Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Home Eich Undeb Urdd Werdd Masnach Deg
Masnach Deg

FairtradeYma yn Aberystwyth, mae'r Urdd a'r Brifysgol wedi gwneud ymrwymiad i gynhyrchion Masnach Deg ac i gefnogi'r sefydliad trwy gwblhau 5 amcan:

  1. Creu polisi Masnach Deg
  2. Defnyddio cynhyrchion Masnach Deg ym mhob caffi / bwyty a phob bar ar y campws
  3. Gweini cynhyrchion Masnach Deg (ee. te a choffi) yn holl gyfarfodydd y Brifysgol a'r Urdd
  4. Ymgyrchu am fwy o ddefnydd o gynhyrchion Masnach Deg ar y campws
  5. Sefydlu grwp llywio Masnach Deg

Mae ein hymrwymiad i'r amcanion hyn wedi arwain at y wobr o 'statws Masnach Deg' i'r Brifysgol:

Ar ddydd Llun 12 Hydref, mynychodd cynfyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth a chyn swyddog yr Urdd, Tom Marshall, de parti yn rhif 10 Stryd Downing i nodi dyfarnu statws Masnach Deg i'r Brifysgol. Roedd Tom, a raddiodd mewn Gwleidyddiaeth Rhyngwladol yng Ngorffennaf 2009, yn swyddog yr Amgylchedd a Moeseg Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn ystod 2008/9 a chwaraeodd ran flaenllaw yn yr ymgyrch i wneud Aberystwyth yn Brifysgol Masnach Deg.
Prifysgol Aberystwyth yw'r 100fed brifysgol neu coleg i dderbyn statws Masnach Deg ac mae’n rhannu’r fraint gyda Prifysgol Herriot-Watt a Choleg Myerscough yn Sir Gaerhirfryn. Mae’r dathliadau yn Llundain, sydd yn cael eu cynnal gan Sarah Brown, hefyd yn nodi 15 mlynedd ers i’r tri chynnyrch Masnach Deg cyntaf gyrraedd siopau'r Deyrnas Unedig.
Tra fod Tom yn mwynhau te Stryd Downing bydd Aelod Seneddol Ceredigion Mark Williams yn ymuno â staff a myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth i ddathlu’r llwyddiant.

Mark Williams joins the Fairtrade Accreditation celebrationsDywedodd Dr John Harries, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol; “Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch iawn fod statws Prifysgol Masnach Deg wedi ei dyfarnu iddi. Drwy ein canolfannau arlwyo rydym yn sicrhau fod cynnyrch Masnach Deg ar gael i staff, myfyrwyr, trefnwyr cynadleddau a chynadleddwyr. Mae ein darpariaeth Masnach Deg yn bwysig er mwyn codi ymwybyddiaeth ymysg ein myfyrwyr, ein staff ac ymwelwyr i’r Brifysgol o’r angen i sicrhau gwell dyfodol i gynhyrchwyr yn y byd sydd yn datblygu”.

Dywedodd Jon Antoniazzi, Llywydd Urdd Myfyrwyr Aberystwyth;
“Yma yn Undeb y Myfyrwyr, rydym yn falch o’r ffaith fod Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn statws Prifysgol Masnach Deg, ac o’r cyfle i rannu’r dathliadau yma gyda phen-blwydd yr Ymddiriedolaeth Fasnach Deg. Mae’r mudiad Masnach Deg yn holl bwysig ar gyfer dyfodol masnach foesol, ac mae ein myfyrwyr yn frwd i’w hyrwyddo a’i gefnogi.”

Dechreuodd y cynllun Prifysgolion a Cholegau Masnach Deg yn 2003. Er mwyn bod yn Brifysgol Masnach Deg mae ofynnol i staff a myfyrwyr ymrwymo i gefnogi Masnach Deg. Mae hyn yn cynnwys sicrhau fod cynnyrch Masnach Deg ar gael mewn caffes, bwytai a siopau ble bynnag y mae hyn yn bosibl, a chodi ymwybyddiaeth o Fasnach Deg a’r manteision sydd yn deillio ohoni i gynhyrchwyr mewn gwledydd sydd yn datblygu. 

Dywedodd Harriet Lamb, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Fasnach Deg;
“Rwy’n falch iawn o gael croesawi Prifysgol Aberystwyth i’r gorlan cynyddol o brifysgolion a cholegau sydd yn lledaenu’r neges Masnach Deg. Mae miloedd o bobl ifainc yn cerdded drwy ddrysau prifysgolion a cholegau bob blwyddyn a mae nifer ohonynt yn frwd iawn dros Fasnach Deg eisoes. Mae statws Masnach Deg yn cynnig y cyfle iddynt ddangos gwerth Masnach Deg i fyfyrwyr eraill ac yn cynorthwyo staff colegau a phrifysgolion i wneud gwahaniaeth i pobl sydd yn byw mewn gwledydd sydd yn datblygu ar draws y byd.”

 

Aberystwyth University Hockey Club Tie
£9.99
» more info

 

Aberystwyth University Cricket Club Tie
£9.99
» more info

» see all products

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students