Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Home Eich Undeb Eich Swyddogion Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr
Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr

Helo, f’enw i yw Alun Minifey, ond mae pawb yn fy ngalw’n Min; fi yw’r Swyddog Gweithgareddau am y flwyddyn nesaf. Os nad ydych yn fy adnabod, rwyf newydd raddio mewn Hanes, ar ôl mwynhau 3 blynedd arbennig yma a meddyliais y dylwn aros am flwyddyn arall i’ch helpu chi! Treuliais y rhan fwyaf o’r 3 blynedd diwethaf yn yr Undeb felly meddyliais sa waeth i mi symud mewn. Fy ngwaith i yw delio â chwaraeon a chymdeithasau’r Brifysgol hon a’ch cael chi allan o’r llyfrgell. Mae Aber yn le arbennig ac mae’r clybiau chwaraeon a’r cymdeithasau sydd yma yn sylfaen wych i’ch amser a’ch bywyd yn Aberystwyth. Mi fydd ymuno gyda chlwb neu gymdeithas yma yn ehangu’ch bywyd yn fawr ac mae’n ffordd o wneud ffrindiau am oes. Fy ngwaith i yw darparu’r cyfleoedd i chi gyflawni hyn ac rwyf am ymroi’n llwyr i’r amcan hwn. Hoffwn i chi fwynhau’ch amser yma yn Aber gymaint ag y gwnes i!

Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod eang o chwaraeon a chymdeithasau felly mae yna rywbeth at ddant pawb. Os ydych yn hoff o Ddawnsio, Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Pêl Droed, Gwleidyddiaeth, Pêl Rwyd neu Ffrisbi, mae’r Brifysgol yn cynnig dewis enfawr. Hyd yn oed os nad oes rhywbeth addas i chi, gallwch ddechrau clwb neu gymdeithas eich hun!! Mae gennym bob dim yma i chi, unai ar y campws neu’r ardal gyfagos, gallwn ddarparu ar gyfer unrhyw gais.

Mae fy swyddogaethau eraill yn cynnwys trefnu digwyddiadau fel penwythnos Rygbi 7 Aberystwyth, nosweithiau cwis y cymdeithasau, BOSCAS, Varsity (rydym wrth gwrs am ennill eleni!) ac wrth gwrs Timau Disglair a’r partio ar ei ôl! Yn ogystal rwyf yma i helpu gyda gweithrediad y clybiau a’r cymdeithasau, o gemau BUCS i faterion pwyllgorau, os oes gennych unrhyw broblemau, gwnaf fy ngorau i’w datrys.

Mae fy swyddfa wedi’i leoli yn yr Undeb, trwy’r drysau dwbl ar ben pella’r Underground; mae croeso i chi ddod i’m gweld unrhyw bryd, mae fy nrws bob amser ar agor!

Felly, dyma ni’n mynd!

Min

undeb.gweithgareddau@aber.ac.uk

01970 62 1755

LAST_UPDATED2
 

University of Wales Tie
£10.00
» more info

 

University of Wales Graduate Tie
£10.00
» more info

» see all products

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students