Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Cynghori
NawddNos Aberystwyth

Rydym yma i wrando . . .
                                        . . . nid pregethu
                                                                  01970 621 717

Gwasanaeth gwrando cyfrinachol yw NawddNos a weithredir gan fyfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr

Rydym ar agor:
Dydd Mercher — Dydd Sadwrn
8yh — 8yb

www.nightline.aber.ac.uk

Pwy ydyn ni?

Mae NawddNos yn sefydliad cenedlaethol sy'n darparu gwasanaeth gwrando cyfrinachol a weithredir yn wirfoddol gan fyfyrwyr ymroddgar.

Beth rydyn ni'n ei wneud?

Gwrando: 

Rydym yma i wrando ar beth bynnag sydd arnoch eisiau siarad amdano. Derbyniwn alwadau ynghylch unrhyw beth; os oes arnoch awydd sgwrs neu angen trafod rhywbeth sy'n eich pryderu, byddwn ni'n gwrando arnoch chi.

Tacsis:

Methu dod o hyd i dacsi? Ffoniwch NawddNos a gallwn ni drefnu un ar eich cyfer chi.

Gwybodaeth:

Unrhyw beth o amserlen y trên i afiechydon rhywiol, o rifau ffôn y porthorion i rifau ffôn bwytai 'takeaway'. Nawn ni ein gorau glas i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd arnoch ei hangen.

Siaradwch â ni am unrhyw beth

Sut i gysylltu â ni?

Dydd Mercher i ddydd Sadwrn, bob wythnos yn ystod y tymor, rhwng 8yh ac 8yb, gellir cysylltu â ni trwy ffonio 01970 621 717.

 diddordeb mewn gwirfoddoli?

Mae NawddNos bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr newydd. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â NawddNos a gofynnwch am wybodaeth ar gyfleoedd hyfforddi.

nightline@aber.ac.uk

LAST_UPDATED2
 
How To Just Get On With It!
There are no translations available.

(practical ways to overcome procrastination)

 

Do you…

-         put off everything until it’s too late?

-         feel overwhelmed by your academic work?

-         miss deadlines and lose marks through lateness?

-         feel unable to enjoy yourself due to work outstanding?

 

Then this workshop is for you!

 

You will learn what is preventing you from concentrating on your studies and discover new ways to motivate yourself.  You can change your thinking and behaviour in order to things done.

 

This workshop will be run by Kerry Crusoe at 2pm for 1 ½ hours on:

 

WEDNESDAY 23rd NOVEMBER

LAST_UPDATED2
 
Cysgu'n Dawel

Mae oedolion angen tua 7 i 8 awr o gwsg y nos. Llai na 4 awr ac yn fuan ni allwch ganolbwyntio neu yrru car, ac mae'ch system imiwnedd dan straen. Mae'r mwyafrif ohonom yn cael cyfnodau byr o insomnia.

Beth i'w wneud

  • Cydbwyswch eich diwrnod gyda chyfnodau o waith, ymarfer corff a hwyl
  • Sefydlwch rwtîn sy'n gweddu i chi i fynd i'ch gwely a deffro
  • Caniatewch amser i dreulio'ch pryd o fwyd diwethaf (2 awr)
  • Ymlaciwch yn ystod yr awr cyn eich gwely, a chliriwch eich meddwl
  • Ewch am gawod neu fath cynnes
  • Sicrhewch fod eich gwely'n gyfforddus, a bod eich ystafell yn dawel a chynnes
  • Mwynhewch eich bywyd rhywiol
  • Dysgwch dechnegau ymlacio megis anadlu'n ddyfn
  • Cofiwch osgoi symbylyddion fel coffi, te, alcohol ac ysmygu ar ôl 9yh
  • Cadwch ddyddiadur cwsg a gweld os oes patrwm
  • Peidiwch â chymryd tabledi cwsg os nad yw'n hollol angenrheidiol, ac am ddim mwy na thridie ar y tro
  • Peidiwch â gorwedd yno'n poeni neu'n gwylio'r cloc
  • Codwch a gwnewch rywbeth i dynnu'ch sylw, yn ddelfrydol mewn ystafell arall
  • Ewch nôl i'r gwely pan ydych yn teimlo'n gysglyd eto

Os nad yw'r rhain yn gweithio, ewch i weld doctor neu gynghorydd.

 

 
Poeni am ffrind?

A ydych chi'n poeni am ffrind neu gyd-fyfyriwr?

Arwyddion o broblemau

  • A yw'ch ffrind wedi dweud wrthych fod ganddynt broblem?
  • A oes yna unrhyw newidiadau dramatig wedi bod yn y ffordd maent yn edrych/eu pwysau/eu hylendid?
  • A ydynt yn yfed mwy o alcohol neu'n cymryd cyffuriau?
  • A yw eu hwyliau wedi newid yn sylweddol yn ddiweddar?
  • A yw pobl eraill wedi mynegi eu pryder?
  • A yw eu hymddygiad wedi newid e.e. ddim yn cymdeithasu gymaint ag arfer, yn dawel, ddim yn mynd i ddarlithoedd ayyb.
  • Gall unrhyw un o'r arwyddion hyn ddynodi angen i fod yn bryderus am eich ffrind.

Beth i'w wneud nesaf

  • Ni fydd osgoi'r sefyllfa neu gocsio nad oes dim o'i le yn helpu eich ffrind, felly dyma awgrymiadau defnyddiol i ddelio â ffrind sydd mewn trafferth:
  • Cyfathrebwch eich pryderon i'ch ffrind. Mae gadael iddynt wybod eich bod yn poeni amdanynt ac yn barod i wrando arnynt yn gam cyntaf allweddol.
  • Anogwch eich ffrind i gael cyngor eu doctor neu ystyried gweld cynghorydd.
  • Byddwch yn realistig ynglŷn â beth allwch chi ei gyflawni ar eich pen eich hun. Peidiwch â cheisio gwneud gormod a chofiwch fod yn well i rywun proffesiynol ddelio â rhai pethau. 
  • Anogwch hwy i wneud ymarfer corff a bwyta'n iach. O bosib gallwch drefnu i'w cwrdd am bryd o fwyd neu ddosbarth ymarfer corff am na fyddent o bosib yn trefnu unrhyw beth ar eu pen eu hunain.
  • PEIDIWCH â dweud wrthynt i 'gyfrif eu bendithion', neu i 'snapio allan o'r peth'. Nid yw'r rhain yn helpu.
  • Byddwch yn sensitif. Efallai nad yw'ch ffrind yn teimlo fel eu hunain, felly peidiwch â chael eich pechu os ydynt yn gwrthod eich cynigion neu fod eu hymatebion yn gwta. Parhewch i ddangos eich bod yn meddwl amdanynt.
  • Os credwch fod rhywun yn ddifrifol isel eu hysbryd, neu mewn perygl, PEIDIWCH â chario'r baich ar eich pen eich hun - canfyddwch gymorth gan y gwasanaeth Cynghora, eich tiwtoriaid neu ddoctor. Ceisiwch gael caniatad eich ffrind i siarad gyda chymorth allanol, ond cofiwch mai eu diogelwch personol nhw sydd bwysicach felly efallai bydd rhaid i chi weithredu heb eu caniatad.

 

 

 
Rheoli pwysau - osgoi straen

Mae straen yn ganlyniad o golli'r cydbwysedd rhwng yr holl alw arnoch chi a'ch gallu i ddelio gyda nhw. Mae'n effeithio eich system gyfan - eich corff, teimladau, meddwl ac ymddygiad. Rydych angen cymryd yn ôl peth reolaeth.

Beth i'w wneud -


• Rheoli eich amser. Gosod blaenoriaethau. Rhannu cyfrifoldebau gydag eraill.
• Dysgu dweud na.
• Gwobrwyo eich hun pob tro y byddwch yn cyflawni eich nod.
• Gwneud amser i chi eich hunain - gwneud pethau er eich mwynhad eich hun.
• Dod o hyd i ffyrdd o ymlacio sydd yn gweddu i chi, a'u defnyddio pob dydd - anadlu'n ddwfn, myfyrdod, yoga, peintio, cerdded.
• Rhyddhau tensiwn gyda gweithgaredd corfforol.
• Digon o gwsg a chymryd seibiant pan fyddwch wedi blino.
• Lleihau symbylydd - coffi, alcohol, ysmygu.
• Osgoi tawelyddion - tabledi cysgu yw'r ateb olaf.
• Os ydych yn sâl, peidiwch â pharhau yn ddifater.
• Dysgu sut i ddatrys problemau, yn hytrach na'u hosgoi nhw.
• Os ydych yn poeni, neu'n anhapus, ewch i chwilio am rywun i allu sgwrsio.

Os yw straen yn amharu'n ddifrifol ar eich bywyd ac rydych eisiau gweld cynghorydd, cysylltwch gyda'r Ganolfan Gyngor a Chynghori Myfyrwyr.

 
<< Cychwyn < Yn ôl 1 2 3 Nesaf > Diwedd >>

JPAGE_CURRENT_OF_TOTAL

Aberystwyth University Mug
£4.99
» more info

 

Red Square Crested Lapel Badge
£1.49 £1.99
» more info

» see all products

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students