
| Llythyr at Fwrdd Iechyd Hywel Dda – Mae Myfyrwyr YN Bodoli yn Aber! |
|
Efallai na wyddai lawer ohonoch fod rhai o wasanaethau Ysbyty Bronglais dan fygythiad gan gynllun newydd gan y Bwrdd Iechyd sy’n ei reoli. Dangosodd dogfen gyfrinachol y gall lawer o wasanaethau, gan gynnwys llawfeddygaeth frys, ddod i ben a byddai’n rhaid i gleifion deithio dros 60 milltir i gael y driniaeth. Ymddengys fod y bwrdd iechyd wedi anwybyddu’n llwyr y ffaith fod myfyrwyr yn bodoli yn Aber gan na ymgynghorwyd â myfyrwyr o gwbl. O ganlyniad, rwyf wedi anfon y llythyr isod at Fwrdd Iechyd Hywel Dda, a byddaf yn cyhoeddi’r ymateb (gobeithio) pan gaf un. “Annwyl Syr/Madam Rwy’n ysgrifennu atoch i fynegi pryder ynghylch y toriadau arfaethedig i Ysbyty Bronglais Aberystwyth ac i ofyn a yw’r Bwrdd wedi ystyried yr effaith niweidiol posibl y byddai’r toriadau hyn yn ei gael ar fyfyrwyr Aberystwyth? Yn ystod y tymor, myfyrwyr yw dros hanner poblogaeth Aberystwyth (7,275) ac mae llawer yn aros yma dros y gwyliau hefyd. Mae hyn yn cynnwys nifer cynyddol o fyfyrwyr rhyngwladol sydd bellach yn astudio yn y Brifysgol. Un o fuddion astudio yn Aberystwyth yw hwylustod adnoddau’r ysbyty, yn arbennig mewn ardal mor wledig lle mae trafnidiaeth yn aml yn broblem. Mae grwpiau ymgyrchu wedi mynegi llawer o bryderon ynghylch y toriadau arfaethedig a bydd rhai o’r rhain yn effeithio ar les myfyrwyr y dre’. Fy mhrif bryder i yw’r posibilrwydd o golli llawfeddygaeth frys, gan olygu y bydd yn rhaid i gleifion deithio tua chwe deg milltir i gael triniaeth. Mae hyn yn peri problemau enfawr i fyfyrwyr, nid yw llawer ohonynt yn dod â char i’r Brifysgol ac maent yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gyda hyn mewn golwg, sut fyddech chi’n disgwyl i fyfyrwyr deithio i gael gofal ysbyty? I lawer o bobl ifanc, dod i’r Brifysgol yw’r cam cyntaf i ffwrdd o’u rhieni ac, felly, o gymorth eu teulu. Rwy’n siŵr fod hwylustod gwasanaethau llawn ysbyty yn rhoi tawelwch meddwl i lawer o rieni. Hoffaf wybod pa gamau’r ydych wedi’u cymryd i sicrhau bod myfyrwyr Aberystwyth wedi’u hystyried wrth gynllunio dyfodol Bronglais? Mae’r diffyg ymgynghori â myfyrwyr yn dangos diystyrwch llwyr â chyfran mor fawr o boblogaeth Aberystwyth. Yng ngolwg y pryderon hyn, rwy’n edrych ymlaen at gydweithredu â’r bwrdd iechyd yn y dyfodol ac at eich ymateb. Yn gywir,
|
| LAST_UPDATED2 |
![]() |
Aberystwyth Photo Coaster |
![]() |
Car Tax/Licence Disc Holder |
| » see all products | |
- Cyfnewid tocynnau diodydd y Ddawns Fai
- Wythnos Cychwyn Busnes
- Fantime Friday
- Neges gan yn Swyddog Gweithgareddau
- Neges gan Gadeirydd yr Urdd
Darllen pob datganiad i'r wasg
Darllen y newyddion diweddaraf
- Loading...











