
| IBERSbach-off |
| Written by |
| FRIDAY, 27 JANUARY 2012 17:59 |
|
Mae adeilad newydd IBERS bellach wedi’i orffen. Bues i yno heddiw ac mae’r ystafelloedd dysgu a’r adnoddau’n wych. Os na wyddoch, mae IBERS (Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig - Institute of Biological, Environmental and Rural Sciences) ar 3 champws: Penglais, Llanbadarn a Gogerddan ac mae gan bob un ohonynt adnoddau arlwyo ar wahân.
Roeddwn yn siomedig iawn i ddeall bod y ‘clwb coffi’ yn Llanbadarn wedi’i gau. Roedd y gwasanaeth hwn yn darparu te, coffi a bisgedi i staff a myfyrwyr am 25c yn unig, trwy system docynnu. Roedd y clwb nid yn unig yn darparu canolbwynt i fyfiwyr yn yr adran gwrdd â’i gilydd a gweithio, ond hefyd roedd yn ardal gymdeithasol lle nad oeddynt yn cael eu gorfodi i brynu. Ond y prif bwynt yma yw bod yr arian dros ben o’r clwb coffi yn ariannu sawl grant teithio pwysig i fyfyrwyr IBERS. Gyda’r wasgfa ariannol yn brathu unwaith eto, rwyf i a nifer o bobl eraill sy’n defnyddio’r cyfleuster yn siomedig gyda’r Brifysgol am ei diffyg gweledigaeth. Mae adrannau wrth galon y gymuned academaidd ac yn rhan bwysig o ffordd o fyw'r myfyrwyr. Mae hyn wedi dileu’r cyfle i sgwrsio â staff, a’r cyfle i fyfyrwyr a staff IBERS ariannu grantiau teithio. Y ddelwedd a geir yw bod y galon gymdeithasol wedi’i dileu a bod endid masnachol wedi’i roi yn ei lle. Ymunwch â fi i lobïo i gael y cyfleuster angenrheidiol hwn yn ôl i fyfyrwyr a staff IBERS trwy e-bostio undeb.addysg@ac.uk i gofrestru eich cymorth. |
![]() |
Wales Baseball Cap |
![]() |
Crested Rucksack - 1 strap |
| » see all products | |
- A ydych wedi llenwi'r Arolwg Tai?
- Ymgyrch yn erbyn y Toriadau Niweidiol ym Mronglais
- Diweddariad gan y Llywydd - Chwefror
- Awydd bod yn Swyddog yn yr Urdd?
- MIND
Darllen pob datganiad i'r wasg
Darllen y newyddion diweddaraf
- Loading...











