|
1 Cyffredinol 1.1 Dyma Gyfansoddiad Bwrdd Cymdeithasau (ByC) Urdd Myfyrwyr Aberystwyth. 1.2 Trwy hyn diddymir pob Cyfansoddiad blaenorol. 1.3 Bydd y cyfansoddiad hwn yn rhedeg ochr yn ochr â Chyfansoddiad yr Urdd ac yn ddarostyngedig i’w awdurdod uwch. 1.4 Mae’n rhaid i bob clwb gadw at bolisïau craidd yr Urdd: Cyfle Cyfartal, Dwyieithrwydd ac Amgylcheddaeth. Gall methu gwneud hynny arwain at osod cosbau ariannol neu fod breintiau yn yr Urdd yn cael eu tynnu’n ôl. 1.5 Bydd copi o’r Cyfansoddiad hwn ar gael gan: a) Dderbynfa’r Urdd b) Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr c) Llywydd yr Urdd d) Prif Reolwr yr Urdd. Bydd yn bosibl gweld copi ar wefan yr Urdd hefyd. 1.6 Bydd y rheolau a nodir yn y Cyfansoddiad hwn yn orfodol ar bob cymdeithas a pherson sy’n aelod o ByC. 1.7 Rhaid i bob Clwb gwblhau ffurflen pwyllgor newydd y mae’n rhaid ei llenwi a’i dychwelyd i’r Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr cyn diwrnod olaf y tymor. Bydd methu gwneud hynny yn arwain at cosbau ariannol neu fod breintiau yn yr Urdd yn cael eu tynnu’n ôl. 2 Dwyieithrwydd 2.1 Cymerir dwyieithog i olygu Cymraeg a Saesneg 2.2 Gweler Cyfansoddiad yr Urdd Nodyn Cyfarwyddo 2.2 ynglŷn â gweithredu, 2.4 ynglŷn â dehongli a gorfodi a 2.6 ynglŷn ag adolygu a diwygio. 3 Aelodaeth 3.1 ByC – Aelod Cyffredin Bydd yn Aelod Llawn o Urdd y Myfyrwyr, fel y’i diffinnir yng Nghyfansoddiad yr Urdd (Adran 6), a bydd wedi talu ffioedd aelodaeth cyfredol llawn i gymdeithas sy’n gysylltiedig â ByC. Rhaid i Aelodau Cyffredin hefyd feddu ar gerdyn ByC dilys. 3.2 ByC – Aelod Cyswllt Mae aelodaeth gyswllt ar gael i fyfyrwyr nad ydynt ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n gysylltiedig â chymdeithas unigol, a thrwy hynny’n gysylltiedig â ByC, ar y sail bod ganddynt: (i) Arbenigedd mewn maes perthnasol; neu (ii) Aelodaeth anrhydeddus; neu (iii) Ryw sail arall y mae’r Urdd yn ei ystyried yn berthnasol. Mae’n ofynnol i Aelodau Cyswllt fod wedi talu ffioedd aelodaeth cyfredol llawn i gymdeithas sy’n gysylltiedig â ByC ac mae’n rhaid iddynt feddu ar gerdyn ByC dilys. 3.3 Caiff unrhyw un nad yw’n bodloni’r meini prawf uchod ar gyfer ‘aelod’ ei wahardd rhag cymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasau’r Urdd. Gall cymdeithasau nad ydynt yn gorfodi’r arfer hwn fod yn destun cosbau ariannol neu gael breintiau yn yr Urdd wedi’u tynnu’n ôl. 4 Cymdeithasau 4.1 I ymgysylltu, mae’n rhaid i gymdeithas: (a) fod ag isafswm o 20 llofnod a rhifau cardiau ByC oddi wrth ei haelodau am y flwyddyn academaidd honno (b) cyflwyno ei chyfansoddiad i’r Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr (c) bod wedi cyflwyno a chwblhau holl ffurflenni perthnasol yr Urdd ar gyfer y flwyddyn academaidd honno 4.2 Caiff cymdeithasau eu rhwymo gan y gofyniad i fynychu Cyfarfodydd Cyffredinol a nodir yng Nghyfansoddiad yr Urdd. Gellir dod o hyd i’r gweithdrefnau hyn yn Rheol Arbennig 1.5 4.3 Mae’n rhaid i gymdeithasau fod â phwyllgor sy’n trefnu rhedeg y gymdeithas. Bydd yn cynnwys o leiaf: (a) Llywydd (b) Ysgrifennydd (c) Trysorydd 5 Etholiadau 5.1 Caiff y Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr ei ethol yn flynyddol yn unol â Chyfansoddiad yr Urdd. 5.2 Caiff Swyddog y Cymdeithasau ei ethol yng Nghyfarfod Cyffredinol olaf pob blwyddyn academaidd. Rhaid i bleidleiswyr feddu ar gerdyn ByC dilys er mwyn cofrestru pleidlais – ni dderbynnir unrhyw gerdyn arall. 5.3 Cyn diwedd y flwyddyn gyfredol mae’n rhaid i gymdeithasau ethol pwyllgor newydd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Gellir gofyn am gymorth y Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr ar unrhyw adeg. 5.4 Rhaid rhoi gwybod y dyddiad, y lleoliad a’r amser i’r holl aelodau o leiaf bythefnos cyn y bleidlais. 5.5 Rhaid i ymgeiswyr mewn etholiadau cymdeithasau fodloni cyfansoddiad eu cymdeithas a chadw at y meini prawf aelodaeth a nodir yng Nghyfansoddiad ByC a Chyfansoddiad yr Urdd fel ei gilydd. 5.6 Gellir cynnal yr etholiad drwy bleidlais gudd neu drwy ddangos dwylo. 5.7 Caiff ymgeisydd ei ethol os oes ganddo fwyafrif o’r pleidleisiau. 5.8 Bydd gan y Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr bleidlais fwrw pe digwyddai pleidlais gyfartal. 6 Cyllid 6.1 Dyrennir cyfrif i bob cymdeithas a gaiff ei fonitro gan y Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr a Rheolwr Cyllid yr Urdd. Dim ond dau aelod o bob cymdeithas fydd ar fandad y cyfrif a rhoddir hyfforddiant digonol gan yr Urdd i bwysleisio pwysigrwydd y rôl hon. 6.2 Bob blwyddyn bydd y Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr yn ymateb i geisiadau am grant a gyflwynir gan gymdeithasau, a bydd yn dyrannu cyllid yr Urdd yn unol â hynny. Gall hyn amrywio yn dibynnu ar faint y gymdeithas, pa mor aml y mae’n gweithredu, codi arian, gofynion iechyd a diogelwch, dyraniadau blaenorol, dirwyon a osodwyd ayb. (Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol). 6.3 Pe bai cymdeithas yn teimlo nad yw’r dyfarniad a roddwyd yn adlewyrchu ei hanghenion, gellir gofyn am gyfarfod gyda’r Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr a all egluro’r penderfyniad. Bydd y Gweinyddwr Chwaraeon yn bresennol fel sylwedydd a chynghorydd (gan gymryd nodiadau hefyd os oes angen). 6.4 Os na fydd y cyfarfod hwn yn datrys y sefyllfa’n foddhaol dylid gwneud apêl yn erbyn swm y grant i Bwyllgor Cyllid a Chyffredinol yr Urdd drwy Lywydd yr Urdd. Dim ond mewn achosion eithriadol y disgwylir i hyn ddigwydd. 6.5 Rhaid i grantiau a ddyrennir gael eu gwario ar y gwariant a nodir yn y cais am grant oni bai bod cytundeb wedi ei sicrhau gan y Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr. 6.6 Caiff grantiau a ddyrennir eu cadw ar wahân i gyfrifon unigol cymdeithasau, ac fe’u hadolygir ar ddiwedd pob tymor. Os nad yw’r gwariant wedi ei glustnodi a’i bod yn ymddangos nad oes ei angen bydd y Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr yn cadw’r hawl i gadw unrhyw grant yn ôl ac ailddosbarthu’r cyllid. 6.7 Caiff cyfrif grant pob cymdeithas ei droi’n ôl i £0 ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd. Caiff yr holl ddyraniadau grant nas defnyddiwyd eu rhoi yn ôl i gyfrifon cyffredinol yr Urdd. 6.8 Ymdrinnir ag unrhyw gymdeithas neu aelod o gymdeithas y ceir eu bod wedi bod yn ymyrryd â chyfrifon eu cymdeithas waeth ai drwy fethu talu arian a ymddireidwyd iddynt gan aelodau i mewn, neu drwy awdurdodi taliadau drwy dwyll, fel sy’n briodol ac yn unol â’r gyfraith. 6.9 Os bydd cymdeithas yn tynnu gormod o arian o’i chyfrif, bydd y cyfrifoldeb am hynny ac unrhyw filiau pellach yn disgyn ar y cyd ar y llofnodwyr mandedig fel y’u cofnodwyd ar Ffurflen Fandad berthnasol y gymdeithas a gedwir yn y Swyddfa Gyllid. 6.10 Ni all cymdeithasau wario unrhyw ran o’u grant ar achlysuron cymdeithasol. 6.11 Ni all cymdeithasau wneud rhoddion o’u grant i sefydliadau o’r tu allan. 6.12 Ni chaiff cymdeithasau gael cyfrif banc allanol ac eithrio’r un a ddarperir gan yr Urdd. 7 Strwythur 7.1 Bydd Pwyllgor ByC yn cynnwys: (i) Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr (hawliau siarad a phleidleisio llawn) (ii) Swyddog Cymdeithasau (hawliau siarad a phleidleisio llawn) (iii) Gweinyddwr Chwaraeon (hawliau siarad llawn ond dim hawliau pleidleisio) 8 Hawliau 8.1 Dim ond Aelodau Cyffredin sy’n cael pleidleisio neu ddal swydd drwy sefyll am swydd a etholir yn ddemocrataidd. Ni chaniateir i Aelodau Cyswllt ddal unrhyw swyddi ar Bwyllgor Gwaith yr Urdd, Pwyllgor Gwaith yr UA neu Bwyllgor Clwb. 8.2 Gall pob aelod Cyffredin a Chyswllt fynychu cyfarfodydd fel sylwedyddion. Er hynny, dim on Aelodau Cyffredin fydd â’r hawl i (a) gynnig neu eilio gwelliannau i Gyfansoddiad ByC (b) enwebu neu eilio ymgeisydd ar gyfer etholiad (c) pleidleisio ar unrhyw fater mewn cyfarfodydd. 9 Amrywiol 9.1 Ni chaiff unrhyw gymdeithas weithredu heb awdurdod. 9.2 Rhaid i bob cymdeithas weithredu yn unol â’r gyfraith.
|