
| Bangorystwyth – Dim ond breuddwyd gwrach Leighton |
|
S’mai eto,  Efallai y cofiai rai ohonoch y cyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, adroddiad yn gynharach eleni yn amlinellu sut roedd arno ef eisiau i’r Sector Addysg Uwch yng Nghymru newid ac o hyn daeth ‘Dymuniad Leighton am Gyfuniad’.  Yn y papur hwn (adroddiad gwreiddiol: http://wales.gov.uk/docs/dcells/consultation/110711futureofunihefcwen.pdf) dywedwyd y bydd Aberystwyth a Bangor yn parhau i gryfhau eu cysylltiad strategol gyda golwg ar ffurfio un sefydliad mawr gan greu’r syniad o gael Bangorystwyth.  Wrth gwrs does ond angen edrych ar fap o Gymru i weld bod tirwedd y wlad yn gwneud hwn yn syniad rhyfedd iawn, mae mynyddoedd Eryri yn y ffordd yn un peth! Ond o ddifri’, roedden ni a’r sefydliad yn credu’n gryf y byddai cyfuno yn cael effaith niweidiol ar brofiad myfyrwyr y dyfodol. Hefyd, dywedon fod gan Brifysgol Aberystwyth arwyddocad hanesyddol a diwylliannol i’r dref ei hun ac y byddai cyfuno megis tynnu calon allan o rywbeth sy’n ganolog i Aberystwyth fel tref.  At hynny, ymunon ni â’r Brifysgol er mwyn ymateb, dyma ddywedon ni fel Urdd:
Annwyl Leighton Andrews AC Rydym ni fel Urdd yn cefnogi ein sefydliad wrth amddiffyn annibyniaeth Prifysgol Aberystwyth. Mae’r tir sydd rhwng PA a Phrifysgol Bangor yn profi ynddo’i hun y bydd costau a negyddion cyfuno yn llwyr drechu unrhyw ganlyniadau cadarnhaol a geir o gyfuno. Ymhellach, mae ein Hurdd ni ac Undeb Myfyrwyr Bangor yn cyflawni rôl allweddol wrth amddiffyn a gwella’r profiad a gynigir i fyfyrwyr. Ym myd newydd Addysg Uwch, lle mae profiad y myfyrwyr o’r pwys mwyaf, gofynnwn i chi sut fydd cynnig i gyfuno o fudd i Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ac i’n rôl ni o gefnogi a chynrychioli myfyrwyr? Mae’r diffyg mewnbwn gan fyfyrwyr yn yr ymgynghoriad hwn yn amlwg wrth ystyried ei amseriad; yn ystod gwyliau’r haf pan fo’r myfyrwyr gan fwyaf i ffwrdd o’r Brifysgol a heb gysylltiad â’r Urdd na’r sefydliad. Mae hyn wedi’i gwneud yn amhosib pwyso a mesur barn y myfyrwyr ar y mater hwn a thrafod sut mae ein haelodau yn credu y bydd cyfuno’n effeithio ar Aberystwyth. Rydym yn erfyn arnoch i ailystyried unrhyw gynlluniau i gyfuno Aberystwyth a Bangor. Byddwn ni’n sefyll yn gadarn wrth amddiffyn Aberystwyth fel prifysgol annibynnol ac ardderchog. Yn gywir Ben Meakin, Llywydd
|
| LAST_UPDATED2 |
![]() |
Aberystwyth University Mug |
![]() |
Red Square Crested Lapel Badge |
| » see all products | |
- Cyfnewid tocynnau diodydd y Ddawns Fai
- Wythnos Cychwyn Busnes
- Fantime Friday
- Neges gan yn Swyddog Gweithgareddau
- Neges gan Gadeirydd yr Urdd
Darllen pob datganiad i'r wasg
Darllen y newyddion diweddaraf
- Loading...
Â











