Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Gwasanaethau'r Dderbynfa

ReceptionMae'r Swyddfa ar agor yn ystod y tymor rhwng 9.30yb a 4.30yh dydd Llun i ddydd Iau a 9.30yb tan 4.00yh ar ddydd Gwener.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu angen unrhyw gyngor neu wybodaeth ac yn ansicr at bwy neu ble dylech fynd, galwch heibio Derbynfa'r Urdd sydd wrth prif ddrysau adeilad yr Undeb Myfyrwyr.

Mae gennym lawer o wybodaeth ddefnyddiol yn y dderbynfa ac fel arfer os nad yw'r wybodaeth gennym gallem ganfod rhywun sydd â'r ateb!

Gwasanaethau a Gynigir

Peiriant Ffacs
Am ffi bychan gallem yrru negeseuon ffacs yn lleol a thramor.

Are you REALLY sure you didn't have a batch number in the NUS EXTRA e-mail?Cardiau NUS Extra
Os ydych yn cael trafferth yn archebu eich cerdyn NUS Extra gofynnwch wrth aelod o'n staff i'ch arwain trwy'n broses gan ddefnyddio'r cyfrifiadur a'r camera gwe pwrpasol sydd yn y dderbynfa. Gellir hefyd casglu cardiau NUS Extra yma ond cofiwch eich rhif archebu.

Cardiau AHA
Teithiwch faint fynnoch chi ar fysiau Arriva o fewn Aberystwyth am £1 yn unig yr wythnos.

Yn well i'r amgylchedd! 
Yn well i'ch waled!
Yn well i'ch traed!

Prynwch eich cerdyn AHA o'r Dderbynfa i gael teithio AM DDIM ar fysiau Arriva o fewn Aberystwyth, a theithio am hanner y pris arferol ar fysiau sy'n dechrau neu'n gorffen yn Aberystwyth a chael traean oddi ar brisiau tren am ddim ond £30.

Archebu Ystafell a Stondinau
Os ydych yn aelod o un o glybiau neu gymdeithasau'r Urdd ac angen cynnal cyfarfod, galwch heibio i weld os yw ystafell bwyllgor neu ystafell gyfarfod yr Urdd ar gael.
Os ydych yn cynnal achlysur yr hoffech ei hyrwyddo, angen nawdd, yn dymuno cynyddu nifer eich aelodau neu eisiau ymledu ymwybyddiaeth ohonoch ymysg y myfyrwyr gallwch wneud hynny trwy gael stondin yng nghyntedd yr Urdd neu yn y Mall. Mae angen i gwmnïau allanol gysylltu â Rhiannon Cruse.

Eiddo Coll
Os ydych yn colli eiddo yn Adeilad yr Undeb Myfyrwyr, caiff ei gadw mewn ystafell saff yn adran y Gwasanaethau Adeiladau. Os yw'r eitem yn cynnwys eich enw megis cerdyn credyd neu gerdyn AHA, gyrrwn ebost atoch yn dweud ei fod gennym. Cedwir eiddo coll nad yw'n cynnwys eich enw ar gronfa ddata, gofynnwch wrth y Dderbynfa os ydych wedi colli unrhyw beth yn yr Adeilad.

LAST_UPDATED2
 

Aberystwyth "Fairtrade Town" Travel Mug
£7.50
» more info

 

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students