Mae Siop yr Undeb Myfyrwyr yn cynnig gwasanaeth rhwymo ar y pryd lle gallwch ddod â'ch traethawd hir yma a cherdded i fwrdd o fewn munudau gyda llyfr wedi'i rwymo!
Mae ein gwasanaeth ar y pryd ar gael ar gyfer rhwymiadau caled a meddal ac mae argraffu ar y meingefn ar gael ar y ddau rwymiad.
Gellir rhwymo dogfennau hyd at 38mm o drwch mewn clawr meddal ac hyd at 28mm mewn clawr caled. Mae prisiau'r clawr caled yn dibynnu ar y trwch fel a ganlyn. Noder mai canllaw cyffredinol yw'r nifer o dudalennau yn y tabl.
Trwch amcangyfrifedig dogfen (gyda phapur 80g/m2 safonol) | Clawr Caled | Clawr Meddal |
| Hyd at 7mm / 70 tudalen |
£4.95 |
£3 |
| Hyd at 14mm / 140 tudalen |
£5.95 |
| Hyd at 21mm / 210 tudalen |
£6.95 |
| Hyd at 28mm / 280 tudalen |
£7.95 |
| Hyd at 38mm / 380 tudalen |
ddim ar gael |
Argraffu ar y meingefn (ar gael ar bob rhwymiad) |
£1 yn ychwanegol yr un |
Rhwymo traethodau hir
Cofiwch fod ein gwasanaeth rhwymo yn brysur iawn yn ystod dyddiadau cau traethodau hir israddedigion yn Semester 2. Tra bod un rhwymiad ond yn cymryd ychydig funudau, cofiwch adael digon o amser i gael y rhwymiad wedi'i wneud a'i gyflwymo mewn pryd!
Beth sydd angen i mi ei wneud i rwymo fy nhraethawd?
Dewch â thudalennau eich traethawd wedi'u hargraffu yn y drefn gywir i ni ac mi wnawn ni'r gweddill. Sicrhewch fod pob dim yno a gwiriwch am unrhyw anghenion arbennig gan eich adran.
A allwch argraffu fy enw a'r teitl ar y meingefn?
Gallwn. Fel arfer gellir gwneud hyn ar gloriau caled a meddal. Mae hyn yn costio £1 ychwanegol. Fel arfer, argraffir eich enw, teitl eich traethawd ac yna eich gradd (ee. BSc), y sefydliad (Aberystwyth) a'r flwyddyn...fel hyn:
| Tom Jones |
Astudiaeth o Dafarndai Aberystwyth |
BSc 2010 Aberystwyth
|
 |
Lle mae tudalen y datganiad yn mynd?
Os yw'ch adran yn gofyn i gynnwys tudalen datganiad o wreiddioldeb yn eich traethawd, mae angen i chi ofyn i'r adran os oes angen ei rwymo gyda gweddill eich traethawd neu ei atodi yn unig i'r traethawd.
O na! Dwi di gweld camgymeriad ar un o'r tudalennau. A allaf roi tudalen newydd yn ei le?
Efallai. Mae'n dibynnu ar y math o rwymiad, ei faint a llwyth o bethau eraill! Dewch ag ef i mewn a gwnawn ein gorau i helpu ond byddwch yn barod rhag ofn na fyddwn yn gallu helpu a bydd angen i chi gael rhwymiad newydd (a thalu amdano).
Pwy allaf gysylltu am fwy o wybodaeth?
Gallwch gysylltu gyda ni trwy:
e-bost: undeb.siop@aber.ac.uk
ffôn: 01970 621725 (rhif mewnol 1725)
ysgrifennwch i neu ymwelwch â: Siop yr Undeb Myfyrwyr, Yr Undeb, Penglais, Aberystwyth SY23 3DX