
Cyngor Academaidd
Â
- Cyngor a chynrychiolaeth ar apeliadau academaidd, h.y. apeliadau yn erbyn canlyniadau gradd a phroblemau â datblygiad
- Cyngor a chynrychiolaeth ar gyhuddiadau o lên-ladrad
- Cyngor ar sut i newid cwrs a phrifysgol
- Cydlynu Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr (CAM)
Mae rhagor o gefnogaeth ar gael o’r mannau canlynolÂ
Y BrifysgolÂ
Y Swyddfa Academaidd (unrhyw ymholiadau) - (01970) 622013/4 neu 2013/4 yn fewnol
Swyddfa’r Deon (newid modiwlau a chyngor) - (01970) 622525/7 neu 2525/7 yn fewnol
Canolfan Iaith a Dysgu (cefnogaeth a chymorth cyfrinachol gydag anawsterau dysgu) - (01970) 622545 neu e-bost
Gwasanaeth Gyrfaoedd - (01970) 622376 neu e-bost
Os ydych yn ymadael â'r Brifysgol:
Mae'r Swyddfa Academaidd yn amlinellu'r camau y mae angen i chi eu cymryd i ymadael â'r Brifysgol naill ai'n barhaol neu dros dro:
Clicwych yma am manylion
Mae'n bwysig cofio bod angen i chi gysylltu â'ch AALl a'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr cyn gynted ag y byddwch yn ymadael. Os ydych yn bwriadu dod yn ôl i'r Brifysgol, dylai eich AALl anfon y ffurflenni pwrpasol yn y misoedd cyn i chi ddod yn ôl, ond sylweddolwch ei bod yn bosibl y bydd yn rhaid i chi eu hatgoffa!
PWYSIG
Os ydych chi'n Ymadael Dros Dro, eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu â'r Brifysgol cyn i chi ddod yn ôl. Er enghraifft os ydych chi'n bwriadu dod yn ôl ym mis Medi, bydd angen i chi gysylltu â'r swyddfa academaidd erbyn diwedd Mehefin. Bydd hynny'n sicrhau y gellir rhoi gwybod i'ch adran/swyddfa lety/swyddfa gyllid eich bod yn dod yn ôl.
Os ydych chi wedi Ymadael Dros Dro am resymau meddygol, mae angen i chi hefyd anfon papur doctor yn dweud eich bod nawr yn feddygol yn abl i fynd yn ôl at eich astudiaethau.
Os oes angen unrhyw help arnoch gyda'r trefniadau ymadael gallwch ffonio CCChM ar 01970 621740 neu'r swyddfa academaidd ar 01970 622013.
|
|
LAST_UPDATED2 |