
| Urdd Werdd |
Croeso i dudalen 'Urdd Werdd' Urdd y Myfyrwyr Aberystwyth.
Amgylcheddol, byw'n wyrdd ac ailgylchu; termau y byddwch yn eu clywed yn y Brifysgol. Felly, beth yw rôl yr Urdd yn hyn i gyd? Pan fyddwch yn ymweld â'r Urdd mi fyddwch yn sylwi ar y canlynol: Biniau Ailgylchu
Mae'r rhain yn y Neuadd a’r Bar yn ogystal â choridorau'r swyddfeydd. Mae'r Urdd yn annog pawb sy’n defnyddio’r adeilad i ailgylchu papur, plastig, caniau yfed, pecynnau tetra, batris a chetris inc... Biniau Poteli Gwydr / Plastig Yn ystod digwyddiadau'r Urdd, mae staff y bar a'r stiwardiaid yn sicrhau bod yr holl boteli yfed yn cael eu hailgylchu. Derbyn Nwyddau
Pan fo'r Urdd yn derbyn llawer o nwyddau i'r Siop a'r Bar, treulir amser yn lleihau'r deunydd pacio gan ailgylchu cymaint ohono ag sy'n bosib. Mi fyddwch yn gweld rhai o'r pethau uchod pan fyddwch yn ymweld â'r Urdd, ond mae yna bethau'n mynd ymlaen na fyddwch yn eu gweld gan gynnwys: Biniau'r Swyddfeydd
Anogir yr holl staff i roi papur mewn bin ar wahân yn eu swyddfa. Cegin yr Urdd
Mae yna amrywiaeth o finiau ailgylchu wedi'u gwasgu mewn i'r gegin fach brysur. Rydym hefyd wedi gosod peiriant dŵr poeth ac oer sy’n defnyddio llai o ynni na berwi tegell. Papur Ffotocopïo / Argraffu
Defnyddir papur wedi'i ailgylchu bob amser. Botymau amseru trydanol
Mae rhai wedi'u rhoi ar rai nwyddau trydanol ac maent yn torri'r pwer pan fydd yr adeilad ar gau. Hyfforddiant Staff
Mae holl staff newydd yr Urdd yn cael gwybod am ymrwymiad Gwyrdd yr Urdd. Polisi Amgylcheddol
Mae gan yr Urdd bolisi amgylcheddol cryf, os oes arnoch eisiau gwybod mwy, cysylltwch â Tim Morgan (undeb.adeiladau@aber.ac.uk) neu Martyn Saycell (ays@aber.ac.uk). Gwobrau
Mae'r Urdd wedi cael y safon 'Arian' yng ngwobrau Green Impact yn ddiweddar. Am fwy o wybodaeth ar hyn ewch i http://www.greenimpact.org.uk/GISUnc |
| LAST_UPDATED2 |
![]() |
♥ ABER Cotton Shopping Bag |
![]() |
♥ ABER Mug |
| » see all products | |
- Cyfnewid tocynnau diodydd y Ddawns Fai
- Wythnos Cychwyn Busnes
- Fantime Friday
- Neges gan yn Swyddog Gweithgareddau
- Neges gan Gadeirydd yr Urdd
Darllen pob datganiad i'r wasg
Darllen y newyddion diweddaraf
- Loading...











