Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Pyliau o Banig

Mae pwl o banig yn digwydd pan mae'r corff yn gorwneud ei ymateb arferol i ofn, straen neu gynnwrf ac fe all fod yn hynod ddychrynllyd.

Symptomau 

Gall y symptomau gynnwys:

• Anadl cyflym iawn (goranadlu)

• Teimlo fel na ellir anadlu

• Poenau yn y frest

• Penysgafnder a theimlo fel llewygu

• Chwysu/chwiwiau poeth ac oer

• Teimlo'n sâl neu angen mynd i'r toiled

• Teimlo ar wahan i'ch corff neu'r lle o'ch cwmpas


Beth i'w wneud 

• Caniatewch y symptomau o banig. Maent yn annymunol a dychrynllyd ond nid ydynt yn beryg bywyd. Mae brwydro yn erbyn y symptomau'n cynyddu'r panig.

• Arafwch eich anadl trwy gwpanu eich dwylo dros eich trwyn a'ch ceg ac anadlwch i mewn i'ch dwylo am 10 munud. Mae hyn yn cynyddu'r lefel o garbon deuocsid yn llif y gwaed ac yn esmwytho'r symptomau.

• Ar ôl gwneud hyn, daliwch i anadlu'n araf ac yn ddyfn o'ch diaffram.

• Siaradwch yn bositif i chi'ch hun - 'Rwy'n teimo'n well', 'Mae hyn yn haws nag oni'n feddwl'.

• Dychmygwch ddelweddau neu atgofion a fydd yn eich ymlacio.

• Dewch â'ch hun yn ôl at bethau go iawn trwy restru pethau fel eich enw, eich cyfeiriad, eich dyddiad geni, y dillad 'da chi'n eu gwisgo ac enw'r llyfr 'da chi'n ei ddarllen.

• Ymarferwch y pethau hyn bob dydd.

• Ceisiwch osgoi bwyd sydd â llawer o siwgr, bwyd sothach, caffin, alcohol, ysmygu a symbylyddion eraill.

Os ydych angen cymorth i ddelio â phyliau o banig, ewch i weld cynghorydd yng Nghanolfan Cyngor a Chynghori Myfyrwyr.

LAST_UPDATED2
 

University of Wales Tie
£10.00
» more info

 

University of Wales Graduate Tie
£10.00
» more info

» see all products

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students