|
Os ydych yn gweithio ac yn fyfyriwr mae’n rhaid i chi dalu treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich enillion yn yr un modd â gweithwyr eraill y DG. Dyma rywfaint o bwyntiau y mae angen i chi eu gwybod:
Pryd mae angen i chi dalu treth Gwybod eich Lwfans Personol Sut i gael Ad-daliad Treth Gofalwch am eich P45 & P60 Beth os oes gen i fwy nag un swydd? Gwybod pryd bydd angen P38(S) arnoch Deall ychydig am eich cod treth Yswiriant Gwladol – A oes raid i mi ei dalu? Yswiriant Gwladol – A allaf i ei hawlio yn ôl? Adnabod eich Rhif Yswiriant Gwladol (RHYG)! Rhoi gwybod i CATHEM os newidiwch eich cyfeiriad Beth am weithio i mi fy hun/rhedeg fy musnes fy hun?
Pryd mae angen i chi dalu treth
Os ydych yn gweithio yn ystod y tymor neu ddim ond yn y gwyliau, caiff treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol eu tynnu o’ch enillion fel arfer. Fodd bynnag, gall bawb ennill swm penodol yn ddi-dreth ym mhob blwyddyn dreth. Gelwir hyn yn Lwfans Personol. Mae pob blwyddyn dreth yn cychwyn ar y 6ed o Ebrill ac yn gorffen yr Ebrill canlynol.
(Hefyd, os ydych yn fyfyriwr entrepreneuraidd /yn berchen ar eich busnes eich hun, efallai fod treth yn ddyledus felly cymerwch olwg ar y Cyngor Treth olaf isod).
Gwybod eich Lwfans Personol
Y Lwfans Personol ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol (sy’n gorffen ar 5ed Ebrill 2008) yw £5,225. Mae hyn yn golygu y gallwch ennill £5,225 yn ddi-dreth dros y flwyddyn dreth gyfan. Mae unrhyw incwm dros y swm hwn yn drethadwy.
Mae’r system dreth yn gweithio, at ddibenion casglu, fel bod y lwfans yn cael ei ddosrannu ar sail wythnosol neu fisol, yn dibynnu ar sut y cewch eich talu. Mae hyn er mwyn i’r swm di-dreth gael ei rannu ar hyd y flwyddyn. Felly nid yw’n golygu y cewch ennill £5,225 cyn cychwyn talu treth.
Yn y flwyddyn dreth nesaf, 6ed Ebrill 2008 hyd 5ed Ebrill 2009, bydd y Lwfans Personol yn £5,435.
Sut i gael Ad-daliad Treth
Os ydych yn ystod y flwyddyn dreth yn ennill llai na’ch Lwfans Personol a’ch bod eisoes wedi talu treth gallwch hawlio ad-daliad. I’ch cynorthwyo i wybod a oes hawl gennych i ad-daliad gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell dreth i’ch cynorthwyo; gallwch ddod o hyd iddi ar www.studenttaxadvice.org.uk ac mae’n myweithredol o’r 3 Mawrth 2008. Ceir canllawiau hefyd i ddweud wrthych pa gamau i’w dilyn nesaf.
Gofalwch am eich P45 & P60
Dylech dderbyn P45 pryd bynnag y byddwch yn gadael swydd. Cadwch hwn yn ddiogel a’i roi i’ch cyflogwr nesaf. Os ydych yn dal i weithio ar y 5ed o Ebrill, bydd eich cyflogwr yn rhoi P60 i chi. Mae’n rhaid iddynt wneud hynny erbyn y 31ain o Fai. Mae’n crynhoi’r swm yr ydych wedi ei ennill ynghyd â’r symiau treth a’r cyfraniadau’Yswiriant Gwladol a dynnwyd o’ch cyflog. Mae’r ddwy ddogfen yn hollbwysig os bydd angen i chi wneud cais am ad-daliad treth, felly cadwch nhw’n ddiogel bob amser.
Beth os oes gen i fwy nac un swydd?
O ran treth, waeth faint o swyddi sydd gennych, dim ond un Lwfans Personol y mae gennych hawl iddo mewn unrhyw flwyddyn dreth. (Mae Yswiriant Gwladol yn gweithio mewn modd gwahanol. Gweler isod).
Os cychwynnwch swydd arall heb roi’r gorau i’r swydd gyntaf ni fydd gennych ffurflen P45 i’w roi i’ch cyflogwr. Yn lle hynny, bydd yn rhaid i chi gwblhau P46. Dylech ddefnyddio’r ffurflen hon i ddweud wrth eich cyflogwr newydd eich bod yn gweithio yn rhywle arall hefyd. Nid oes rai i chi ddweud wrthynt ble’r ydych yn gweithio na faint ydych yn ei ennill.
Cymerwch olwg ar y Cyngor Treth isod am y cod treth cywir gan y gallech fod yn talu gormod o dreth, yn enwedig os ydych yn ennill llai na’r Lwfans Personol yn eich swydd gyntaf. Neu gweler ein gwefan, www.studenttaxadvice.org.uk, a fydd yn weithredol o’r 3 Mawrth a fydd ag adran ar fod â dwy swydd ran amser.
Gwybod pryd bydd angen P38(S) arnoch
Dyma’r ffurflen i fyfyrwyr sy’n gweithio yn ystod y gwyliau yn unig ac sy’n disgwyl ennill llai na’r Lwfans Personol yn ystod y flwyddyn dreth. Os ydych yn meddwl fod hyn yn gymwys i chi, dylech ofyn i’ch cyflogwr am y ffurflen gan fod hynny’n golygu nad oes angen i’r cyflogwr dynnu treth o’ch cyflog.
Dylid nodi fodd bynnag nad yw pob cyflogwr yn cynnig yr opsiwn hwn, gan ei fod yn drefniant arbennig sy’n wirfoddol iddynt. Ond mae hi’n dal yn werth gofyn i’ch cyflogwr am y ffurflen os mai yn y gwyliau’n unig yr ydych yn gweithio, a’ch bod yn disgwyl ennill dim mwy na’r Lwfans Personol gan y bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’ch treth.
Deall ychydig am eich cod treth
Os edrychwch ar eich slip talu, eich P45 neu eich P60, efallai y dewch o hyd i focs o’r enw ‘Cod Treth’. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr un ai’n gweld rhif 3 digid yn cael ei ddilyn gan lythyren (e.e., 522L) neu dim ond y ddwy lythyren, BR. Mae 522L yn golygu bod eich Lwfans Personol llawn o £5,225 yn cael ei ystyried pan gewch eich talu. (O’r 6ed o Ebrill 2008 bydd y cod hwn yn newid yn awtomatig i 543L gan y bydd y Lwfans Personol yn codi i £5,435).
Defnyddir y cod treth fel arfer gan eich cyflogwr i wybod faint o dreth i’w dynnu. Os mai dim ond un swydd sydd gennych ac mai BR yw eich cod mae’n debygol eich bod wedi talu gormod o dreth gan fod BR yn golygu fod eich enillion i gyd yn cael eu trethu ar y gyfradd sylfaenol (22% nes y 5ed o Ebrill 2008, 20% o’r 6ed o Ebrill 2008). Mae hynny’n golygu nad oes dim o’ch Lwfans Personol yn cael ei ddefnyddio yn y swydd honno. I newid hyn bydd angen i chi gysylltu â’ch swyddfa dreth CATHEMC a gallwch ddod o hyd i’r manylion sut i wneud hynny yn www.studenttaxadvice.org.uk o Fawrth y 3ydd 2008.
Os oes gennych fwy nac un swydd, mae’n aml yn gyffredin i un swydd ddefnyddio 522L (543L o’r 6ed o Ebrill 2008) a’r lleill i ddefnyddio BR. Ond hyd yn oed pan fydd hynny’n digwydd efallai eich bod yn talu gormod o dreth os ydych yn ennill llai na’r Lwfans Personol yn y swydd sydd â 522L fel cod.
Os mai un swydd yn unig sydd gennych ac mai’r cod yw 522L rydych yn fwy tebygol o dalu’r swm cywir o dreth gan fod eich Lwfans Personol wedi cael ei gymryd i ystyriaeth cyn i chi dalu’r dreth.
Ond cofiwch wirio a ydych yn talu’r swm cywir o dreth ac a allwch wneud cais am ad-daliad neu beidio drwy edrych ar y gyfrifiannell dreth ar-lein yn www.studenttaxadvice.org.uk (o’r 3ydd o Fawrth 2008).
Am fwy o wybodaeth am y cod treth, edrychwch ar: http://www.direct.gov.uk/en/MoneyTaxAndBenefits/Taxes/BeginnersGuideToTax/DG_4015472
Yswiriant Gwladol – A oes raid i mi ei dalu?
Oes, dylai eich cyflogwr dynnu cyfraniadau Yswiriant Gwladol o’ch enillion pryd bynnag yr enillwch fwy na £100 yr wythnos (neu £435 y mis) yn ystod y flwyddyn dreth bresennol. Gelwir hyn yn Drothwy Enillion. Ond os nad ydych yn cael eich talu fwy na’r symiau hyn ni ddylai eich cyflogwr dynnu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Os ydych yn rhedeg eich busnes eich hun efallai y bydd rhaid i chi hefyd dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn dibynnu ar lefel eich enillion o hunangyflogaeth – edrychwch ar ein Cyngor Treth olaf ar y diwedd i gael mwy o wybodaeth am fod yn hunangyflogedig.
Yswiriant Gwladol – A allaf i ei hawlio yn ôl?
Mae Yswiriant Gwladol yn wahanol i dreth incwm gan yr edrychir ar eich enillion yn wythnosol (os cewch eich talu yn wythnosol) neu’n fisol (os cewch eich talu’n fisol) yn hytrach na’i asesu ar sail lwfans blynyddol fel y mae treth incwm. Felly oni bai bod eich cyflogwr wedi tynnu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn anghywir yn seiliedig ar y terfynau uchod, ni allwch gael ad-daliad.
Os oes gennych fwy nac un swydd gyda chyflogwyr gwahanol nad ydynt yn ymgymryd â busnes mewn cydweithrediad â’i gilydd, bydd pob cyflogwr yn edrych ar y trothwyon hyn ar wahân. Felly er enghraifft, os oedd gennych 2 gyflogwr yn talu £60 yr un i chi'r wythnos ni fyddai raid i chi dalu Yswiriant Gwladol gan fod y ddau gyflogwr yn talu llai na’r trothwy enillion o £100 i chi (er bod cyfanswm eich enillion yn £120). Unwaith eto, mae hyn yn wahanol i dreth incwm ble mae eich holl incwm yn cael ei ychwanegu at ei gilydd a’i gymharu â’ch Lwfans Personol i weld a oes treth i’w thalu.
Yn y flwyddyn dreth nesaf, 6 Ebrill 2008 i’r 5 Ebrill 2009, mae Trothwy Enillion wythnosol Yswiriant Gwladol yn newid i £105 a’r trothwy misol yn newid i £453.
Am fwy o wybodaeth am gyfraniadau Yswiriant Gwladol, gweler: http://www.hmrc.gov.uk/rates/nic.htm.
Adnabod eich Rhif Yswiriant Gwladol (RHYG)!
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi eich Rhif Yswiriant Gwladol yn gywir bob tro. Dylech ei roi i’ch cyflogwr pan gychwynnwch weithio iddo. Bydd angen i chi ei rloihefyd os oes angen cysylltu â CATHEM. Bydd defnyddio’ch RHYG yn gywir yn gwneud yn siŵr fod y cyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych yn eu talu yn cael eu cofnodi ger eich enw ac felly o gymorth i atal lladrad hunaniaeth. Bydd hefyd o gymorth i ofalu eich bod yn talu’r swm cywir o dreth.
Bydd Banciau a chymdeithasau adeiladu hefyd fel arfer yn gofyn amdano pan fyddwch yn agor cyfrifon newydd. Fel arfer byddwch yn derbyn cerdyn rhif Yswiriant Gwladol wedi cyrraedd 16 oed. Os ydych yn fyfyriwr tramor ac eisiau gweithio dylech wneud cais am RHYG os nad oes un gennych drwy ffonio llinell gymorth gwasanaeth dyrannu RHYG Canolfan Byd Gwaith ar 0845 600 0643. Byddant yn gwneud yn siŵr fod angen RHYG arnoch ac yn trefnu i chi gael cyfweliad er mwyn profi eich hunaniaeth.
Rhoi gwybod i CATHEM os newidiwch eich cyfeiriad
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i’ch swyddfa dreth CATHEM os newidiwch gyfeiriad, yn enwedig oherwydd na fydd eich cyflogwr yn dweud wrth y swyddfa dreth drosoch. Gallwch ddod o hyd i ba swyddfa dreth CATHEM y mae angen i chi ddelio â hi ar-lein yn www.studenttaxadvice.org.uk (o 3 Mawrth 2008)
Beth am weithio i mi fy hun/rhedeg fy musnes fy hun?
Mae rhai myfyrwyr wedi troi’n eithaf entrepreneuraidd a rhedeg eu busnesau eu hunain, er enghraifft gallech fod yn cynnal cwisiau tafarn ac yn gwneud elw o hynny. Neu efallai eich bod yn ennill arian o drwsio beiciau pobl eraill a gwneud negeseuon eraill. Neu efallai eich bod yn gwneud arian o safle gwe yr ydych wedi ei greu.
Os ydych yn rhedeg eich busnes eich hun mae angen i chi gofrestru gyda CATHEM o fewn 3 mis o gychwyn eich busnes, neu fe allech orfod talu dirwy. Byddwch yn talu treth ar yr elw a wnewch sydd uwchben eich Lwfans Personol. Byddwn fel arfer yn gyrru ffurflen dreth Hunanasesu atoch bob blwyddyn i’ch galluogi i wneud hyn. Efallai y bydd rhaid i chi hefyd dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Efallai y bydd angen i chi hefyd gofrestru ar gyfer TAW (er ar gyfer myfyriwr llawn amser, mae hyn yn annhebygol iawn). Mae gwybodaeth am hyn oll ar gael ar-lein (gweler isod).
Oherwydd bod eich Lwfans Personol ar gyfer eich incwm wedi ei adio i gyd at ei gilydd, efallai y sylwch fod eich incwm yn mynd dros y Lwfans Personol os oes gennych eich busnes eich hun a hefyd gyflogwr yr ydych yn gweithio iddo.
Fel y soniwyd, mae llawer o wybodaeth am fod yn hunangyflogedig ar gael ar-lein. Lle da i ddechrau yw: http://www.direct.gov.uk/en/MoneyTaxAndBenefits/Taxes/WorkingAndPayingTax/DG_4015975
Am fwy o wybodaeth am ymgyrch treth myfyrwyr CATHEM, cysylltwch â Katie Shaw, Nicki Akers neu Joanna Kwiatkowska yn Fishburn Hedges ar hmrc@fishburn-hedges.co.uk neu 020 7839 4321.
|