|
Yma yn Aber mae gennym gymaint i'w gynnig o ran y nifer o gymdeithasau sydd yma a gall ymuno gydag un neu fwy o'r rhain wella eich amser yn y Brifysgol yn sylweddol. Mae sawl ffordd i ymuno â chymdeithas fel y gwelir yma:
- Yn ystod Wythnos y Glas, cynhelir Ffair y Cymdeithasau. Mae'r diwrnod hwn yn rhoi cyfle i'r cymdeithasau gyflwyno eu hunain i chi ac yn rhoi'r cyfle i chi sgwrsio a gofyn unrhyw gwestiynnau y mynnoch. Gallwch ymuno ag un cymdeithas yn unig neu bob ohonynt, gwnewch fel y mynnoch!
- Yn ychwanegol i'r ffeiriau yn ystod Wythnos y Glas, cynhelir Ail Ffair y Glas hanner ffordd trwy'r flwyddyn sy'n rhoi ail-gyfle i chi ymuno â chymdeithas os wnaethoch fethu'r ffair gynt neu os oes gennych awydd rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol.
- Yn olaf, os wnaethoch fethu'r ddwy ffair uchod, na phoener. Mae rhestr lawn o'r holl gymdeithasau a'u manylion cyswllt ar ein gwefan felly gallwch yrru ebost iddyn nhw i ofyn am unrhyw wybodaeth gan gynnwys pryd maent am gwrdd nesaf. Yn ogystal, mae gan nifer o gymdeithasau gwefannau eu hunain ac mae'r dolenni i'r rhain yn y rhestr o'r cymdeithasau gan eich galluogi chi gael golwg ar yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig.
Cofiwch! I ymuno â chymdeithas, mae'n rhaid chi gael Cerdyn y Cymdeithasau. Mae'r rhain ar gael i'w prynu trwy'r ffurflen gais yn y pecyn post a yrrwyd i chi gan y Brifysgol, yn Ffair y Glas yn ystod Wythnos y Glas neu o'r Swyddfa Chwaraeon a Chymdeithasau yn adeilad yr Undeb Myfyrwyr.
|