1 Cyffredinol
1.1 Yr enw ar glybiau chwaraeon y Brifysgol sy’n gysylltiedig ag Urdd Myfyrwyr Aberystwyth yw’r Undeb Athletau (UA).
1.2 Daw chwaraeon cysylltiedig dan gylch gwaith y Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr sy’n swydd sabothol lawn-amser, neu dan gylch gwaith rôl debyg a allai esblygu ohoni.
1.3 Y Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr fydd yn gyfrifol am gydlynu â chyrff llywodraethu y mae’r Urdd yn gysylltiedig â hwy yn ogystal â bod yn bwynt cyswllt ar gyfer sefydliadau megis UK University Sports (UKUS) ac UA Prifysgolion Cymru (UWAU).
1.4 Bydd copi o’r Cyfansoddiad hwn ar gael gan:
a) Dderbynfa’r Urdd
b) Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr
c) Llywydd yr Urdd
d) Prif Reolwr yr Urdd.
Bydd yn bosibl gweld copi ar wefan yr Urdd hefyd.
1.5 Bydd y rheolau a nodir yn y Cyfansoddiad hwn yn orfodol ar bob clwb ac unigolyn sy’n aelod o’r Undeb Athletau.
1.6 Mae’n rhaid i bob clwb gadw at bolisïau craidd yr Urdd: Cyfle Cyfartal, Dwyieithrwydd ac Amgylcheddaeth. Gall methu â gwneud hynny arwain at osod cosbau ariannol neu fod breintiau yn yr Urdd yn cael eu tynnu’n ôl.
1.7 Bydd y cyfansoddiad hwn yn rhedeg ochr yn ochr â Chyfansoddiad yr Urdd ac yn ddarostyngedig i’w awdurdod uwch.
1.8 Rhaid i bob Clwb lenwi ffurflen pwyllgor newydd a’i dychwelyd i’r Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr cyn diwrnod olaf y tymor. Bydd methu gwneud hynny yn arwain at gosbau ariannol neu fod breintiau yn yr Urdd yn cael eu tynnu’n ôl.
2 Dwyieithrwydd
2.1 Cymerir dwyieithog i olygu Cymraeg a Saesneg
2.2 Gweler Cyfansoddiad yr Urdd Nodyn Cyfarwyddo 2.2 ynglŷn â gweithredu dwyieithrwydd, 2.4 ynglŷn â dehongli a gorfodi a 2.6 ynglŷn ag adolygu a diwygio.
3 Aelodaeth
3.1 UA – AELOD CYFFREDIN
Bydd yn Aelod Llawn o Urdd y Myfyrwyr, fel y’i diffinnir yng Nghyfansoddiad yr Urdd (Adran 6), a bydd wedi talu ffioedd aelodaeth cyfredol llawn i glwb sy’n gysylltiedig â’r UA. Rhaid i Aelodau Cyffredin hefyd feddu ar gerdyn ‘Sborti’ dilys o Brifysgol Aberystwyth.
3.2 UA – AELOD CYSWLLT
Mae aelodaeth gyswllt ar gael i fyfyrwyr nad ydynt ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac sy’n gysylltiedig â chlwb unigol, a thrwy hynny’n gysylltiedig â’r UA, ar y sail bod ganddynt:
(i) Arbenigedd mewn maes neu ddisgyblaeth perthnasol; neu
(ii) Aelodaeth anrhydeddus; neu
(iii) Rhyw sail arall y mae’r Urdd yn ei ystyried yn berthnasol.
Mae’n ofynnol i Aelodau Cyswllt fod wedi talu ffioedd aelodaeth cyfredol llawn i glwb sy’n gysylltiedig â’r UA ac mae’n rhaid iddynt feddu ar gerdyn ‘Sborti’ dilys o Brifysgol Aberystwyth.
3.3 Mae’n rhaid i bob aelod gofrestru â chyfrif aelodaeth ar-lein yr UA er mwyn sefydlu eu statws ‘aelod’.
3.4 Os nad yw unigolyn yn bodloni’r meini prawf uchod i fod yn ‘aelod’ yna caiff ei wahardd rhag cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau chwaraeon yr Urdd. Gall clybiau nad ydynt yn gorfodi hyn gael eu cosbi’n ariannol neu gael breintiau yn yr Urdd wedi’u tynnu’n ôl.
4 Hawliau
4.1 Dim ond Aelodau Cyffredin sy’n cael pleidleisio neu fod â swydd ar ôl ymgeisio am swydd a etholir yn ddemocrataidd. Ni chaniateir i Aelodau Cyswllt fod ag unrhyw swydd ar Bwyllgor Gwaith yr Urdd, Pwyllgor Gwaith yr UA neu Bwyllgor Clwb.
4.2 Gall pob aelod Cyffredin a Chyswllt fynychu cyfarfodydd fel sylwedyddion. Er hynny, dim ond Aelodau Cyffredin fydd â’r hawl i
(a) gynnig neu eilio gwelliannau i Gyfansoddiad yr UA
(b) enwebu neu eilio ymgeisydd ar gyfer etholiad
(c) pleidleisio ar unrhyw fater mewn cyfarfodydd.
5 Strwythur
5.1 Bydd Pwyllgor Gwaith yr UA yn cynnwys:
(i) Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr (hawliau siarad a phleidleisio llawn)
(ii) Swyddog Chwaraeon (hawliau siarad a phleidleisio llawn)
(iii) Gweinyddwr Chwaraeon (hawliau siarad llawn ond dim hawliau pleidleisio)
6 Etholiadau
6.1 Caiff y Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr ei ethol yn flynyddol yn unol â Chyfansoddiad yr Urdd.
6.2 Caiff y Swyddog Chwaraeon ei ethol yng Nghyfarfod Cyffredinol olaf pob blwyddyn academaidd. Rhaid i bleidleiswyr feddu ar gerdyn ‘Sborti’ dilys er mwyn cofrestru pleidlais – ni dderbynnir unrhyw gerdyn arall.
6.3 Cyn diwedd y flwyddyn gyfredol mae’n rhaid i glybiau ethol pwyllgor newydd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Gellir gofyn am gymorth y Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr ar unrhyw adeg.
6.4 Rhaid rhoi gwybod beth yw dyddiad, lleoliad ac amser etholiadau’r clwb i’r holl aelodau o leiaf bythefnos cyn y bleidlais.
6.5 Rhaid i ymgeiswyr mewn etholiadau clybiau gadw at gyfansoddiad eu clwb yn ogystal â chadw at y meini prawf aelodaeth a nodir yng Nghyfansoddiad yr UA a Chyfansoddiad yr Urdd fel ei gilydd.
6.6 Gellir cynnal yr etholiad drwy bleidlais gudd neu drwy ddangos dwylo.
6.7 Caiff ymgeisydd ei ethol os oes ganddo fwyafrif o’r pleidleisiau.
6.8 Bydd gan y Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr bleidlais fwrw pe digwyddai pleidlais gyfartal.
7 Cyllid
7.1 Rhoddir cyfrif i bob clwb a chaiff hwn ei fonitro gan y Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr a Rheolwr Cyllid yr Urdd. Dim ond dau aelod o bob clwb fydd ar fandad y cyfrif a rhoddir hyfforddiant digonol gan yr Urdd i bwysleisio pwysigrwydd y rôl hon.
7.2 Bob blwyddyn bydd Pwyllgor Gwaith yr UA yn ymateb i geisiadau am grant a gyflwynir gan glybiau, a bydd yn dyrannu cyllid yr Urdd yn unol â hynny. Gall hyn amrywio yn dibynnu ar faint y clwb, pa mor aml y mae’n gweithredu, codi arian, gofynion iechyd a diogelwch, dyraniadau blaenorol, dirwyon a osodwyd ayb. (Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth.)
7.3 Os yw clwb yn teimlo nad yw’r dyfarniad a roddwyd yn adlewyrchu ei anghenion, yna gall y clwb ofyn am gyfarfod y Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr a fydd yn egluro’r penderfyniad. Bydd y Gweinyddwr Chwaraeon yn bresennol fel sylwedydd a chynghorydd (gan gymryd nodiadau hefyd os oes angen).
7.4 Os na fydd y cyfarfod hwn yn datrys y sefyllfa’n foddhaol dylid gwneud apêl yn erbyn swm y grant i Bwyllgor Cyllid a Chyffredinol yr Urdd drwy Lywydd yr Urdd. Dim ond mewn achosion eithriadol y disgwylir i hyn ddigwydd.
7.5 Rhaid i grantiau a ddyrennir gael eu gwario ar y gwariant a nodir yn y cais am grant oni bai bod cytundeb wedi ei sicrhau â’r Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr.
7.6 Caiff grantiau a ddyrennir eu cadw ar wahân i gyfrifon clybiau, ac fe’u hadolygir ar ddiwedd pob tymor. Os nad yw’r gwariant wedi ei glustnodi i’w wario ac ymddengys nad oes ei angen bydd Pwyllgor Gwaith yr UA yn cadw’r hawl i gadw unrhyw grant yn ôl ac i ailddosbarthu’r cyllid.
7.7 Caiff cyfrif grant pob clwb ei droi’n ôl i £0 ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd. Caiff yr holl ddyraniadau grant nas defnyddiwyd eu rhoi yn ôl i gyfrifon cyffredinol yr Urdd.
7.8 Ymdrinnir fel sy’n briodol ac yn unol â’r gyfraith ag unrhyw glwb neu aelod o glwb y ceir eu bod wedi bod yn ymyrryd â chyfrifon eu clwb boed drwy fethu talu i mewn arian a ymddiriedwyd iddynt gan aelodau, neu drwy awdurdodi taliadau drwy dwyll.
7.9 Os bydd clwb yn tynnu gormod o arian o’i gyfrif, cydgyfrifoldeb y llofnodwyr mandedig fel y’u cofnodwyd ar Ffurflen Fandad berthnasol y clwb a gedwir yn Swyddfa Gyllid yr Urdd fydd yr arian hwnnw ac unrhyw filiau pellach.
7.10 Ni all clybiau ddefnyddio unrhyw ran o’u grant ar gyfer achlysuron cymdeithasol.
7.11 Ni all clybiau wneud rhoddion o’u grant i sefydliadau o’r tu allan.
7.12 Ni chaiff clybiau gael cyfrif banc allanol ac eithrio’r un a ddarperir gan yr Urdd.
8 Offer
8.1 Mae’r holl offer a brynir gan yr Urdd, ac ar ei rhan, yn eiddo i’r Urdd. Mae pwyllgorau clybiau unigol yn gyfrifol am yr offer a roddir iddynt.
8.2 Ni chaiff unrhyw glwb neu swyddog o unrhyw glwb fenthyg unrhyw offer neu eiddo’r clwb i unrhyw unigolyn neu glwb arall heb yn gyntaf gael caniatâd diamwys y Gweinyddwr Chwaraeon.
8.2.1 Ar ôl cael caniatâd, bydd y derbynnydd yn llofnodi datganiad sy’n nodi os collir neu difrodir unrhyw offer neu eiddo tra eu bod ar fenthyg iddynt hwy, yna caiff cost atgyweirio neu brynu rhai newydd ei thalu’n llawn ganddynt hwy. Os oes angen cael offer newydd mae’n rhaid iddo fod o’r un safon (neu well) na’r eitem(au) i’w newid.
8.4 Cyflwynir rhestrau offer ar ddechrau pob sesiwn academaidd ac yna eu hasesu gan bwyllgor y clwb academaidd ynghyd â’r Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr a Gweinyddwr Chwaraeon yn nhymor olaf pob blwyddyn academaidd.
9 Diogelwch
9.1 Mae’n rhaid i’r Urdd a’i haelodau gydymffurfio’n llwyr â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch. Cyfrifoldeb pwyllgor y clwb yw sicrhau fod yr holl aelodau yn cadw at ofynion polisi Iechyd a Diogelwch yr Urdd i glybiau.
9.2 Rhaid gwneud gwiriadau diogelwch cyn dechrau unrhyw weithgaredd.
9.3 Mae’n rhaid i bob clwb gyflwyno asesiad risg o’r gweithgareddau a gynllunnir ganddynt am y flwyddyn ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. Gall Pwyllgor Gwaith yr UA ofyn am asesiadau risg ychwanegol ar unrhyw adeg.
10 Amrywiol
10.1 Os yw tîm neu glwb, drwy esgeulustod neu drwy weithred fwriadol, yn difrodi eiddo’r clwb, yna cyfrifoldeb swyddogion y tîm neu’r clwb dan sylw fydd cywiro difrod o’r fath.
10.2 Os yw tîm yn achosi difrod i eiddo nad yw’n perthyn i’r clwb, cyfrifoldeb swyddogion y tîm neu’r clwb dan sylw fydd y difrod hwnnw yn ogystal â chost cywiro difrod o’r fath. Byddant hefyd yn atebol i unrhyw unigolyn neu gorff sydd ag awdurdod rhesymol i wneud ymholiadau i achos difrod o’r fath.
10.3 Os dewisir aelod o’r UA i gynrychioli Prifysgol Aberystwyth mewn unrhyw gystadleuaeth allanol, yna mae Pwyllgor Gwaith yr UA, ar ôl derbyn cyngor ariannol, yn rhydd i benderfynu rhoi arian iddo/iddi ai peidio.
Atodiad 1 – Rhoi Rhubanau
1) Dylid rhoi rhubanau/lliwiau bob blwyddyn.
2) Bydd yr enwebiadau i gael rhubanau’r Brifysgol yn agored, ac ni ddyfarnir mwy na 25 ohonynt bob sesiwn.
3) Wrth roi rhubanau’r Brifysgol, cedwir at y meini prawf canlynol:
(a) Gwasanaeth hir a theyrngarwch i glwb ac/neu i chwaraeon Prifysgol yn gyffredinol;
(b) Perfformiad rhagorol.
4) Pan fo’n bosibl, rhoddir rhubanau llawn a rhubanau hanner yn ôl y safonau a gyrhaeddwyd. O ran chwaraeon tîm cedwir at y meini prawf canlynol:
a) Rhoddir rhubanau llawn i chwaraewr am
(i) fod yn y tîm cyntaf am ddwy flynedd a chwarae dwy ran o dair o’r gêmau
(ii) amgylchiadau arbennig megis gwasanaeth hir.
Atodiad 2 – Ymgysylltu â’r UA
1) I ymgysylltu, mae’n rhaid i glwb
(a) fod ag isafswm o 20 aelod cofrestredig
(b) cyflwyno ei gyfansoddiad i Bwyllgor Gwaith yr UA
(c) cyflwyno’r holl ddeunyddiau angenrheidiol eraill fel y manylir gan Bwyllgor Gwaith yr UA
(d) bodloni’r holl ofynion cyfreithiol yn ôl amodau yswiriant ac fel y cofnodwyd gan Bwyllgor Gwaith yr UA.
2) Ar ôl un sesiwn o aelodaeth bydd clwb yn gymwys i gael ei ystyried am grant llawn, cyn belled ag y tybir iddynt weithredu yn ôl eu cyfansoddiad.
3) Mae’n rhaid i bob clwb cysylltiedig gyflwyno rhestr lawn o’r aelodau sydd wedi talu o fewn 21 diwrnod i ddechrau’r tymor.
4) Os gellir profi fod unrhyw glwb cysylltiedig wedi gweithio yn anghyfansoddiadol yna mae’n bosibl y gall golli ei grant ac/neu gael eu cosbi rywfodd arall, yn ôl penderfyniad Pwyllgor Gwaith yr UA. Dim ond o fewn y flwyddyn academaidd honno y gellir cosbi am y camwedd.
5) Mae’n rhaid i bob clwb adolygu ei gyfansoddiad o leiaf bob dwy flynedd.
6) Pwyllgorau clybiau cysylltiedig a gyfrifir i fod yn gyfrifol am faterion cyfansoddiadol eu clwb.
Atodiad 3 - swyddogaeth y Swyddog Sabothol
1) Bydd y Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr yn aelod o Bwyllgor Gwaith yr Urdd ac ymhlith ei ddyletswyddau fydd y canlynol:
a) Cadeirio cyfarfodydd Pwyllgor Gwaith yr UA
b) Trefnu cyffredinol ar chwaraeon myfyrwyr Urdd Myfyrwyr Aberystwyth, o ran cynrychiolaeth a hamdden fel ei gilydd.
c) Cynrychioli’r Urdd yng nghynadleddau UKUS ac UA Prifysgolion Cymru (UWAU) a chynadleddau chwaraeon eraill yn ôl yr angen
d) Trefnu, archebu a chynnal a chadw cerbydau cludiant yr Urdd mewn cydweithrediad â’r Gweinyddwr Chwaraeon
e) Gweinyddu gêmau chwaraeon mewn cydweithrediad ag ysgrifenyddion tîm.
f) Rheolaeth gyffredinol dros gyllid yr UA, gan gynnwys ei ddosbarthu, yn ogystal â rheolaeth dros holl agweddau ariannol yr UA
g) Trefnu Wythnos Chwaraeon i’w chynnal cyn dechrau blwyddyn academaidd y Brifysgol
h) Cyfrifoldeb cyffredinol am hysbysebu holl weithgareddau chwaraeon y Brifysgol a chynnal hysbysfyrddau perthnasol chwaraeon yn y Brifysgol.
j) Cyfrifoldeb cyffredinol am holl gyhoeddusrwydd gweithgareddau chwaraeon y Brifysgol mewn cyhoeddiadau cenedlaethol, lleol a rhyngolegol
k) Rheolaeth gyffredinol dros brynu holl offer y clybiau mewn ymgynghoriad â’r swyddogion clybiau
l) Rheoli materion yswiriant mewn cydweithrediad â’r Gweinyddwr Chwaraeon
m) Rhedeg a threfnu digwyddiadau megis Siwpyrtimau, Rhyng-brifysgolion, Noson Wobrwyo’r UA a Chwpan Cymru
Nid yw’r rhestr hon yn gyflawn.