Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Home Blogiau Llywydd Gwir Ddemocratiaeth, Gwir Gynrychiolaeth!
Gwir Ddemocratiaeth, Gwir Gynrychiolaeth!

Ymgynghoriad ar y cynigion i ddiwygio strwythur democrataidd Urdd y Myfyrwyr
Chwefror 2il 2012

Cyflwyniad

Y cam diweddaraf yn y proses cyflwyno diwygiad democrataidd i’r Urdd yw’r ymgynghoriad hwn. Crëwyd y syniad ‘nôl ym mis Medi gyda’r Fforwm Syniadau cyntaf a ddangosodd ffordd newydd o wneud democratiaeth. Ysbrydolodd hyn i ni adeiladu ar y gwaith a wnaed gan Jon Antoniazzi a Simon Cameron y llynedd i lunio model “Cynulliad yr Urdd”, sydd wedi bod yn cylchredeg ers mis Tachwedd 2011.

Ond dim ond rhan o’r cynnig yw’r Cynulliad newydd. Mae arnom hefyd eisiau gweld newid mawr yn y ffordd rydym yn annog a chefnogi democratiaeth – mae strwythurau newydd ac ati yn dda iawn, ond oni bai fod ganddynt gefnogaeth a chymorth yr Urdd, ni fyddent yn golygu llawer.

Mewn cyfarfod ar 1af Chwefror, trafodon ni ystod eang o syniadau a awgrymwyd gan bobl o ran diwygio democrataidd. Rydym wedi cymryd nifer ohonynt a’u integreiddio mewn i’n cynigion, a dyma beth sydd ar gael heddiw.

Rydym am bwysleisio nad y cam terfynol yw hyn; unwaith rydym wedi cael eich ymatebion a’u prosesu, byddwn yn cyhoeddi’r cynigion yn ffurfiol, yna bydd y rhain yn cael eu cyflwyno gerbron y Cyfarfod Cyffredinol nesaf – gweler isod i wybod mwy am y camau nesaf.

Rydym yn edrych ymlaen at glywed eich syniadau, a’u defnyddio i geisio gwella ein democratiaeth!

Gwybodaeth bellach

Cwestiynau

Os oes gennych gwestiynau am unrhyw beth sy’n ymwneud â’r proses, gyrrwch e-bost i undeb.llywydd@aber.ac.uk a gwnawn ein gorau i’w hateb.·

Cyfieithu

Gan mai dogfen dros dro yw’r cynigion ar hyn o bryd, rydym yn dal i weithio ar y gwreiddiol yn Saesneg. Unwaith mae ymatebion yr ymgynghoriad i mewn, byddwn yn cyhoeddi’r dogfennau terfynol yn Gymraeg ac yn Saesneg gyda’i gilydd.

Y camau nesaf

Ar ôl i ni gael ymatebion yr ymgynghoriad a’u hystyried, byddwn yn cyhoeddi’r cynnig terfynol yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Wedyn byddwn yn cynnal cyfarfod agored y gall unrhyw un ddod iddo a mynd trwy’r cynnig terfynol, un llinell ar y tro. Awgrymwyd y syniad hwn yn y cyfarfod Llunio’r Newid ac rydym yn gobeithio y bydd y rheini sydd â diddordeb arbennig yn dod i’r cyfarfod hwn lle gellir cael eglurhad llawn dros rai o fân bwyntiau’r cynigion. Y bwriad yw y bydd y cyfarfod hwn yn gyfle i bobl godi pryderon penodol a delio gyda nhw cyn y Cyfarfod Cyffredinol canlynol.·

Yna byddwn yn cyflwyno’r cynnig gwreiddiol, ynghyd ag unrhyw addasiadau a wnaed yn y cyfarfod agored, gerbron y Cyfarfod Cyffredinol ar 21ain Chwefror, lle bydd cyfle arall i drafod y cynigion ac unrhyw addasiadau a wnaed iddynt. Yn y Cyfarfod Cyffredinol, byddwn yn cyflwyno cynnig a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gynnal refferendwm ar y cynigion yr un pryd ag etholiadau’r Urdd ym mis Mawrth. Canlyniadau’r refferendwm hwn fydd yn deddfu’r cynnig yn ffurfiol.

Ar ôl hyn, bydd yn ofynnol i’r Brifysgol gymeradwyo’r darnau hynny o’r cynigion sy’n addasu’r Cyfansoddiad. Er na allwn ragweld faint o amser bydd hyn yn ei gymryd, rydym yn ffyddiog y gwneir hyn cyn gynted â phosib ar ôl y refferendwm er mwyn i’r strwythur democrataidd newydd ddod i rym ar ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.

Amserlen arfaethedig

8 Chwefror ·························· Dyddiad cau ymatebion i’r ymgynghoriad hwn

15 Chwefror························· Cyhoeddi fersiwn terfynol y cynigion

(yn Gymraeg ac yn Saesneg)

17 Chwefror························· Adolygu’r cynigion terfynol fesul llinell

21 Chwefror························· Cyfarfod Cyffredinol

7-8 Mawrth·························· Refferendwm

Cwestiynau’r Ymgynghoriad

Anfonwch eich atebion i undeb.llywydd@aber.ac.uk gan roi “Ymateb i’r ymgynghoriad ar Ddemocratiaeth” fel pwnc yr e-bost, erbyn 8fed Chwefror (gallwch roi’ch atebion yng nghorff yr e-bost). Mae, wrth gwrs, croeso i chi ateb yn Gymraeg neu’n Saesneg.·

Q1. A ydych yn cytuno â’r newidiadau arfaethedig? Pa ddarnau’r ydych yn hoff ohonynt?

Q2. A ydych o’r farn fod yna bethau ar goll, neu fod modd gwella rhai darnau?

Q3. A ydych yn anghytuno â rhai darnau? Sut y gellir gwella’r rhain?

Q4. Sut ydych yn credu y dylem gynnwys mudiadau rhyddid yn y strwythur newydd?

Defnyddir y term “mudiadau rhyddid” i ddisgrifio grwpiau ac unigolion sy’n cynrychioli ac yn hyrwyddo grwpiau penodol mewn cymdeithas sy’n aml dan anfantais neu sy’n cael eu hesgeuluso. Mae gan y term ystod eang o ystyron, ond fel arfer mae’n cynnwys: merched; pobl anabl; pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol; pobl dduon a phobl o grwpiau ethnig lleiafrifol eraill. Yng nghyd-destun undebau myfyrwyr, gall y term hefyd gynnwys myfyrwyr hŷn, myfyrwyr uwchraddedig a myfyrwyr rhyngwladol.·

Q5. Ar wahân i’r cynigion hyn, beth arall allwn ni ei wneud i geisio annog democratiaeth yn yr Urdd?

LAST_UPDATED2
 

Aberystwyth University Football Club Tie
£9.99
» more info

 

Aberystwyth University Hockey Club Tie
£9.99
» more info

» see all products

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students