Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Wythnos y Glas 2010

Mis Medi yma, disgwylia Urdd Myfyrwyr Aberystwyth groesawu 2,700 o fyfyrwyr newydd i Aberystwyth - y nifer fwyaf o lasfyfyrwyr am sawl blwyddyn, a chroesawu llawer o fyfyrwyr yn ôl i'r dre. I'w helpu setlo mewn i'w bywyd newydd, mae'r Urdd yn trefnu 'Get Fresh' - rhaglen fywiog ac amrywiol o weithgareddau a gwybodaeth yn ystod Wythnos y Glas. Yn dilyn ei lwyddiant ysgubol llynedd, mae Get Fresh! 2010 yn argoeli'n fwy ac yn well nag erioed o'r blaen a dyma'ch cyfle chi i fod yn rhan ohono.

 

Mae gan fyfyrwyr Aberystwyth ystod eang o ddiddordebau a gweithgareddau gan dreulio cryn dipyn o amser ac arian ar bethau eraill heblaw eu hastudiaethau; bwyta, yfed, clybio, chwaraeon, siopa a chymdeithasu - mae'r 100 a mwy o glybiau chwaraeon a chymdeithasau sydd yma yn yr Urdd Myfyrwyr yn dystiolaeth o hyn. Yn bwysig, mae ‘Get Fresh! 2010’ yn darparu cyfle unigryw i fusnesau gael eu sylwi gan y grwp o bobl hynod werthadwy hwn wrth iddynt gael eu blas cyntaf o'r ardal, ei gwasanaethau ac adnoddau. Gan mai myfyrwyr yw dros draean o boblogaeth Aberystwyth yn ystod amser tymor, a all eich busnes chi fforddio beidio eu cyrraedd?

Gallwch weld isod Pecyn Cyfryngau 'Get Fresh! 2010' sy'n cynnwys cyfraddau safonol gweithgareddau hyrwyddo trwy gydol yr wythnos - heb gynnydd o brisiau 2009 yn y rhan fwyaf o gategorïau a chyda chyfleoedd marchnata newydd ar gyfer 2010.

Gellir cael disgownt ar archebion lluosog. Noder bod y galw am le hysbyesbu yn uchel a rhoddir stondinau ar sail y cyntaf i'r felin caiff falu wrth geisio cynnal amrywiaeth ymysg hysbysebwyr - y.h. mae'n bosib mai ond un stondin gallem ddarparu i bob sector busnes.

Boed eich anghenion marchnata penodol yn helaeth neu'n fach, gallem ganfod rhaglen hysbysebu addas i chi. Os hoffech drafod yr opsiynau amrywiol sydd ar gael i'ch busnes chi mae croeso i chi gysylltu â mi.

Rydym yn ceisio ystyried yr amgylchedd gymaint â phosib, ond os hoffech gopi ar bapur o'r atodiadau, gadewch mi wybod. Mae'r ffurflenni archebu wedi'u hatodi mewn dogfen Word fel y gallwch eu llenwi a'u gyrru yn ôl i mi heb ddefnyddio unrhyw bapur o gwbl. Os yw'n well gennych, gallwch eu postio neu eu ffacsio yn ôl (gweler y pecyn cyfryngau am fanylion cyswllt).

 

Rhiannon Cruse

Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu

Urdd Myfyrwyr Aberystwyth

Undeb MyfyrwyrStudents' Union

Penglais

Aberystwyth

SY23 3DX

 

ebost:  rhc@aber.ac.uk

ffôn:       01970 621709

ffacs:      01970 621701

LAST_UPDATED2
 

Crested Leather Hipflask
£21.99 £24.99
» more info

 

Wales Baseball Cap
£2.99
» more info

» see all products

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students