Beth yw Bwlio?
Mae bwlio fel arfer yn cynnwys person neu grŵp yn manteisio ar y ffaith eu bod yn teimlo'n fwy pwerus na rhywun arall. Mae sawl math o fwlio megis: cau pobl allan o gylch cymdeithasol; camdriniaeth hiliol a homoffobig; cael eich neilltuo am fod yn 'wahanol'; camdriniaeth ac anffafriaeth rywiol; cael eich gwawdio am sefyllfa eich teulu; ac ymosodiadau corfforol a threisgar.
Nid yn yr ysgol yn unig mae bwlio'n digwydd! Gall ddigwydd i unrhyw un, unrhyw oed, mewn unrhyw sefyllfa mewn bywyd - gan gynnwys yn y Brifysgol!
Sut i drechu Bwlio
• Codwch eich llais – siaradwch gyda thiwtor, cynghorydd myfyrwyr neu sefydliad arbenigol. • Iaith y Corff – mae bwlis yn canolbwyntio ar dargedau hawdd, felly’r mwyaf hyderus yr ydych yn teimlo a’n edrych y llai tebygol y cewch eich bwlio. • Diogelwch mewn niferoedd - dewiswch y ffordd fwyaf diogel a mwyaf cyhoeddus i fynd adref/i’r Brifysgol a cheisiwch fod mewn criw trwy’r amser. • Cerddwch i ffwrdd – tynnwch eich hun o’r sefyllfa os yw’n bosib.
Siaradwch gyda rhywun
Mae cynghora ar gael i fyfyrwyr trwy’r CCChM trwy gysylltu gyda undeb.lles@aber.ac.uk. Gallwch siarad gyda’ch tiwtor personol, neu unrhyw diwtor arall yr ydych yn fodlon siarad gyda nhw. Gellir cysylltu gydag elusennau/sefydliadau allanol am gymorth cyfrinachol.
www.bullyonline.org Gwefan ar gyfer achosion o fwlio yn y gweithle, yn y teulu ac mewn sefydliadau fel prifysgolion. www.bullying.co.uk Darparu gwybodaeth ar oblygiadau cyfreithiol, yn ogystal â chyngor i fyfyrwyr a phlant ysgol sy’n cael eu bwlio. www.thesite.org Darparu cyngor i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed ac mae gan y wefan rannau arbennig ar fwlio. www.bbc.co.uk/radio1/onelife Tudalennau cymorth a gwybodaeth gyffredinol ar drechu bwlio mewn prifysgolion a cholegau.
Gallwch hefyd ffonio: CARELINE - 020 8514 1177 ar gyfer cynghora dros y ffôn i bobl ifanc ar unrhyw fater. BULLYWATCH—01454 318753 ar gyfer cymorth gyda materion yn ymwneud â bwlio. Y Samariaid—08457 909090 ar gyfer gwasanaeth gwrando a chymorth 24 awr.
|