A ydych chi'n poeni am ffrind neu gyd-fyfyriwr?
Arwyddion o broblemau
- A yw'ch ffrind wedi dweud wrthych fod ganddynt broblem?
- A oes yna unrhyw newidiadau dramatig wedi bod yn y ffordd maent yn edrych/eu pwysau/eu hylendid?
- A ydynt yn yfed mwy o alcohol neu'n cymryd cyffuriau?
- A yw eu hwyliau wedi newid yn sylweddol yn ddiweddar?
- A yw pobl eraill wedi mynegi eu pryder?
- A yw eu hymddygiad wedi newid e.e. ddim yn cymdeithasu gymaint ag arfer, yn dawel, ddim yn mynd i ddarlithoedd ayyb.
- Gall unrhyw un o'r arwyddion hyn ddynodi angen i fod yn bryderus am eich ffrind.
Beth i'w wneud nesaf
- Ni fydd osgoi'r sefyllfa neu gocsio nad oes dim o'i le yn helpu eich ffrind, felly dyma awgrymiadau defnyddiol i ddelio â ffrind sydd mewn trafferth:
- Cyfathrebwch eich pryderon i'ch ffrind. Mae gadael iddynt wybod eich bod yn poeni amdanynt ac yn barod i wrando arnynt yn gam cyntaf allweddol.
- Anogwch eich ffrind i gael cyngor eu doctor neu ystyried gweld cynghorydd.
- Byddwch yn realistig ynglŷn â beth allwch chi ei gyflawni ar eich pen eich hun. Peidiwch â cheisio gwneud gormod a chofiwch fod yn well i rywun proffesiynol ddelio â rhai pethau.
- Anogwch hwy i wneud ymarfer corff a bwyta'n iach. O bosib gallwch drefnu i'w cwrdd am bryd o fwyd neu ddosbarth ymarfer corff am na fyddent o bosib yn trefnu unrhyw beth ar eu pen eu hunain.
- PEIDIWCH â dweud wrthynt i 'gyfrif eu bendithion', neu i 'snapio allan o'r peth'. Nid yw'r rhain yn helpu.
- Byddwch yn sensitif. Efallai nad yw'ch ffrind yn teimlo fel eu hunain, felly peidiwch â chael eich pechu os ydynt yn gwrthod eich cynigion neu fod eu hymatebion yn gwta. Parhewch i ddangos eich bod yn meddwl amdanynt.
- Os credwch fod rhywun yn ddifrifol isel eu hysbryd, neu mewn perygl, PEIDIWCH â chario'r baich ar eich pen eich hun - canfyddwch gymorth gan y gwasanaeth Cynghora, eich tiwtoriaid neu ddoctor. Ceisiwch gael caniatad eich ffrind i siarad gyda chymorth allanol, ond cofiwch mai eu diogelwch personol nhw sydd bwysicach felly efallai bydd rhaid i chi weithredu heb eu caniatad.
|