pantycelyn.

Undeb Cristnogol
Criw o fyfyrwyr sy’n cwrdd i addoli Duw, i ddysgu o’r Beibl, ac i annog ei gilydd wrth ystyried pwysigrwydd Iesu Grist yn eu bywydau. Croeso i bawb ymuno, maen nhw’n cyfarfod bob nos Iau am 7pm ym Mhantycelyn ac ar amryw o nosweithiau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn! Edrychwch allan am y posteri.

Radio’r Bae
Cymdeithas yn Undeb y Myfyrwyr yw Radio’r Bae. Eleni mi fydd UMCA yn dechrau rhaglen radio Gymraeg ar Radio’r Bae felly os oes diddordeb gyda chi yn y cyfryngau galwch yn swyddfa UMCA am fwy o wybodaeth.

 

♥ ABER Mug
£4.00
» more info

 

University Ring
£0.00
» more info

» see all products

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students