Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Campau'r Cewri!

Mae’r amser wedi dod o’r diwedd am GAMPAU’R CEWRI 2012!!

Campau’r Cewri – Merched – 24ain-26ain Chwefror


Campau’r Cewri – Dynion – 2il-4ydd Mawrth


Eleni, rydym wedi newid ffurf y gystadleuaeth er gwell a fydd yn profi Cewri Aber i’r eithaf yn yr ymgais i fod yn Bencampwyr Campau’r Cewri!!


Os oes arnoch eisiau bod yn rhan o un o ddigwyddiadau cymdeithasol gorau’r flwyddyn sy’n agored i bawb, mae cofrestru’n dechrau ddydd Gwener 30ain Ionawr yma ar wefan yr Urdd.

Eleni, bydd arnoch angen 9 aelod yn eich tîm (nid 7 fel o’r blaen) a £100 rhyngoch chi gyd, felly dewch â’ch tîm ynghyd a mwynhewch y tynnu coes, y miri a’r frwydr. Rhaid cofrestru a thalu ar-lein.

Unwaith rydym wedi cael eich taliad, cadwch eich e-bost o gadarnhad gan PayPal yn ddiogel gan hwn fydd eich cadarnhad o’ch lle yn y gystadleuaeth tan i chi gael mwy o wybodaeth.

Coeliwch chi fi, ni ddylech fethu’r achlysur hwn.

Barod amdani? Cofrestrwch eich tîm yma o 10am ymlaen ar 30ain Ionawr!!

HEFYD....

RYGBI 7

Mae’r paratoadau wedi hen gychwyn ar gyfer cystadleuaeth Rygbi 7 2012 a gynhelir ar y 5ed a’r 6ed Mai. Bydd modd i dimau gofrestru ar y wefan hon o ddydd Llun 30ain Ionawr 2012 ymlaen. Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â’ch Swyddog Gweithgareddau, Alun Minifey ar actstaff@aber.ac.uk

Noder:
Peidiwch ag archebu cit cyn i’ch lle yn y gystadleuaeth gael ei gadarnhau. Mae Rygbi 7 yn gêm gorfforol ac mae perygl o gael anaf.

LAST_UPDATED2
 

Crested Rucksack - 1 strap
£11.99
» more info

 

Aberystwyth University / University of Wales Reversible Scarf
£29.95
» more info

» see all products
A hoffech chi weld llawr sglefrio tu allan yr Undeb cyn Dolig?
 

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students