Mon: 08:30 - 18:00:
Tues: 08:30 - 18:00:
Wed: 08:30 - 18:00:
Thurs: 08:30 - 18:00:
Fri: 08:30 - 18:00:
Mai 6ed: cau am 4yp ar gyfer y Ddawns Fai
Sat: 11:00 - 15:00:
Mai 7fed: siop ar gau
Sun: Closed

Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Home Siop a Gwasanaethau Siop yr Undeb Gwerthiant Masnach Deg
Diweddariad Gwerthiant Masnach Deg Rhagfyr 2009

O leiaf unwaith y flwyddyn, rwy'n pori trwy ein data gwerthu i asesu llwyddiant cynhyrchion masnach deg yn Siop yr Undeb Myfyrwyr o'i gymharu â'u categori cyfan.

Gwneir hyn fel arfer ar ddiwedd y flwyddyn academaidd a chedwir y data lle gall ond rhai pobl ei weld. Nawr fod gennym blogs, pam lai gwneud defnydd ohonynt a rhannu'r ffeithiau. Dyma'r ffigyrau ar gyfer 2008/091 gyda golwg yn ôl ar flynyddoedd blaenorol.

Ystod Cynhyrchion
Yn flynyddol ers 2004 mae Siop yr Undeb Myfyrwyr yn ychwanegu mwy o gynhyrchion masnach deg i'w chasgliad. Nôl yn 2006/7 roedd gennym 23 cynnyrch masnach deg ar werth. Erbyn hyn mae gennym 79. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn ein ystod o felysion.

Yr ystod sydd wedi cynyddu mwyaf eleni yw'r diodydd meddal yn bennaf oherwydd ein peiriant diodydd poeth masnach deg. Hefyd oherwydd y cola masnach deg Ubuntu a gwerthu sudd ffrwythau masnach deg pan yn bosib.

Rwy'n gwybod bod yna ddigonedd mwy o gynhyrchion masnach deg ar gael. Mae'r rhestr o gyflenwyr sydd wedi'u cymeradwyo gan UCM yn cynnwys tua 150 o eitemau bwyd a diod masnach deg2, rhai ohonynt rydym wedi'u cael yn y gorffennol, ac rydym am gael eraill. Os oes unrhyw beth yn benodol yr hoffech weld yn y siop, gyrrwch ebost i mi neu defnyddiwch y blwch sylwadau isod.

Gwerthiant
Felly dyma'r ffigyrau.

Cymhariaeth o Werthiant Masnach Deg yn Siop Undeb Myfyrwyr Aberystwyth
  2004/05 2005/06
2006/07
2007/08
2008/09
Dillad 0%
 
0%
-
1.08%
+1.08
15.81%
+14.73
7.06%
-8.75
Melysion, fflapjacs, myffins 0.91%
 
1.46%
+0.55
2.92%
+1.46
12.18%
+9.26
10.88%
-1.3
Bwydydd 25.04%
 
20.85%
-4.19
12.35%
-8.5
14.45%
+2.1
15.03%
+0.58
Diodydd meddal a phoeth
0%
 
0%
-
1.27%
+1.27
1.39%
+0.12
12.54%
+11.15
Cyfanswm gwerthiannau masnach deg
0.12%
 
0.15%
+0.03
0.37%
+0.22
3%
+2.63
3.2%
+0.2

Fel y dywedais o'r blaen, diolch i ddiodydd poeth masnach deg a'r newid i sudd masnach deg, yn y categori diodydd meddal oedd y cynnydd mwyaf. Ond beth ar y ddaear ddigwyddodd i ddillad masnach deg?

Dillad Masnach Deg
Mae'r broblem yma'n ymwneud â'n cyflenwyr na fyddaf yn eu henwi am y tro. Ar hyn o bryd, dim ond un cyflenwr dillad masnach deg sydd wedi'i gymeradwyo gan UCM. Golyga hyn na allem fynd i nunlle arall am ddillad masnach deg (wel, mae'n bosib ond byddai dirwyon ariannol am wneud).

Rydym wedi cael problemau gyda'r cyflenwr yma o'r dechrau, gydag oedi archebion, ansawdd heb fod yn arbennig neu broblemau cyffredinol gyda trawsgluso'r nwyddau. Oherwydd problemau parhaus, ni wnaethom archebu gyda nhw yn ystod 2007/8.

Yr haf hwn fodd bynnag, gan ein bod yn glen, penderfynon roi cyfle arall iddyn nhw gan archebu hwdis rhagorol i ddynion a merched gyda dyluniad clytwaith gwahanol i unrhyw beth oedd gennym o'r blaen.

Yn anffodus, cawsom ein siomi gan y cyflenwyr eto oherwydd fod y ffatri'r oeddynt yn ei defnyddio wedi colli ei statws masnach deg. Diddymwyd tua hanner yr archeb ar gyfer wythnos y glas ac roedd gweddill yr archeb yn hwyr yn cyrraedd.

Am y tro mae'n hynod anhebygol y byddem yn ail-archebu dillad masnach deg ganddynt eto, sy'n bechod oherwydd fe hoffem allu rhoi'r dewis i chi o fasnach deg pan mae ar gael.

Tan i UCM gymeradwyo cyflenwr dillad masnach deg arall, ac maent yn y broses o wneud hyn, ni fydd dillad masnach deg ar ein silffoedd.

Dyna ni am y tro, os hoffech ofyn unrhyw beth, neu awgrymu cynnyrch i ni, defnyddiwch y blwch sylwadau isod.

Diolch!

Chris

_

1 - Er pwrpas y data yma rydym yn cyfrif blwyddyn fel 1 Awst - 31 Gorffennaf.
2: Ar ôl diddymu dyblygebau. Oherwydd natur system UCM, nid yw'n debygol fod hon yn rhestr gyflawn o'r cynhyrchion sydd ar gael.

 

Welsh Mountain Ram postcard
£0.30
» more info

 

Champagne Flute
£3.50 £4.95
» more info

» see all products

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students