Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Home Blogiau Llywydd
Llywydd
Cefnogi Wythnos Weithredu UCM – Un pâr o drôns ar y tro

Yn y Cyfarfod Cyffredinol diwethaf, cyflwynwyd cynnig i gefnogi ymgyrch Cyffesu’r Cyfan UCM, sy’n gofyn am wythnos o weithredu i ymgyrchu yn erbyn y toriadau niweidiol i addysg sydd ar y gorwel.

Yn anffodus, gan i’r Cyfarfod Cyffredinol fynd o chwith, ni lwyddon i gyrraedd y cynnig hwn a bydd y CC nesaf yn cael ei gynnal ar ôl yr ymgyrch hon, felly credaf fod angen cyhoeddi y byddwn yn cefnogi’r ymgyrch hon, cynnig ai peidio!

I’r rheini’r tu allan i fyd Addysg Uwch, cefndir yr ymgyrch Cyffesu’r Cyfan yw’r ffaith bod y llywodraeth glymblaid wedi penderfynu dileu cynlluniau am ddeddf Addysg Uwch, er bod hyn yn ymddangos yn beth da ar yr wyneb, nid yw hynny’n wir o bell ffordd. Golyga hyn y gall y llywodraeth wthio diwygiadau niweidiol trwy’r drws cefn, gan adael llai o gyfle i’w gwrthwynebu’n gyhoeddus.

Mae addysg wedi’i ddatganoli yng Nghymru wrth gwrs, sy’n golygu bod penderfyniadau ynghylch Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn nwylo Llywodraeth Cymru. Er hyn, credaf ei bod yn bwysig i ni ymgyrchu yn erbyn diwygiadau yn San Steffan gan y bydd llawer ohonynt yn cael effaith ar brifysgolion ledled y DU, pa bynnag wlad maent ynddi!

Mae addysg ddatganoledig yn rhoi cyfle i Gymru achub y blaen a chyflwyno newidiadau blaengar i sector Addysg Uwch sy’n mynd yn erbyn gweithredoedd niweidiol y glymblaid. A siarad yn blwmp ac yn blaen, mae angen i Leighton dyfu pâr ac arwain y newid!

Rydym yn cefnogi streic genedlaethol ar y 14eg a alwyd gan Lywydd UCM, Liam Burns, ond rydym yn credu hefyd y gallai Aber fynd cam ymhellach a gwneud rhywbeth creadigol iawn!

Dyma lle gallwch chi gyfrannu, mae arnom eisiau eich syniadau chi am ymgyrch greadigol a chlyfar i ddweud wrth Leighton fod angen iddo sortio’i hun ac arwain Addysg Uwch yng Nghymru at oes flaengar newydd!

I roi syniad i chi o’r hyn sydd gennym mewn golwg, dyma fy syniad i:

Yn 2009, torrodd yr Urdd Record Byd Guinness am y nifer mwyaf o bobl yn eu trôns! Mae’n amlwg ein bod yn hoff o drôns, felly beth am ddefnyddio hyn i ymgyrchu. Rwy’n cynnig ein bod yn annog myfyrwyr i anfon pâr o drôns yr un at Leighton Andrews gyda nodyn arnynt yn dweud ‘Tyfa bâr ac arwain y newid mewn Addysg Uwch’. Dychmygwch swyddfa’r Gweinidog yn llawn trôns! Mae hynny am gael mwy o effaith na ‘phleidlais o ddiffyg hyder’ bitw (na fydd e’n colli unrhyw gwsg drosti rwy’n siwr!).

Ta waeth, un syniad yw hwnnw, postiwch eich syniadau o dan y blog hwn neu anfonwch neges ataf!

Ben

Ebost: undeb.llywydd@aber.ac.uk

Twitter: bmeakin

Facebook: Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

LAST_UPDATED2
 
Ymgyrch yn erbyn y Toriadau Niweidiol ym Mronglais

Mae’n siwr y gwyddai lawer ohonoch fod gwasanaethau Ysbyty Bronglais dan fygythiad difrifol, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy’n rheoli’r ysbyty, yn cynllunio toriadau a fydd yn niweidio’r gwasanaethau a fydd ar gael yno. Un o’r gwasanaethau dan fygythiad yw llawfeddygaeth frys, a fydd maes o law yn effeithio ar yr adran Damweiniau ac Achosion Brys i gyd.

Mewn tref sydd â phrifysgol ynddi, mae hyn yn broblem ddifrifol. Rwy’n siwr roedd rhieni llawer ohonoch yn falch o wybod bod gan y dre’ wasanaeth damweiniau ac achosion brys gerllaw pe bai unrhyw beth yn digwydd. Rwyf hefyd yn siwr fod llawer ohonoch sy’n chwarae chwaraeon corfforol fel rygbi wedi defnyddio’r gwasanaeth sawl gwaith. Yn olaf, fe wyddom i gyd fod myfyrwyr am aml yn eu cael eu hunain yn yr ysbyty ar ôl yfed gormod.

Pe bai’r toriadau’n digwydd, ni fyddai hyn yn golygu taith fer i Fronglais, byddai’n daith hir i Gaerfyrddin! Pe bai rhywbeth difrifol yn digwydd, mae hynny’n siwrnai hir ofnadwy, ac ni fyddai o les i’r broses adfer o gwbl.

Rwyf wedi mynegi fy mhryder i’r Bwrdd Iechyd yn barod (ond heb gael ateb, mis yn ddiweddarach) yn ogystal â mynegi cymorth i’r gymuned leol y byddai’r holl doriadau arfaethedig yn effeithio arni.

Ar 29ain Chwefror, bydd y grŵp ymgyrchu lleol aBer yn mynd â sawl bws lawr i Gaerdydd i brotestio yn erbyn y cynigion anystyriol hyn. Rwy’n erfyn arnoch i gadw’ch lle a dangos eich cefnogaeth dros yr ymgyrch hwn.

Gallwch weld y manylion ar Facebook: https://www.facebook.com/events/234124766676404/

Byddaf yn mynd felly os ydych am ddod hefyd, gyrrwch ebost ataf er mwyn i’r myfyrwyr sydd yno fod gyda’i gilydd gan ddangos i’r Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru ein bod o ddifrif.

Lledaenwch y neges.

Ben

Ebost: undeb.llywydd@aber.ac.uk
Facebook: Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
Twitter: bmeakin

 

LAST_UPDATED2
 
Diweddariad gan y Llywydd - Chwefror

S’mai bawb, mae hi’n brysur iawn yn yr Urdd ar hyn o bryd, yn enwedig gyda’r etholiadau ar y gorwel! Dyma grynodeb o’r pethau rwyf wedi bod yn gweithio arnynt dros yr wythnosau diwethaf, rhag ofn ichi fethu rhai ohonynt.

Siop Goffi

Yn gyntaf, y diweddaraf am y siop goffi/Starbucks. Roeddwn wedi gobeithio y byddai’r gwaith adeiladu wedi hen ddechrau erbyn hyn, ond wedyn atgoffwyd fi fod unrhyw beth yn ymwneud â’r adran ystadau/adnewyddu’r Urdd yn cymryd hydoedd. Rwyf wedi anfon llwyth o ebyst i’r Brifysgol ac wedi bod yn annog staff yr Urdd i roi pethau ar ben ffordd, ac erbyn hyn mae’r cwch wedi’i wthio i’r dŵr. Yn anffodus, mae’n rhaid i ni nawr fynd trwy broses tendro gydag o leiaf tri chwmni adeiladu, a fydd yn cymryd 3 wythnos, ond yn y cyfamser, byddwn yn gofyn ichi pa fath o gaffi’r hoffech ei gael, hynny yw, rhywbeth tebyg i ystafell fyw draddodiadol gyda soffas retro, neu siop goffi fodern.
Proses arall sy’n ein dal ni’n ôl ac sy’n hollol chwerthinllyd yw’r angen am brawf asbestos. Rwyf, wrth gwrs, yn awyddus i beidio â gwenwyno myfyrwyr, ond rwy’n weddol siwr y cynhaliwyd y prawf pan benderfynodd y Brifysgol i osod simnai newydd trwy’r union fan lle bydd y siop goffi. Does bosib nad oes asbestos wedi ymddangos mewn 6 mis!

Cynllun Barnu eich Landlord/Llety

Fe wyddom ni gyd fod llety’r sector preifat yn Aberystwyth yn warth llwyr, dylai’r Brifysgol neu’r Urdd fod wedi rhoi llawer mwy o bwysau ar y sector preifat cyn hyn a dweud y lleiaf. Gyda hynny mewn golwg, rwyf wedi bod yn edrych ar yr opsiynau amrywiol am system ‘Barnu eich Landlord’ arlein. Gan fod y rhan fwyaf ohonoch yn defnyddio Facebook i wneud hyn yn barod, waeth i ni roi mwy o strwythur i’r peth.
Rydym wedi dechrau trafodaethau gyda chwmni o Gaint sy’n cynnal y wefan www.studenttennant.com, mae’n galluogi myfyrwyr i farcio eu llety, ac os bydd landlordiaid yn ymuno â’r wefan, bydd hefyd yn dangos calendr sy’n dweud pryd y bydd rhestrau tai’n cael eu cyhoeddi (a fydd gobeithio yn helpu i atal y rhuthrau a welwyd y tu allan i Alexanders yn ddiweddar).
Yn anffodus, mae’r Brifysgol ychydig yn bryderus ynghylch ariannu gwefan o’r fath. Maent wedi dweud na fydd yn gwneud gwahaniaeth gan y byddai’n rhaid i fyfyrwyr fyw mewn llety o safon isel beth bynnag.
Fy nadl i yw y byddai’n rhaid i fyfyrwyr fyw mewn llety gwael ond o leiaf y byddai mwy o wybodaeth ar gael iddynt. Mae’r Brifysgol hefyd yn dweud wrthym y bydd y llety newydd yn Fferm Penglais yn rhyddhau lle yn y sector preifat pan fydd yn agor yn 2014/15. Os felly, byddai’n gwneud synnwyr i roi pwysau ar y sector nawr mewn pryd i agoriad y neuadd newydd, a gobeithio erbyn hynny y byddai’r system marcio a grymodd y farchnad wedi gorfodi landlordiaid gwael i wella eu llety neu fod ar eu colled.

Os credwch y dylid gweithredu’r system hon yn Aber, rhowch wybod i mi neu’r Swyddfa Llety!

Hyrwyddo Gwaith yr Urdd

Mae’n siwr fod llawer ohonoch wedi sylwi fod pum llun (gweddol fawr) o’r 5 Swyddog Sabothol wedi ymddangos ger mynedfa’r Urdd. Mae hyn yn rhan o gynllun cyfredol i roi gwybod i fyfyrwyr ein bod ni’n gwneud llawer mwy fel Urdd na chynnal digwyddiadau fel Reload yn unig. Gobeithio y gallwn barhau â’r cynllun hwn a gwneud y gynrychiolaeth, y cymorth a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig yn fwy gweledol. Byddwn hefyd yn gosod blychau newydd ar gyfer posteri ar flaen adeilad yr Urdd, y cyntaf o’r rhain fydd canlyniadau Arolwg yr Urdd.

Ymgyrch Ysbyty Bronglais

Bues i i’r cyfarfod cyhoeddus diweddar y cynhaliwyd gan grwpiau lleol sy’n ymgyrchu yn erbyn y newidiadau difrifol i’r gwasanaethau sydd ar gael yn Ysbyty Bronglais. Yn ystod y trafodaethau, dywedais y bydd yr Urdd yn cefnogi’r ymgyrch gan y byddai’r toriadau’n effeithio’n ddifrifol ar fyfyrwyr gan nad oes gan lawer ohonynt geir ac maent filltiroedd i ffwrdd o ffrindiau a theulu a fyddai’n eu helpu fel arfer.
Rwy’n erfyn ar bawb i arwyddo’r ddeiseb arlein ac ymuno â’r ymgyrch:
http://www.facebook.com/pages/Save-Bronglais-Hospital/123628054426386
Mae llawer ohonoch yn chwarae chwaraeon cyswllt ac yn aml, ceir anafiadau sy’n gofyn am driniaeth brys. Mae pawb yn gwybod am rywun sydd wedi treulio amser ym Mronglais, pe bai’r Bwrdd Iechyd yn cael ei ffordd, efallai y bydd yn rhaid i fyfyrwyr fynd i Gaerfyrddin!

Cynllun Profiad Aber

Ac yn olaf, yn ystod y ddeufis diwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r tîm i gynhyrchu dogfen a fydd yn amlinellu dyfodol Urdd y Myfyrwyr Aberystwyth. Mae’n amlinellu beth yw profiad myfyrwyr Aberystwyth a sut y gall yr Urdd fod yn rhan hanfodol o hyn. Mae’n gofyn y cwestiwn allweddol; “Pe na bai’r traeth a’r bryniau’n bodoli yn Aber, a fyddai’r Brifysgol yn dal i gael marciau bodlonrwydd myfyrwyr mor uchel, neu a ydym yn lwcus o’n lleoliad?”. Hoffaf weld yr Urdd yn helpu i ddarparu profiad myfyrwyr yn Aber a fyddai gystal pe bai’r traeth yma ai peidio.
Byddwn yn cyflwyno’r ddogfen hon i’r Brifysgol gan obeithio y byddant yn ein cefnogi ag arian ac adnoddau er mwyn cyflawni’r amcan hwn. Yn fuan wedyn, bydd y ddogfen ar gael i bawb er mwyn i chi roi gwybod i ni beth rydych yn ei hoffi a beth nad ydych yn ei hoffi.


Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch:

Ebost: union.president@aber.ac.uk
Twitter: @bmeakin
Facebook: Urdd y Myfyrwyr Aberystwyth

Ben

 
Gwir Ddemocratiaeth, Gwir Gynrychiolaeth!

Ymgynghoriad ar y cynigion i ddiwygio strwythur democrataidd Urdd y Myfyrwyr
Chwefror 2il 2012

Cyflwyniad

Y cam diweddaraf yn y proses cyflwyno diwygiad democrataidd i’r Urdd yw’r ymgynghoriad hwn. Crëwyd y syniad ‘nôl ym mis Medi gyda’r Fforwm Syniadau cyntaf a ddangosodd ffordd newydd o wneud democratiaeth. Ysbrydolodd hyn i ni adeiladu ar y gwaith a wnaed gan Jon Antoniazzi a Simon Cameron y llynedd i lunio model “Cynulliad yr Urdd”, sydd wedi bod yn cylchredeg ers mis Tachwedd 2011.

Ond dim ond rhan o’r cynnig yw’r Cynulliad newydd. Mae arnom hefyd eisiau gweld newid mawr yn y ffordd rydym yn annog a chefnogi democratiaeth – mae strwythurau newydd ac ati yn dda iawn, ond oni bai fod ganddynt gefnogaeth a chymorth yr Urdd, ni fyddent yn golygu llawer.

LAST_UPDATED2
Read more...
 
Llythyr at Fwrdd Iechyd Hywel Dda – Mae Myfyrwyr YN Bodoli yn Aber!

Efallai na wyddai lawer ohonoch fod rhai o wasanaethau Ysbyty Bronglais dan fygythiad gan gynllun newydd gan y Bwrdd Iechyd sy’n ei reoli. Dangosodd dogfen gyfrinachol y gall lawer o wasanaethau, gan gynnwys llawfeddygaeth frys, ddod i ben a byddai’n rhaid i gleifion deithio dros 60 milltir i gael y driniaeth. Ymddengys fod y bwrdd iechyd wedi anwybyddu’n llwyr y ffaith fod myfyrwyr yn bodoli yn Aber gan na ymgynghorwyd â myfyrwyr o gwbl. O ganlyniad, rwyf wedi anfon y llythyr isod at Fwrdd Iechyd Hywel Dda, a byddaf yn cyhoeddi’r ymateb (gobeithio) pan gaf un.

“Annwyl Syr/Madam

Rwy’n ysgrifennu atoch i fynegi pryder ynghylch y toriadau arfaethedig i Ysbyty Bronglais Aberystwyth ac i ofyn a yw’r Bwrdd wedi ystyried yr effaith niweidiol posibl y byddai’r toriadau hyn yn ei gael ar fyfyrwyr Aberystwyth?

Yn ystod y tymor, myfyrwyr yw dros hanner poblogaeth Aberystwyth (7,275) ac mae llawer yn aros yma dros y gwyliau hefyd. Mae hyn yn cynnwys nifer cynyddol o fyfyrwyr rhyngwladol sydd bellach yn astudio yn y Brifysgol. Un o fuddion astudio yn Aberystwyth yw hwylustod adnoddau’r ysbyty, yn arbennig mewn ardal mor wledig lle mae trafnidiaeth yn aml yn broblem.

Mae grwpiau ymgyrchu wedi mynegi llawer o bryderon ynghylch y toriadau arfaethedig a bydd rhai o’r rhain yn effeithio ar les myfyrwyr y dre’. Fy mhrif bryder i yw’r posibilrwydd o golli llawfeddygaeth frys, gan olygu y bydd yn rhaid i gleifion deithio tua chwe deg milltir i gael triniaeth.

Mae hyn yn peri problemau enfawr i fyfyrwyr, nid yw llawer ohonynt yn dod â char i’r Brifysgol ac maent yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gyda hyn mewn golwg, sut fyddech chi’n disgwyl i fyfyrwyr deithio i gael gofal ysbyty? I lawer o bobl ifanc, dod i’r Brifysgol yw’r cam cyntaf i ffwrdd o’u rhieni ac, felly, o gymorth eu teulu. Rwy’n siŵr fod hwylustod gwasanaethau llawn ysbyty yn rhoi tawelwch meddwl i lawer o rieni.

Hoffaf wybod pa gamau’r ydych wedi’u cymryd i sicrhau bod myfyrwyr Aberystwyth wedi’u hystyried wrth gynllunio dyfodol Bronglais? Mae’r diffyg ymgynghori â myfyrwyr yn dangos diystyrwch llwyr â chyfran mor fawr o boblogaeth Aberystwyth.

Yng ngolwg y pryderon hyn, rwy’n edrych ymlaen at gydweithredu â’r bwrdd iechyd yn y dyfodol ac at eich ymateb.

Yn gywir,


Ben Meakin
Llywydd,
Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth"

LAST_UPDATED2
 
<< Cychwyn < Yn ôl 1 2 3 Nesaf > Diwedd >>

JPAGE_CURRENT_OF_TOTAL

Aberystwyth University Rugby Club Tie
£9.99
» more info

 

Aberystwyth University Football Club Tie
£9.99
» more info

» see all products

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students