
| Gwyliau Gwahanol y Pasg 2012 |
|
A ydych chi wedi cael llond bol o wyliau arferol y Pasg? Ddim eisiau mynd adre i ddiogi? Diddordeb mewn gwirfoddoli a magu sgiliau newydd?
Mwynhau teithio a gweld lleoedd newydd? Os felly, mae'r GGP yn berffaith i chi!
Mae Gwyliau Gwahanol y Pasg (GGP) yn gyfle perffaith i wirfoddoli a magu sgiliau newydd wrth gael antur ardderchog gydol yr amser. Gallwch dreulio gwyliau’r Pasg yn helpu cyflawni newid cymdeithasol positif yn y byd yn ogystal â chyflawni gweithgareddau sy’n llawn boddhad a hwyl. Yn fyr, byddwch chi’n cael mwynhad o gyflawni gweithredoedd anhunanol. Rydym yn chwilio am 8 person ar gyfer trip eleni i Ogledd Cymru. Byddwn ni’n ymuno â Phrosiect Felin Uchaf – menter weledigaethol, gymdeithasol sy’n seiliedig ar dir – er mwyn gweithio ar brosiectau cynaliadwy amrywiol.
Cynhelir y trip eleni rhwng dydd Sadwrn, 31ain Mawrth a dydd Sadwrn 7fedEbrill. Cost y trip yw oddeutu £200 sy’n cynnwys trafnidiaeth, bwyd a llety. Bydd angen talu blaendal o £100 na ellir mo’i ad-dalu wrth roi’ch enw lawr. Noder bod GGP yn brofiad heb alcohol na chyffuriau. Am fwy o wybodaeth ewch i www.felinuchaf.org neu dewch draw i Ystafell G10 yn yr Undeb Myfyrwyr. Gallwch hefyd yrru e-bost at Cathy Beckham - chb@aber.ac.uk.
Individually, we are one drop. Together we are an ocean. -Ryunosuke Satoro
|
| LAST_UPDATED2 |
![]() |
Aberystwyth Law Society Tie |
![]() |
Aberystwyth University Rugby Club Tie |
| » see all products | |
- Cyfnewid tocynnau diodydd y Ddawns Fai
- Wythnos Cychwyn Busnes
- Fantime Friday
- Neges gan yn Swyddog Gweithgareddau
- Neges gan Gadeirydd yr Urdd
Darllen pob datganiad i'r wasg
Darllen y newyddion diweddaraf
- Loading...












