|
Written by
|
|
TUESDAY, 13 DECEMBER 2011 13:47 |
|
Gan nad oedd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn y Cyfarfod Cyffredinol nos Iau diwethaf, roedd arnaf eisiau rhoi gwybod i chi am y polisi ar gyflwyno gwaith yn hwyr. Rwy'n gweithio gyda'r Pwyllgor Materion Academaidd i gael un polisi ledled y sefydliad ar gyfer Israddedigion ac Uwchraddedigion. Ar hyn o bryd, mae gan y Brifysgol bedwar polisi gwahanol ar waith o ran beth sy'n digwydd pan gyflwynir gwaith yn hwyr.
Mae'n bwysig i ni fel myfyrwyr sicrhau y clywir ein lleisiau yn yr ymgynghoriad hwn. O ganlyniad, yr wythnos hon byddaf yn cynnal cyfarfodydd ym mhob campws er mwyn holi barn cynifer o fyfyrwyr â phosib.
Dydd Iau: 11am Prif Ystafell, Urdd y Myfyrwyr
1pm Cyntedd Gwleidyddiaeth Ryngwladol
3pm Cyntedd Daearyddiaeth
Dydd Gwener: 11am Cwad yr Hen Goleg
1pm Llawr D Llyfrgell Hugh Owen
3pm Cyntedd Adeilad Stapleton, Llanbadarn
Dewch i gyfrannu!
|
|
LAST_UPDATED2 |