|
Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Urdd ddydd Mercher 9fed Mai, bu inni gytuno i barhau â’n cysylltiad ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ac i ailbenodi KPMG LLP fel ein harchwilwyr. Etholwyd Jess Carr, Heather McLean a Duncan Haslam i’r Pwyllgor Dulliau Gweithredu Democrataidd (sy’n helpu i drefnu a chynnal cyfarfodydd) ac etholwyd Ainsley Gilbert a Guy Drury i’r Pwyllgor Etholiadau (sy’n helpu i drefnu a chynnal etholiadau). Mae gan y ddau bwyllgor seddi gwag arnynt o hyd, felly, cynhelir isetholiad ym mis Hydref.
Bu inni hefyd basio nifer o gynigion. Dyma grynodeb ohonynt: - un technegol sy’n cyfyngu nifer aelodau’r Pwyllgor Dulliau Gweithredu Democrataidd i 6, - un yn rhoi Llywydd UMCA a Materion Cymreig ar Gyngor y Brifysgol (un o’r cyrff penderfynu) yn lle’r Swyddog Addysg, - un yn cefnogi’r sefydliad cyfryngau integredig newydd ac yn lobïo am fwy o arian a gofod i gyfryngau myfyrwyr, - un yn cefnogi integreiddio myfyrwyr rhyngwladol yn well, - un yn diwygio’r ffordd y mae chwaraeon a chymdeithasau yn cael eu rheoli a’u rhedeg, - un yn cefnogi polisi gwrth-fwlio a gwrth-aflonyddu newydd i’r Urdd, - un yn cefnogi gweithredu yn erbyn toriadau i gyllid israddedig, - ac yn olaf, un a fydd yn newid yr Urdd i fod yn Undeb – bydd yr enw newydd yn dod i rym o ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf ymlaen.
Bydd dogfen bolisïau a Chyfansoddiad, Is-Ddeddfau a Rheoliadau’r Urdd yn cael eu diweddaru dros y diwrnodau nesaf.
Y flwyddyn nesaf, yn lle’r Cyfarfodydd Cyffredinol, byddwn yn cynnal etholiadau i Gynulliad newydd yr Undeb ym mis Hydref. Bydd llawer mwy o wybodaeth ar gael ar hyn dros y misoedd nesaf, ond yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn neu am unrhyw agwedd arall ar ddemocratiaeth yn yr Urdd (neu’r Undeb bellach!), mae croeso i chi anfon ebost at Guy Drury, Cadeirydd yr Urdd, undeb.cadeirydd@aber.ac.uk.
|