Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Home Eich Undeb Urdd Werdd Masnach Deg Grwp Llywio Masnach Deg
Grwp Llywio Masnach Deg

Mae'r grwp llywio Masnach Deg yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Urdd a'r Brifysgol, myfyrwyr a staff. Gellir darllen y cyfansoddiad a chofnodion y cyfarfodydd isod.

Cyfansoddiad Grwp Llywio Masnach Deg

1 Cyfansoddiad a phwrpas
1.1 Sefydlodd y Brifysgol, dan gyfarwyddyd y Dirprwy Is-Ganghellor (Adnoddau Dynol ac Ystadau), Grwp Llywio Masnach Deg (GMD).
1.2 Mae Cylch Perthnasol y Grwp hwn a amlinellir isod wedi'u diffinio gan y Dirprwy Is-Ganghellor, Ystadau a Phwyllgor Gwaith yr Urdd Myfyrwyr a gellir ei addasu gan unrhyw un o'r rhain ar unrhyw adeg.

2 Cylch Gwaith
2.1 Cymera'r Urdd Myfyrwyr gyfrifoldeb o'r prif bartner.
2.2 Mae'r GMD yn gyfrifol am sicrhau fod adnewyddiad y statws flynyddol Sefydliad Masnach Deg yn cael ei gwblhau fel sydd angen ac yr adlewyrchir yr achrediad hwn ar wefan y Seydliad.
2.3 Adolygu polisïau amgylcheddol y Brifysgol a'r Urdd yn flynyddol er mwyn sicrhau fod gofynion perthnasol Sefydliad Masnach Deg yn cael eu hateb.
2.4 Trefnu digwyddiadau hyrwyddo trwy gydol y flwyddyn academaidd. Sicrhau fod y digwyddiadau hyn yn cael eu hysbysebu'n eang ar y campws ac o fewn y gymuned leol.
2.5 Mae cynrychiolwyr y Grwp am eistedd ar Grwp Masnach Deg Aberystwyth. Cynrychiolir y Brifysgol gan Brif Reolwr Lletygarwch a'r Urdd gan y Swyddog Cynaladwyedd a Moeseg.
2.6 Caiff y Grwp ei gynrychioli ar Grwp Masnach Deg Ceredigion gan Brif Reolwr Lletygarwch.

3 Aelodau
3.1 Mae'r GMD yn cynnwys y canlynol:
3.1.1 Llywydd yr Urdd (Cadeirydd)
3.1.2 Swyddog Cynaladwyedd a Moeseg yr Urdd
3.1.3 Prif Reolwr yr Urdd
3.1.4 Prif Reolwr Lletygarwch, Gwasanaethau Preswyl a Chroeso
3.1.5 Cynrychiolydd o Ganolfan y Celfyddydau
3.1.6 Rheolwr Siop yr Urdd
3.1.7 Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu'r Urdd
3.1.8 Cynrychiolydd y Bobl a'r Blaned
3.2 Gall y Grwp benodi aelodau pellach a fydd yn eu tyb hwy yn ychwanegu profiad a chyngor.

4 Cworwm
4.1 Cworwm fydd pedwar aelod.

5 Amlder
5.1 Mi fydd y Grwp yn cwrdd o leiaf pedair gwaith y flwyddyn.
5.1.1 Medi: Cynllunio ar gyfer Wythnos y Glas ac adolygiad o'r polisïau
5.1.2 Tachwedd: Adolygiad o Wythnos y Glas a chynllunio at bythefnos Masnach Deg
5.1.3 Ionawr: Cynllunio at bythefnos Masnach Deg
5.1.4 Mai: Cyflwyniad Blynyddol Sefydliad Masnach Deg

6 Cofnodion
6.1 Gwneir cofnodion ym mhob cyfarfod.
6.2 Cyhoeddir y cofnodion ar wefan yr Urdd.
6.3 Gyrrir copi o'r cofnodion i'r Dirprwy Is-Ganghellor (Adnoddau Dynol ac Ystadau) yn dilyn pob cyfarfod.
6.4 Gyrrir copi o'r cofnodion i Ymgynghorydd Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol y Brifysgol yn dilyn pob cyfarfod ar gyfer recordiad ISO 14001.

LAST_UPDATED2
 

Window Sticker
£0.60 £0.75
» more info

 

Aberystwyth "Fairtrade Town" Travel Mug
£7.50
» more info

» see all products

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students