Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Home UMCA
Beth yw UMCA?

UMCAPwrpas UMCA – Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth – yw gwasanaethu anghenion Cymraeg ein myfyrwyr a’u cynrychioli’n effeithiol. Mae UMCA yn undeb ddeinamig a gwerthfawr iawn sydd â hanes o frwydro dros achosion myfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi sicrhau fod gan y Brifysgol a’r Undeb bolisi dwyieithrwydd; hynny yw fod Undeb y Myfyrwyr a’r brifysgol yn cynhyrchu popeth yn ddwyieithog ac yn rhoi statws teilwng i’r Gymraeg fel ei bod yn rhan normal o fywyd myfyrwyr. Rydym yn gofalu fod hyn yn parhau i ddigwydd yn effeithiol fel bod gennym Brifysgol hollol ddwyieithog.

Yn ogystal rydym yn darparu gwersi i ddysgwyr yn rhad ac am ddim ac yn cyfathrebu gyda myfyrwyr o wledydd eraill am y Gymraeg. Mae UMCA hefyd yn trefnu pob math o nosweithiau adloniant Cymraeg trwy gydol y flwyddyn. Rydym hefyd yn ariannu nifer o gymdeithasau poblogaidd y bydd myfyrwyr UMCA yn cymryd rhan ynddynt yn ystod y flwyddyn. Mae swyddfa UMCA yn Neuadd Pantycelyn, drws nesaf i’r lolfa, ond dyw hyn ddim yn golygu nad oes croeso i fyfyrwyr o Neuaddau eraill. Os wyt ti’n siarad Cymraeg neu’n dysgu – rhaid i ti ymuno ag UMCA! Ychwanegwch fi i’ch MSN: llywydd_umca@hotmail.com

LAST_UPDATED2
 

Aberystwyth Photo Coaster
£2.40 £2.99
» more info

 

Car Tax/Licence Disc Holder
£1.25 £1.99
» more info

» see all products
A hoffech chi weld llawr sglefrio tu allan yr Undeb cyn Dolig?
 

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students