
| Fy mhrofiad gyda gwirfoddoli |
|
Becky Newham - myfyrwraig sy'n gwirfoddoli Cymerais flwyddyn i ffwrdd o'm gradd rhwng yr 2ail a'r 3edd flwyddyn i gael profiad yn y sector amgylcheddol a threuliais fy amser yn gwirfoddoli i ddechrau mewn canolfan maes gyda'r Cyngor Astudiaethau Maes ac yna gyda'r elusen gadwraeth BTCV. Tra'r oeddwn yn y lleoliad cyntaf yn y ganolfan maes gwirfoddolais hefyd gydag elusen leol ar y penwythnosau lle cynorthwyais ddyn ifanc oedd â syndrom Asperger gan fynd gydag ef ar dripiau cymdeithasol a'i helpu i chwarae chwaraeon. Pan ddychwelais i'r Brifysgol ym mis Medi ar gyfer fy mlwyddyn olaf, roeddwn yn dymuno parhau gyda'r gwirfoddoli. Roeddwn yn barod yn aelod o Wirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth sy'n ffordd wych o gwrdd pobl a gwneud gwaith ymarferol yn yr awyr agored. Fues i'n gweld Cathy a threfnwyd i mi helpu dyn mewn oed gyda'i siopa. Roedd hwn yn brofiad gwych ond heriol ar adegau ac roedd yn gweddu'n dda gyda'r adegau pan ymwelais â dau gartref hen bobl yn y dre' - Bodlondeb and Hafan Y Waun. Ar y penwythnosau trwy gydol y flwyddyn roeddwn weithiau'n mynd i Lundain a llefydd eraill i barhau i arwain prosiectau cadwraeth gyda BTCV a oedd yn brofiad gwych. Gwirfoddolais hefyd gyda'r RSPB yng nghanolfan Nant yr Arian, sydd tua 10 milltir o Aberystwyth. Fe wnaeth y profiadau hyn y i gyd ychwanegu gymaint at fy mhrofiad yn fy mlwyddyn olaf ac rwy'n annog pawb i ymuno â MAG gan ei fod yn ffordd wych o gwrdd pobl a chael toriad o'r astudio.
Terri Hatton - myfyriwr sy'n gwirfoddoli Wedi i mi gwblhau fy mlwyddyn gyntaf yn y Brifysgol roeddwn yn siomedig nad oedd wedi bod cystal ag yr oeddwn wedi'i ddisgwyl. Tu allan i'm cwrs a'r cymdeithasu teimlais nad oeddwn wedi cyflawni fawr o ddim na chymryd rhan mewn gweithgareddau. Dychwelais yn yr ail flwyddyn yn benderfynol o newid ac i gymysgu gyda grŵp amrywiol o bobl, o wahanol gyrsiau, gyda diddordebau a phersonoliaethau gwahanol. Roedd MAG yn cynnig y cyfle hwn i mi ac rwyf wedi gwneud sawl ffrind arbennig trwy wirfoddoli. Dechreuais trwy ddewis Age Concern a oedd yn golygu ymweld â dyn mewn oed unwaith pob pythefnos. Datblygodd gyfeillgarwch clos rhyngom yn fuan ac roeddwn yn edrych ymlaen at ein cyfarfodydd. Mae ymgyfeillio â rhywun fel hyn yn sicr yn brofiad dwy ffordd, mae'n fwy na gwrando yn unig, mae'n golygu cysylltu a chyfathrebu gyda rhywun arall a gwneud gwahaniaeth ym mywyd y person hwnnw. Mae ymgyfeillio wedi fy ngalluogi i i ddysgu am hanes lleol, creu cysylltiadau cryf o fewn y gymuned ac yn bwysicaf oll, wedi rhoi'r cyfle i mi wneud ffrindiau arbennig na fuaswn fel arall wedi cael yr anrhydedd o'u hadnabod. Rwyf erbyn hyn yn ymgyfeillio ag amryw o bobl mewn oed yn yr ardal leol ac mae mwynhau eu cwmni nhw wedi dod yn gymaint o ran o'm bywyd yn y Brifysgol ag yw'r astudio a'r cymdeithasu. Buaswn yn sicr yn argymell gwirfoddoli i unrhyw un sy'n fodlon ymrwymo'i hun gan ei fod yn brofiad boddhaol a gwerth chweil sydd wedi gwella fy amser yn Aberystwyth yn sylweddol. |
| LAST_UPDATED2 |
![]() |
Car Tax/Licence Disc Holder |
![]() |
Compact Mirror |
| » see all products | |
- Cyfnewid tocynnau diodydd y Ddawns Fai
- Wythnos Cychwyn Busnes
- Fantime Friday
- Neges gan yn Swyddog Gweithgareddau
- Neges gan Gadeirydd yr Urdd
Darllen pob datganiad i'r wasg
Darllen y newyddion diweddaraf
- Loading...











