Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Adroddiad CC hwyr
Written by   
TUESDAY, 13 DECEMBER 2011 16:54

Reit ta, ers y CC diwethaf rwyf wedi bod yn delio gyda hyd yn oed mwy o gyngor a chwynion ynglŷn â llety.

 

Ar yr un pryd, rwyf wedi bod yn trefnu Wythnos Tai (gobeithio bod rhai ohonoch wedi sylwi ar hyn yr wythnos hon).

 

O ganlyniad i rai o’r materion y codais gerbron y Pwyllgor Cymorth Myfyrwyr, mae gennym bellach 3 grŵp a fydd yn canolbwyntio ar rai o’r materion mawr.

 

• Bydd yr Is-Bwyllgor Llety yn gyfrifol am ddarparu ymatebion i broblemau llety’r tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor. Un ffordd bosibl o ddatrys problemau llety hirsefydlog Aberystwyth fyddai sefydlu Gwasanaeth Gosod i Fyfyrwyr ardystiedig ar y campws erbyn i’r Brifysgol gwblhau’r datblygiad ar Fferm Penglais. Mae gwneud hyn yn ganolog i amcanion strategol yr Is-Bwyllgor Llety yn hanfodol i ni gyd yn yr Urdd.


• Bydd Grŵp Cynllunio Gweithredu ar Iechyd Meddwl yn cael ei sefydlu ym mis Ionawr a bwriadaf alw am bolisi iechyd meddwl cynhwysfawr gan gynnwys penodi’r Ymgynghorydd Iechyd Meddwl proffesiynol y deisebais amdano ym mis Hydref. Ar hyn o bryd mae yna dipyn o ad-drefnu’n digwydd o fewn Cymorth Myfyrwyr, gyda phenodiad ‘Cynghorydd Myfyrwyr’ a ‘Chynghorydd Hygyrchedd’ ond credaf fod dal arnynt angen cymorth mwy arbenigol o ran Iechyd Meddwl.


• Y grŵp olaf yw un sy’n ymwneud â Chymorth Ariannol i Fyfyrwyr gyda’r amcan o gael un ffurflen ar gyfer popeth fel nad oes rhaid i chi ddarparu tystiolaeth tair gwaith i gael cymorth o dair cronfa wahanol. Hefyd, yn lle’r Cerdyn Aber £10 y mae’r Brifysgol yn ei ddarparu ar hyn o bryd os ydych mewn argyfwng, rwyf am chwilio am opsiynau gwell.

 
Wythnos Tai

 

Y bwriad oedd hysbysebu’r arolwg, annog pobl i gael cyngor a chael myfyrwyr i fod yn rhan o’r ymdrech i ddelio â llety, asiantau a landlordiaid trafferthus.

 

Gwaeddais o flaen camera am 5 munud (http://www.youtube.com/watch?v=XLCaeq2ysuA), siaradais â phobl wrth y stondin a pharatois y gliniaduron yn y llyfrgell bob bore - cawn weld a lenwodd unrhyw un yr arolwg ai peidio.

 

Roeddwn i ffwrdd ddydd Mawrth, ond ceisiais wneud ychydig o farchnata munud ola’ ddoe ar gyfer y digwyddiadau sydd i ddod. Heddiw, siomedig oedd y nifer a ddaeth i’r gweithdy ar Gyfrinachau’r Maes, ond rwy’n gobeithio y bydd gan rai ohonoch ddiddordeb yn y digwyddiad ychwanegol rwyf wedi’i drefnu’r wythnos hon.

 

Yfory (Gwe 9fed) am 11am yn y Brif Ystafell/Joint cewch gyfle i holi’r swyddfa HMO a chael gwybod beth mae Cyngor Sir Ceredigion yn ei wneud i gynnal safonau yn y sector preifat. Dewch draw hyd yn oed os oes arnoch eisiau amlygu problemau penodol yn eich llety chi neu am wybod beth yw’r drefn os yw’r swyddfa’n gorfod ymyrryd.

 

Bydd hwn yn gyfarfod diddorol gydag arbenigedd gwirioneddol felly dewch draw!

 

Hwyl a phonsio!

 

Red Square Crested Lapel Badge
£1.49 £1.99
» more info

 

Aberystwyth at Sunset postcard
£0.30
» more info

» see all products

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students