
| Cymorth a Chyngor |
Canolfan Cyngor a Chynghori MyfyrwyrMae'r Ganolfan Cyngor a Chynghori Myfyrwyr (CCChM) yn cynnig cefnogaeth a chyngor i chi mewn lle diogel a chyfrinachol - fe'i rhedir gan yr Urdd ac mae'n annibynnol o'r Brifysgol. Mae'r ganolfan wedi'i lleoli ar lawr gwaelod adeilad yr Undeb Myfyrwyr ym mhen pellaf y coridor. Gwneud Apwyntiad: I wneud apwyntiad ar gyfer Cyngor neu Cynghori gyrrwch ebost i ni: Ffoniwch ni: 01970 621740 Gwneir apwyntiad i chi cyn gynted ag y bo modd ond cofiwch fod fel arfer rhestr aros ar gyfer apwyntiadau cynghori yn arbennig tua diwedd y tymor. Os nad ydych angen apwyntiad ond fod gennych gwestiwn neu ymholiad, gallwch siarad gyda'r weinyddwraig, Annmarie, a all fod â'r wybodaeth berthnasol arni yn y dderbynfa.
Yr un fath â phopeth arall a gynigir gan yr Urdd, myfyrwyr sy'n arwain y gwasanaeth hwn ond rydym hefyd yn aelod o'r Ffederasiwn Canolfannau Cynghori Annibynnol (Federation on Independent Advice Centres [FIAC]) ac yn tanysgrifio i Gymdeithas Genedlaethol Cyngor ar Bopeth (NACAB). Mae ein cynghorwyr i gyd yn aelodau o Gymdeithas Cynghori a Seicotherapi Prydain (BACP). Mae CCChM yn amgylchedd cyfrinachol. |
| LAST_UPDATED2 |
![]() |
Aberystwyth University Hockey Club Tie |
![]() |
Aberystwyth University Cricket Club Tie |
| » see all products | |
- A ydych wedi llenwi'r Arolwg Tai?
- Ymgyrch yn erbyn y Toriadau Niweidiol ym Mronglais
- Diweddariad gan y Llywydd - Chwefror
- Awydd bod yn Swyddog yn yr Urdd?
- MIND
Darllen pob datganiad i'r wasg
Darllen y newyddion diweddaraf
- Loading...

Cymorth a Chyngor










