Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Chwaraeon
Wythnos y Glas 2010

Mis Medi yma, disgwylia Urdd Myfyrwyr Aberystwyth groesawu 2,700 o fyfyrwyr newydd i Aberystwyth - y nifer fwyaf o lasfyfyrwyr am sawl blwyddyn, a chroesawu llawer o fyfyrwyr yn ôl i'r dre. I'w helpu setlo mewn i'w bywyd newydd, mae'r Urdd yn trefnu 'Get Fresh' - rhaglen fywiog ac amrywiol o weithgareddau a gwybodaeth yn ystod Wythnos y Glas. Yn dilyn ei lwyddiant ysgubol llynedd, mae Get Fresh! 2010 yn argoeli'n fwy ac yn well nag erioed o'r blaen a dyma'ch cyfle chi i fod yn rhan ohono.

 

Mae gan fyfyrwyr Aberystwyth ystod eang o ddiddordebau a gweithgareddau gan dreulio cryn dipyn o amser ac arian ar bethau eraill heblaw eu hastudiaethau; bwyta, yfed, clybio, chwaraeon, siopa a chymdeithasu - mae'r 100 a mwy o glybiau chwaraeon a chymdeithasau sydd yma yn yr Urdd Myfyrwyr yn dystiolaeth o hyn. Yn bwysig, mae ‘Get Fresh! 2010’ yn darparu cyfle unigryw i fusnesau gael eu sylwi gan y grwp o bobl hynod werthadwy hwn wrth iddynt gael eu blas cyntaf o'r ardal, ei gwasanaethau ac adnoddau. Gan mai myfyrwyr yw dros draean o boblogaeth Aberystwyth yn ystod amser tymor, a all eich busnes chi fforddio beidio eu cyrraedd?

Gallwch weld isod Pecyn Cyfryngau 'Get Fresh! 2010' sy'n cynnwys cyfraddau safonol gweithgareddau hyrwyddo trwy gydol yr wythnos - heb gynnydd o brisiau 2009 yn y rhan fwyaf o gategorïau a chyda chyfleoedd marchnata newydd ar gyfer 2010.

Gellir cael disgownt ar archebion lluosog. Noder bod y galw am le hysbyesbu yn uchel a rhoddir stondinau ar sail y cyntaf i'r felin caiff falu wrth geisio cynnal amrywiaeth ymysg hysbysebwyr - y.h. mae'n bosib mai ond un stondin gallem ddarparu i bob sector busnes.

Boed eich anghenion marchnata penodol yn helaeth neu'n fach, gallem ganfod rhaglen hysbysebu addas i chi. Os hoffech drafod yr opsiynau amrywiol sydd ar gael i'ch busnes chi mae croeso i chi gysylltu â mi.

Rydym yn ceisio ystyried yr amgylchedd gymaint â phosib, ond os hoffech gopi ar bapur o'r atodiadau, gadewch mi wybod. Mae'r ffurflenni archebu wedi'u hatodi mewn dogfen Word fel y gallwch eu llenwi a'u gyrru yn ôl i mi heb ddefnyddio unrhyw bapur o gwbl. Os yw'n well gennych, gallwch eu postio neu eu ffacsio yn ôl (gweler y pecyn cyfryngau am fanylion cyswllt).

 

Rhiannon Cruse

Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu

Urdd Myfyrwyr Aberystwyth

Undeb MyfyrwyrStudents' Union

Penglais

Aberystwyth

SY23 3DX

 

ebost:  rhc@aber.ac.uk

ffôn:       01970 621709

ffacs:      01970 621701

LAST_UPDATED2
 
Ymuno â Chlwb

Yma yn Aber mae gennym gymaint i'w gynnig o ran y clybiau chwaraeon sydd yma a gall ymuno gydag un neu fwy o'r rhain wella'ch amser yn y Brifysgol yn sylweddol. Mae nifer o ffyrdd i ymuno â chlwb fel y gwelir yma:

  • Yn ystod Wythnos y Glas mi fydd yna Ffair Chwaraeon a gynhelir eleni ar ddydd Mawrth 28ain Medi. Mae'r diwrnod hwn yn darparu cyfle i'n clybiau chwaraeon gyflwyno eu hunain i chi a rhoi'r cyfle i chi sgwrsio a gofyn unrhyw gwestiynau y mynnoch. Gallwch ymuno ag un clwb yn unig neu bob un ohonynt, gwnewch fel y mynnoch!
  • Yn ychwaneol i'r ffeiriau yn ystod Wythnos y Glas, cynhelir hefyd Ail Ffair y Glas hanner ffordd trwy'r flwyddyn sy'n rhoi ail-gyfle i chi ymuno â chlwb os wnaethoch fethu'r ffeiriau cynt neu os oes gennych awydd rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol.
  • Yn olaf, os wnaethoch fethu'r ddwy ffair uchod, na phoener. Gallwch weld rhestr gyfan o'r holl glybiau a'u manylion cyswllt ar ein gwefan felly gallwch yrru ebost atyn nhw am unrhyw wybodaeth gan gynnwys pryd maent am gwrdd nesaf. Ar ben hyn, mae gan nifer o'r clybiau wefannau eu hunain ac mae'r dolenni i'r rhain ar y rhestr o'r clybiau gan eich galluogi chi gael golwg ar yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig.

Cofiwch!!!!

I ymuno â chlwb chwaraeon, mae'n rhaid i chi gael Cerdyn Sborti sydd ar gael o Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol. Gellir prynu'r rhain cyn dechrau'r flwyddyn trwy ddefnyddio'r ffurflen gais yn y pecyn post a yrrwyd i chi gan y Brifysgol, neu yn Ffair y Glas yn ystod Wythnos y glas neu yn y Ganolfan Chwaraeon sydd ar y campws.

LAST_UPDATED2
 
Sut i sefydlu clwb

Os ydych yn sylweddoli wedi cyrraedd Aber nad oes yna glwb sy'n gweddu eich diddordebau neu sgiliau chi, gallwch greu clwb eich hun!

Yn gyntaf, mae'n rhaid chi gael 20 aelod sy'n berchen ar gerdyn Sborti. Unwaith mae gennych 20 aelod neu fwy mae angen i chi ffurfio cyfansoddiad byr (rheolau'r clwb), dewis seddi pwyllgor (Llywydd, Trysorydd, Ysgrifennydd ayyb) a hefyd cwblhau asesiad risg o weithgareddau eich clwb.

Mae'r ffurflenni perthnasol i wneud hyn ar gael o Swyddfa'r UA, neu maent hefyd ar gael i'w lawrlwytho o wefan yr Urdd isod.

Mae croeso i chi yn ogystal ddod i'r Undeb os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon.

 
Pecyn Y Capten a Ffurflenni

Pecyn y Capten

Mae'r wybodaeth ganlynol yn hanfodol i holl Gapteniaid Clybiau. Mae'r pecyn cyfan ar gael i lawrlwytho mewn PDF neu WORD neu mae modd gweld tudalenau unigol drwy ddilyn y cysylltiadau isod.

Flurfleni eraill

Cais am gyfrif cyfrifiadur

Attachments:
Download this file (AUEquipmentList.doc)AUEquipmentList.doc[Equipment List]74 Kb
Download this file (captainspack 2010.doc)captainspack 2010.doc[ ]358 Kb
Download this file (codeofconducttemplatedoc1.doc)codeofconducttemplatedoc1.doc[Code of Conduct Template]1203 Kb
Download this file (CommitteeContactsSheet0506doc1.doc)CommitteeContactsSheet0506doc1.doc[Committee Contacts Sheet]68 Kb
Download this file (instructorform04.doc)instructorform04.doc[Coach / Instructor / Leader Form]1179 Kb
Download this file (MandateF.pdf)MandateF.pdf[Mandate Form]77 Kb
Download this file (MembershipList.doc)MembershipList.doc[Membership List]76 Kb
Download this file (Midasinformationweb05.doc)Midasinformationweb05.doc[MIDAS Information]1174 Kb
Download this file (minibusbookingform 10.doc)minibusbookingform 10.doc[ ]177 Kb
Download this file (PrivateVehicleRegistrationFormbi.doc)PrivateVehicleRegistrationFormbi.doc[Private Vehicle Registration Form]80 Kb
Download this file (ra-completionguide0705.doc)ra-completionguide0705.doc[Risk Assessment Guidelines]34 Kb
Download this file (STUDENTSRISKASSESSMENTform.doc)STUDENTSRISKASSESSMENTform.doc[Risk Assessment Form]72 Kb
Download this file (TripRegistrationFormver2.doc)TripRegistrationFormver2.doc[Trip Registration Form]75 Kb
 
Polisïau

Dilynwch y dolenni isod i ddarllen a lawrlwytho'r dogfennau polisïau diweddaraf.

Attachments:
Download this file (athleticunionoperationspolicy.pdf)athleticunionoperationspolicy.pdf[Operations Policy]500 Kb
Download this file (auhealthandsafetydocument05.pdf)auhealthandsafetydocument05.pdf[Health and Safety]247 Kb
 
<< Cychwyn < Yn ôl 1 2 Nesaf > Diwedd >>

JPAGE_CURRENT_OF_TOTAL

Crested Pen Knife
£2.49 £3.99
» more info

 

Cymru Bear
£2.99
» more info

» see all products

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students