Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Hiraeth

Mae dod i'r Brifysgol a gadael eich cartref efallai am y tro cyntaf yn gallu'ch gwneud yn hiraethus. Weithiau, fe all hyn fod yn ormod. Gallwch deimlo'n unig, dagreuol a phryderus. Efallai na allwch gysgu na bwyta'n iawn neu efallai'ch bod chi'n yfed gormod. Fe all fod yn anodd canfod y cydbwysedd rhwng treulio gromod o amser ar eich ben eich hun a bod yn rhy brysur er mwyn osgoi bod ar ben eich hun.

Mae'n bosib eich bod yn teimlo ychydig yn fflat neu'n siomedig wedi cyrraedd y Brifysgol o'r diwedd neu efallai fod gennych amheuon am eich cwrs a'ch dewis o Brifysgol. Mae eich tiwtor personol a wardeniaid a staff gyrfaoedd y Brifysgol i gyd ar gael i'ch helpu ar yr adeg yma.

Beth i'w wneud 

• Derbyn fod y teimladau hyn yn arferol ac maent fel arfer yn pylu gydag amser.

• Siaradwch gydag eraill sydd, mae'n debyg, yn teimlo'r un fath â chi.

• Meddyliwch yn ofalus ynglŷn â mynd adref ar benwythnosau. A yw hyn yn helpu neu a yw'r symud cyson yn gwneud i chi deimlo'n waeth?

• Sefydlwch drefn wythnosol a fydd yn eich atal rhag treulio gormod o amser ar eich ben eich hun.

• Dewch i nabod pobl newydd trwy weithgareddau tu allan eich cwrs. Un lle da i ddechrau gwneud hyn yw trwy'r chwaraeon a'r cymdeithasau yn yr Undeb Myfyrwyr.

• Ystyriwch wirfoddoli i gynorthwyo prosiectau trwy'r Swyddfa Gwirfoddoli yn yr Undeb Myfyrwyr. Mae hyn yn ffordd da o gwrdd myfyrwyr a helpu eraill.


Gall hiraeth ddod i'r wyneb ar unrhyw adeg yn ystod eich astudiaethau, ond os yw'n parhau ac mae'n eich atal rhag gwneud gweithgareddau cymdeithasol ac academaidd arferol, ewch i weld cynghorydd yn y Ganolfan Cyngor a Chynghori Myfyrwyr.

 

Sheep postcard
£0.30
» more info

 

Welsh Mountain Ram postcard
£0.30
» more info

» see all products

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students