Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Home Eich Undeb Pwyllgorau
Rôl Pwyllgorau

Pwyllgor Gwaith

Beth yw e?

Pwyllgor Gwaith yr Urdd sy'n sicrhau bod polisi'r Urdd a phenderfyniadau Cyfarfodydd Cyffredinol yn cael eu rhoi ar waith. O ddydd i ddydd caiff hyn ei ddirprwyo i'r 5 swyddog sabothol. Bydd y Pwyllgor Gwaith yn derbyn adroddiadau gan y swyddogion sy'n aelodau ohono ar feysydd sy'n achosi pryder, ymgyrchoedd a gweithredu. Mae'r Pwyllgor Gwaith yn adolygu polisïau presennol yr Urdd, yn argymell gwelliannau i bolisi i Gyfarfodydd Cyffredinol neu'n cyflwyno cynigion polisi gerbron·Cyfarfodydd Cyffredinol .

Pwy sy'n eistedd ar y pwyllgor?


Swyddogion Sabothol

Llywydd yr Urdd

Swyddog Cymorth Myfyrwyr

Materion Cymreig a Llywydd UMCA

Swyddog Addysg

Swyddog Gweithgareddau

Swyddogion Gweithredol Rhan-Amser

Swyddog yr Iaith Gymraeg

Swyddog heb Bortffolio

Dirprwy Cymorth Myfyrwyr ac Ymgyrchoedd

Swyddog Cynaladwyedd a Moeseg

Swyddog Cyfle Cyfartal

Swyddog Chwaraeon

Swyddog y Cymdeithasau

Cadeirydd yr Urdd (heb bleidlais)

Pa mor aml mae'n cwrdd?

Bob pythefnos

 

Pwyllgor Cyffredinol a Chyllid (PCCh)

Beth yw e?

Pwyllgor Cyffredinol a Chyllid yr Urdd sy'n gyfrifol am arian yr Urdd. Mae cyfrifoldebau'r PCCh yn cynnwys:

• Creu'r gyllideb flynyddol i'w hawdurdodi gan y Cyfarfod Cyffredinol
• Monitro·cyfrifon gwariant yn ystod y flwyddyn
• Awdurdodi gwariant gweithredol yn ogystal â chyfalafol, gan sicrhau cydymffurfio â Rheoliadau Ariannol yr Urdd
• Adolygu a diwygio Rheoliadau Ariannol yr Urdd 

Pwy sy'n eistedd ar y pwyllgor?

Llywydd yr Urdd

Swyddog Cymorth Myfyrwyr

Materion Cymreig a Llywydd UMCA

Swyddog Addysg

Swyddog Gweithgareddau

Prif Reolwr (yn bresennol)

Rheolwr Cyllid (yn bresennol)

Pa mor aml mae'n cwrdd?

Bob pythefnos

 

Pwyllgor Staffio

Beth yw e?

Pwyllgor Staffio'r Urdd sy'n gyfrifol am y strwythur staffio, telerau ac amodau a pholisïau cyflogi staff. Mae'r Pwyllgor Staffio yn gyfarfod ‘caeedig’ ac mae'r hawl i weld ei gofnodion wedi ei gyfyngu i'r rhai sy'n mynd iddo.·

Pwy sy'n eistedd ar y pwyllgor?

Llywydd yr Urdd

Swyddog Cymorth Myfyrwyr

Materion Cymreig a Llywydd UMCA

Swyddog Addysg

Swyddog Gweithgareddau

Prif Reolwr (yn bresennol)

Rheolwr Gwasanaethau Aelodau (yn bresennol)

Pa mor aml mae'n cwrdd?

Bob pythefnos

 

Pwyllgor Llywio

Beth yw e?

Mae'n bodoli er mwyn sicrhau bod Cyfarfodydd Cyffredinol, Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol a Chyfarfodydd Cyffredinol Brys yn rhedeg yn llyfn. Gwneir hyn drwy baratoi cynigion sydd wedi'u cyflwyno, cyfrif pleidleisiau, codi pwyntiau o drefn a chynghori'r Cadeirydd.·

Pwy sy'n eistedd ar y pwyllgor?

Pum aelod a etholir yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chadeirydd yr Urdd.

Pa mor aml mae'n cwrdd?

Yn ôl y galw cyn CC, CCB neu CC Brys ac yn ystod y cyfarfod ei hun.

 

Pwyllgor Dwyieithrwydd

Beth yw e?

Y Pwyllgor Dwyieithrwydd sy'n gyfrifol am gynghori'r Urdd ar faterion dwyieithrwydd, monitro gweithrediad y Polisi Dwyieithrwydd, adolygu a chynghori ar welliannau i'r polisi a dyfarnu ar achosion o dor-polisi.·

Pwy sy'n eistedd ar y pwyllgor?

Swyddog Iaith Gymraeg yr Urdd (fel Cadeirydd)

Pedwar aelod a etholir yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Llywydd UMCA

Cyfieithydd yr Urdd (yn bresennol)

Pa mor aml mae'n cwrdd?

O leiaf unwaith y tymor

 

Bwrdd Ymchwilio

Beth yw e?

Gellir sefydlu Bwrdd Ymchwilio ar gais Cyfarfod Cyffredinol, Pwyllgor Gwaith yr Urdd neu ddeiseb gan aelodau'r Urdd i ymchwilio i faterion yn achosi pryder sy'n codi o weithredoedd Pwyllgorau'r Urdd neu i ymchwilio i gynigion o 'ddiffyg hyder' yn Swyddogion yr Urdd.·

Pwy sy'n eistedd ar y pwyllgor?

Swyddog Sabothol (fel Cadeirydd) 
(Mewn achos lle mae'r Swyddogion Sabothol i gyd yn destun ymchwiliad bydd Prif Reolwr yr Urdd yn cymryd y Gadair).

Chwe aelod wedi'u dewis ar hap.

Pa mor aml mae'n cwrdd?

Dim ond pan elwir arno.

LAST_UPDATED2
 

Wales Baseball Cap
£2.99
» more info

 

Aberystwyth University / University of Wales Reversible Scarf
£29.95
» more info

» see all products

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students