Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Cwch Newydd i'r Clwb Hwylio

new boatMae Clwb Hwylio Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn bad tendio diogelwch fel rhodd gan Mrs Ann Robertson, cyn-fyfyrwraig Aberystwyth.

Dywedodd Mrs Robertson, sy’n byw yn Aberystwyth, fod y dref “wedi bod yn rhan fawr o’m mywyd i erioed. Astudiais i a’m rhieni yma, yn ogystal â’m merch. Rwy’n falch ofnadwy o allu gwneud cyfraniad.”

 

 

Cyfarchwyd Mrs Robertson fore Mercher yn y tŷ cychod yn Aberystwyth gan Alun Minifey, y Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr a Tom Davies, Comodor y Clwb Hwylio.

Cyflwynodd aelodau’r Clwb Hwylio flodau i Mrs Robertson gan ddiolch iddi am ei charedigrwydd.

Mae gan y clwb tua 40 o aelodau ar hyn o bryd, a bydd y bad, sy’n eitha’ tebyg i’r rhai a ddefnyddir gan yr RNLI, yn galluogi’r aelodau i ymarfer hwylio ym Mae Ceredigion yn ddiogel.

Ychwanegodd Alun Minifey; “Mae’r Urdd a’r Undeb Athletaidd yn hynod ddiolchgar i Mrs Robertson am ei haelioni. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i’r Clwb Hwylio ddatblygu a chyrraedd ei botensial. Hoffwn ni ddiolch i Mrs Robertson unwaith eto, rydym mor ddiolchgar am eich cefnogaeth.”

Roedd Julian Smyth, Cyfarwyddwr Datblygu Aberystwyth, wrth ei fodd â charedigrwydd Mrs Robertson: “Mae Ann yn enghraifft berffaith o’r teulu estynedig o raddedigion Aber. Mae hi wedi trosglwyddo ei chariad hi tuag at hwylio i ddarpariaeth ddiogelwch arwyddocaol a pharhaol ar gyfer y genhedlaeth bresennol o fyfyrwyr y clwb hwylio, a bydd y bad yn parhau i fod o fudd i hwylwyr ifanc am flynyddoedd i ddod. Rydym yn ddiolchgar dros ben i Ann am ei chefnogaeth.”

Ychwanegodd bwyllgor y Clwb Hwylio; “Bydd y rhodd hon gan Mrs Robertson yn rhoi llawer mwy o gyfle i’r clwb hwylio’n amlach a hefyd yn ein galluogi i gymryd rhan mewn mwy o ddigwyddiadau. Mae hefyd yn darparu amgylchedd mwy diogel i ddysgu ein haelodau newydd ynddo gyda llai o gyfyngiadau gan y tywydd.”

LAST_UPDATED2
 

Aberystwyth "Fairtrade Town" Travel Mug
£7.50
» more info

 

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students