
| NawddNos Aberystwyth |
|
Rydym yma i wrando . . . Gwasanaeth gwrando cyfrinachol yw NawddNos a weithredir gan fyfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr Rydym ar agor: Pwy ydyn ni?Mae NawddNos yn sefydliad cenedlaethol sy'n darparu gwasanaeth gwrando cyfrinachol a weithredir yn wirfoddol gan fyfyrwyr ymroddgar. Beth rydyn ni'n ei wneud?Gwrando:Rydym yma i wrando ar beth bynnag sydd arnoch eisiau siarad amdano. Derbyniwn alwadau ynghylch unrhyw beth; os oes arnoch awydd sgwrs neu angen trafod rhywbeth sy'n eich pryderu, byddwn ni'n gwrando arnoch chi. Tacsis:Methu dod o hyd i dacsi? Ffoniwch NawddNos a gallwn ni drefnu un ar eich cyfer chi. Gwybodaeth:Unrhyw beth o amserlen y trên i afiechydon rhywiol, o rifau ffôn y porthorion i rifau ffôn bwytai 'takeaway'. Nawn ni ein gorau glas i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd arnoch ei hangen. Siaradwch â ni am unrhyw bethSut i gysylltu â ni?Dydd Mercher i ddydd Sadwrn, bob wythnos yn ystod y tymor, rhwng 8yh ac 8yb, gellir cysylltu â ni trwy ffonio 01970 621 717. Â diddordeb mewn gwirfoddoli?Mae NawddNos bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr newydd. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â NawddNos a gofynnwch am wybodaeth ar gyfleoedd hyfforddi. |
| LAST_UPDATED2 |
![]() |
Business Card Case |
![]() |
Aberystwyth University Mug |
| » see all products | |
- Cyfnewid tocynnau diodydd y Ddawns Fai
- Wythnos Cychwyn Busnes
- Fantime Friday
- Neges gan yn Swyddog Gweithgareddau
- Neges gan Gadeirydd yr Urdd
Darllen pob datganiad i'r wasg
Darllen y newyddion diweddaraf
- Loading...











