Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Home Cymorth a Chyngor Cyngor Apelio a Gwirio
Apelio a Gwirio

A ydych chi’n anhapus gyda’ch canlyniadau?

Mae yna ddwy ffordd o gael eich gwaith wedi’i ailasesu, y weithdrefn Gwirio a’r weithdrefn Apelio. Mae’r dudalen hon yn rhoi amlinelliad o’r ddwy weithdrefn a dolen i’r gwefannau perthnasol a’r ffurflenni a ddarperir gan y Swyddfa Academaidd.


Gwirio:
Mae yna dri rheswm i wirio’ch marciau. Yn gyntaf, er mwyn sicrhau fod materion penodol wedi cael eu hystyried tra’r oedd eich gwaith yn cael ei asesu, h.y., materion y gwnaethoch adael iddynt wybod amdanynt cyn yr arholiad. Gall rhain gynnwys salwch neu broblemau gartref, megis profedigaeth yn y teulu.
Yn ail, mae’n bosib eich bod eisiau sicrhau bod yr holl farciau wedi’u hadio’n gywir gan nad oeddech wedi disgwyl marc mor isel.
Yn olaf, efallai’r oedd problem yn ystod yr arholiad a’ch bod eisiau gwirio bod hyn wedi’i ystyried.
Mae gennych 10 diwrnod gwaith i gwblhau’r ffurflen ganlynol: http://www.aber.ac.uk/en/media/application_for_verification.pdf
Gall y penderfyniad mewn ysgrifen gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith (3 wythnos).
Gellir gweld mwy o fanylion ar wirio yma:  http://www.aber.ac.uk/en/regulations/appeals/verification-appeals/


Apelio:
Mae yna ddau reswm i apelio. Os na wnaethoch adrodd y broblem cyn yr arholiad neu’r gwaith cwrs yna mae’n rhaid i chi apelio yn erbyn eich marc yn egluro’ch sefyllfa. Gallwch hefyd apelio yn dilyn canlyniad y gwirio os gwnaethoch adrodd y broblem. 
Os na wnaethoch adrodd y broblem: Gall y rhesymau dros beidio adrodd problemau gynnwys salwch neu farwolaeth sydyn yn y teulu a effeithiodd gymaint arnoch fel na chawsoch amser i’w adrodd i’r adran mewn pryd. Mi fydd angen i chi ddarparu rhesymau da dros pam na wnaethoch adael i’r bwrdd arholi wybod am y mater hwn cyn i chi gyflwyno unrhyw waith cwrs neu sefyll arholiad.
Os ydych wedi bod trwy’r broses gwirio ac wedi adrodd y broblem o flaen llaw: Gallwch apelio yn erbyn eich marciau os ydych wedi bod trwy’r broses gwirio ond heb dderbyn y canlyniad yr oeddech wedi’i obeithio. Mae’n bosib eich bod wedi cael gwybod bod yr arholwyr yn ymwybodol o amgylchiadau personol a meddygol ac nad oedd yna anghysondebau yn y ffordd y marciwyd y traethawd/arholiad.
Mae gennych 10 diwrnod gwaith i gwblhau’r ffurflen ganlynol: <http://www.aber.ac.uk/en/media/appeals_form.pdf>
Gall y penderfyniad mewn ysgrifen gymryd hyd at 25 diwrnod gwaith (5 wythnos).
Gellir gweld mwy o fanylion ar apelio yma: <http://www.aber.ac.uk/en/student/ug-issues/exam-assess/appeals/>

Rhestr Hanfodion Gwirio ac Apelio:
• Cadwch gopi o bopeth yr ydych yn ei yrru. Boed hynny’n e-byst neu’n ffurflenni y gwnaethoch eu cyflwyno cyn neu ar ôl eich arholiadau.
• Os ydych yn cael gwybod rhywbeth dros y ffôn, gofynnwch iddynt gadarnhau hyn mewn e-bost fel bod gennych dystiolaeth o’r wybodaeth.
• Mae cofnodion meddygol hefyd yn bwysig, gwnewch nodyn o’ch cyfarfodydd ac os oes angen, gofynnwch iddynt gadarnhau materion meddygol blaenorol mewn llythyr, h.y. efallai’r aethoch atynt yn eich tymor cyntaf gydag iselder ond heb grybwyll hyn o gwbl cyn eich arholiadau.


Siaradwch gyda ni!
Dewch i weld y Swyddog Addysg cyn i chi gyflwyno’r ffurflenni hyn os hoffech i rywun ddarllen drostynt – neu gyrrwch ebost i undeb.addysg@aber.ac.uk am unrhyw gyngor.
Mae gennym hefyd Gynghorydd Myfyrwyr yn y Ganolfan Cynghori, i drefnu apwyntiad gyrrwch ebost i undeb.lles@aber.ac.uk.

LAST_UPDATED2
 

Aberystwyth from the South postcard
£0.30
» more info

 

Aberystwyth Pier at Sunset postcard
£0.30
» more info

» see all products

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students