|

Eleni mae’r system cynrychiolwyr cyrsiau am newid yn sylweddol. Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio Cydlynydd Cynrychiolaeth a Phrofiad Myfyrwyr, swydd wedi’i leoli yn yr Undeb. Bydd y cydlynydd yn gweithio gyda’r Swyddog Addysg i ddechrau gwella’r ffordd mae’ch adran chi’n cynnal y system Cynrychiolwyr Cyrsiau yn ogystal ag amryw o gyfrifoldebau eraill. Ar hyn o bryd rydym yn y broses o siarad gyda’r adrannau ac rydym yn cynllunio diwrnodau hyfforddi yn ogystal â Chyngor Cynrychiolwyr Cyrsiau a hyd yn oed cinio Cynrychiolwyr Cyrsiau ar ddiwedd y flwyddyn... Mae rôl y Cynrychiolwyr Cyrsiau am fod yn fwy ac yn well nag erioed o’r blaen! Cadwch lygad ar y dudalen hon am ddiweddariadau ynglŷn â phryd y byddem yn recriwtio Cynrychiolwyr Cyrsiau a phryd y cynhelir ein hyfforddiant, heb sôn am yr holl fanteision sydd i’w cael trwy fod yn Gynrychiolydd Cwrs! Unwaith mae’r tîm o Gynrychiolwyr Cyrsiau gennym mi fydd y dudalen hon hefyd yn cynnwys dolenni i’ch cynrychiolwyr a sut i gysylltu â nhw. Gobeithiwn eich bod chi’r un mor gyffrous â ni am gael tîm cryf o fyfyrwyr i wella eu haddysg. Chi yw’r rhai sydd wirioneddol yn gallu gwneud gwahaniaeth... dim ond cynnig help llaw ydyn ni!
Beth yw Cynrychiolydd Cwrs?
Myfyrwyr yw Cynrychiolwyr Cyrsiau a etholir o fewn adrannau i gynrychioli eu cyd-fyfyrwyr ar amrywiaeth o faterion a all eu heffeithio ar lefel academaidd. Maent yn rhoi barn y myfyrwyr i’r adrannau ac yn gweithredu fel cyswllt rhwng myfyrwyr ac aelodau staff. Gwneir hyn yn bennaf trwy’r Pwyllgorau Ymgynghorol Staff Myfyrwyr (PYSM) a gynhelir dwywaith y semester. Eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau bod barn y myfyrwyr yn cael eu cynrychioli’n effeithiol!
A hyfforddir Cynrychiolwyr Cyrsiau?
Yn ystod y flwyddyn academaidd, mi fydd Urdd Myfyrwyr Aberystwyth yn cynnal cyfres o sesiynau hyfforddi i sicrhau fod pawb yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt. Mi fydd hefyd angen mynychu Cynghorau Cynrychiolwyr Cyrsiau yn ogystal â chinio Cynrychiolwyr Cyrsiau ar ddiwedd y flwyddyn. Darperir cymorth trwy gydol y flwyddyn gyda’r Cydlynydd Cynrychiolaeth a Phrofiad Myfyrwyr a’r Swyddog Addysg ar gael am hyfforddiant ychwanegol a chyngor ar unrhyw bryd.
Sut allaf gymryd rhan?
Boed chi yn y flwyddyn gyntaf neu’n fyfyriwr ôl-raddedig, rydym eich angen chi! Mae pob adran angen o leiaf dau gynrychiolydd o bob blwyddyn i eistedd ar y Pwyllgor Staff Myfyrwyr, heb sôn am siaradwyr Cymraeg a myfyrwyr rhyngwladol. Mae’ch anghenion chi gyd yn wahanol felly mae’n bwysig cael barn pawb ar y pwyllgorau hyn. Yn y llawlyfr Get Fresh mi fydd yna mwy o wybodaeth ar sut i gymryd rhan; os na allwch aros tan hynny gyrrwch e-bost i undeb.addysg@aber.ac.uk (Bethan, y Swyddog Addysg) i ddarnganfod mwy!
|
|
LAST_UPDATED2 |