|
Gan fod gen i funud fach yn sbâr, meddyliais waeth i mi sgwennu blog a rhoi’r diweddaraf i chi.
Hwn yw semester mwya’r flwyddyn academaidd o bell ffordd, gyda digwyddiadau fel ail ffair y glas, Varsity, Campau’r Cewri, Swper y Cymdeithasau a lluniau’r Cymdeithasau a’r Clybiau i gyd yn dod syth ar ôl ei gilydd; mae’n gyfnod prysur tu hwnt. Rydym hefyd wedi llunio drafft cyntaf y ‘Cynllun Strategol Gweithgareddau’ lle’r ydym yn llythrennol yn cynllunio dyfodol Gweithgareddau yn Aberystwyth; cewch fwy o fanylion isod.
Ail Ffair y Glas
Diolch yn fawr iawn i Kate Heaven a Dan Meehan am weithio mor galed ar gyfer Ail Ffair y Glas! Fel grŵp, sylweddolon ni nad oedd ffurf ffeiriau’r gorffennol yn gweithio. Nid oedd llawer o bobl yn mynd iddynt ac roedd myfyrwyr yn gwastraffu eu hamser wrth eistedd mewn ystafell wag am y diwrnod cyfan pan fo ganddynt waith i’w wneud. Y ffordd ymlaen oedd gwahodd busnesau i’r ffair a oedd yn cynnig cynigion ardderchog i fyfyrwyr. Fe drefnwyd sioe ffasiwn yn ogystal ac roedd yn boblogaidd iawn. Gobeithiwn barhau â’r ffurf hon y flwyddyn nesaf gan ei datblygu ymhellach, gan alluogi clybiau a chymdeithasau gael y gorau o’r cyfle hwn i ddenu aelodau newydd!
Varsity 2012
Roeddwn yn ofnadwy o siomedig na ddaethom ni â thlws Varsity adre eleni. Ond rhai mi ddweud fod ymdrechion ein clybiau yn anhygoel gyda llawer o gemau agos iawn. Aeth gemau pêl-droed y dynion a’r merched i giciau o’r smotyn, enillwyd y gêm bêl-rwyd gyda basged yn yr eiliad olaf a nawn ni ddim sôn am y problemau gyda’r caeau rygbi. Hoffaf hefyd ganmol ein Carfan Tennis Bwrdd a gurodd eu cyfoedion ym Mangor yn eu gêm gystadleuol gyntaf erioed. Roeddwn yn falch ofnadwy o ymdrechion ac ymddygiad pawb ym Mangor – roedd yn ddiwrnod rhagorol i’r 400 o fyfyrwyr a aeth ar y bysiau i’r Gogledd! Y flwyddyn nesaf, byddan nhw’n dod i’n herio ni ar ein tomen ein hunain a gallaf eich sicrhau y bydd y tlws yn dychwelyd i’w iawn le yn Adeilad Urdd Aberystwyth!
Campau’r Cewri 2012
Roedd Campau’r Cewri 2012 yn llwyddiant enfawr gyda 42 o dimau’n cystadlu, a threfn a digwyddiadau newydd sbon. Heb os, fe wthiwyd y cystadleuwyr i’r lefel nesaf o ran ffitrwydd corfforol, ac o ran yr hwyl a’r miri. Rhwng y prawf blip ar bnawn dydd Gwener, a’r gamp ddirgel ym Mlaendolau ar y dydd Sul; gobeithiaf fod pawb wedi mwynhau’r ddau benwythnos. Llongyfarchiadau enfawr i bawb a gymerodd rhan yn yr achlysur gan helpu i’w wneud yr un mor llwyddiannus ag arfer, a hoffaf ddiolch hefyd i bawb a gynorthwyodd.
Enillwyr Campau’r Merched oedd – FC Dirty Tackle
Enillwyr Campau’r Dynion oedd – The King Cobras
Lluniau’r Cymdeithasau a’r Clybiau
Daeth cwmni Take That Photo draw i dynnu lluniau’r clybiau a’r cymdeithasau hynny a gofrestrodd ar gyfer y lluniau, gyda’n grŵp ni’n tynnu lluniau’n gyson am ddau ddiwrnod, credaf fod pawb wedi cael lluniau arbennig iawn i gofio’u blwyddyn gyda’u clwb neu eu cymdeithas, ac roedd y cwmni’n canmol ein myfyrwyr yn fawr iawn. Byddan nhw hefyd yn rhoi’r holl luniau ar eu gwefan yn fuan iawn.
Swper y Cymdeithasau
Cynhelir y swper nos Wener yma (23/3/12) ac rydym yn gobeithio am gynnydd ar y llynedd, rydym wedi cael nifer fawr o enwebiadau, bob un â rhesymau gwych y tu cefn iddynt. Pwrpas y noson yw cydnabod y rheini sy’n gweithio mor galed dros eu cymdeithas. Rwy’n siwr y bydd hi’n noson wych yn y Pier Brassiere nos Wener. Byddaf yn eich diweddaru am y noson ar ôl nos Wener.
Gwella Prosesau
Rwyf hefyd wedi dechrau gwella prosesau’r Urdd ar gyfer clybiau a chymdeithasau. Ar hyn o bryd, mae llawer ohonynt yn hirwyntog ac weithiau’n rhwystro yn hytrach na helpu. Bydd yna gopi diwygiedig o’r drefn ddisgyblu ar gyfer aelodau o glybiau/cymdeithasau neu aelodau o bwyllgorau, dull newydd a haws o sefydlu cymdeithas/clwb ac adnewyddu rhai agweddau ar gyfansoddiadau cymdeithasau/clybiau. Bydd y rhain i gyd yn mynd trwy’r CC ac ar gael i chi eu darllen wrth gwrs – felly gall gymryd amser gyda phethau eraill yn digwydd, ond, o leiaf mae’r broses wedi dechrau.
Cynllun Strategol Gweithgareddau
Mae rhan gyntaf y Cynllun Strategol Gweithgareddau wedi’i drafftio, nawr mae angen gweithio arno i flaenoriaethu a gweithio ar sut y dylid gweithredu’r datblygiadau hyn mewn ffordd sydd orau i fyfyrwyr Aberystwyth. Mae’n gyffrous meddwl beth allai ddigwydd gyda chymorth gan y Brifysgol a beth allai chwaraeon, cymdeithasau a gwirfoddoli fod yn y dyfodol.
Lleoliadau Fideo
Rwyf wedi bod mewn cysylltiad ag Adran Theatr, Ffilm a Theledu, a bydd yr Urdd yn darparu lleoliadau i fyfyrwyr yn yr 2il flwyddyn ddod yma a chreu fideos. Bydd yn mynd allan i fyfyrwyr yr adran yn fuan er mwyn iddynt ymgeisio; bydd yn gyfle i ychwanegu rhywbeth at eu CV ac at eu portffolio. Maent bellach wedi’u recriwtio a byddan nhw’n dechrau gwneud fideos newydd yn y dyfodol agos.
Ystadegau ar Chwaraeon a Chymdeithasau, a Phapur Pwysigrwydd
Byddaf yn casglu ystadegau yn fuan ynglŷn â chlybiau a chymdeithasau er mwyn ategu papur a fydd yn cyflwyno pa mor bwysig yw’r clybiau a’r cymdeithasau i brofiad y myfyrwyr yn Aberystwyth. Fe fydd yna hefyd ddogfen ar wefan yr Urdd yn amlinellu dulliau ariannu chwaraeon a chymdeithasau.
Pethau i Ddod
Ymysg y digwyddiadau sydd ar y gweill mae Swper yr Undeb Athletau a Rygbi 7 bob ochr, felly, mae yna ddigon i’m cadw’n brysur. A gobeithio yn y dyfodol agos, gallaf sicrhau storfeydd ar gyfer yr haf, os nad yn barhaol, i glybiau a chymdeithasau. |