Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Cysgu'n Dawel

Mae oedolion angen tua 7 i 8 awr o gwsg y nos. Llai na 4 awr ac yn fuan ni allwch ganolbwyntio neu yrru car, ac mae'ch system imiwnedd dan straen. Mae'r mwyafrif ohonom yn cael cyfnodau byr o insomnia.

Beth i'w wneud

  • Cydbwyswch eich diwrnod gyda chyfnodau o waith, ymarfer corff a hwyl
  • Sefydlwch rwtîn sy'n gweddu i chi i fynd i'ch gwely a deffro
  • Caniatewch amser i dreulio'ch pryd o fwyd diwethaf (2 awr)
  • Ymlaciwch yn ystod yr awr cyn eich gwely, a chliriwch eich meddwl
  • Ewch am gawod neu fath cynnes
  • Sicrhewch fod eich gwely'n gyfforddus, a bod eich ystafell yn dawel a chynnes
  • Mwynhewch eich bywyd rhywiol
  • Dysgwch dechnegau ymlacio megis anadlu'n ddyfn
  • Cofiwch osgoi symbylyddion fel coffi, te, alcohol ac ysmygu ar ôl 9yh
  • Cadwch ddyddiadur cwsg a gweld os oes patrwm
  • Peidiwch â chymryd tabledi cwsg os nad yw'n hollol angenrheidiol, ac am ddim mwy na thridie ar y tro
  • Peidiwch â gorwedd yno'n poeni neu'n gwylio'r cloc
  • Codwch a gwnewch rywbeth i dynnu'ch sylw, yn ddelfrydol mewn ystafell arall
  • Ewch nôl i'r gwely pan ydych yn teimlo'n gysglyd eto

Os nad yw'r rhain yn gweithio, ewch i weld doctor neu gynghorydd.

 

 

Aberystwyth Seafront postcard
£0.30
» more info

 

Evening Sun on Aberystwyth Seafront postcard
£0.30
» more info

» see all products

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students