Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Guild of Students

Home Blogiau
Blogiau
Ymgyrch yn erbyn y Toriadau Niweidiol ym Mronglais
Written by   
MONDAY, 20 FEBRUARY 2012 10:51

Mae’n siwr y gwyddai lawer ohonoch fod gwasanaethau Ysbyty Bronglais dan fygythiad difrifol, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy’n rheoli’r ysbyty, yn cynllunio toriadau a fydd yn niweidio’r gwasanaethau a fydd ar gael yno. Un o’r gwasanaethau dan fygythiad yw llawfeddygaeth frys, a fydd maes o law yn effeithio ar yr adran Damweiniau ac Achosion Brys i gyd.

Mewn tref sydd â phrifysgol ynddi, mae hyn yn broblem ddifrifol. Rwy’n siwr roedd rhieni llawer ohonoch yn falch o wybod bod gan y dre’ wasanaeth damweiniau ac achosion brys gerllaw pe bai unrhyw beth yn digwydd. Rwyf hefyd yn siwr fod llawer ohonoch sy’n chwarae chwaraeon corfforol fel rygbi wedi defnyddio’r gwasanaeth sawl gwaith. Yn olaf, fe wyddom i gyd fod myfyrwyr am aml yn eu cael eu hunain yn yr ysbyty ar ôl yfed gormod.

Pe bai’r toriadau’n digwydd, ni fyddai hyn yn golygu taith fer i Fronglais, byddai’n daith hir i Gaerfyrddin! Pe bai rhywbeth difrifol yn digwydd, mae hynny’n siwrnai hir ofnadwy, ac ni fyddai o les i’r broses adfer o gwbl.

Rwyf wedi mynegi fy mhryder i’r Bwrdd Iechyd yn barod (ond heb gael ateb, mis yn ddiweddarach) yn ogystal â mynegi cymorth i’r gymuned leol y byddai’r holl doriadau arfaethedig yn effeithio arni.

Ar 29ain Chwefror, bydd y grŵp ymgyrchu lleol aBer yn mynd â sawl bws lawr i Gaerdydd i brotestio yn erbyn y cynigion anystyriol hyn. Rwy’n erfyn arnoch i gadw’ch lle a dangos eich cefnogaeth dros yr ymgyrch hwn.

Gallwch weld y manylion ar Facebook: https://www.facebook.com/events/234124766676404/

Byddaf yn mynd felly os ydych am ddod hefyd, gyrrwch ebost ataf er mwyn i’r myfyrwyr sydd yno fod gyda’i gilydd gan ddangos i’r Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru ein bod o ddifrif.

Lledaenwch y neges.

Ben

Ebost: undeb.llywydd@aber.ac.uk
Facebook: Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
Twitter: bmeakin

 

LAST_UPDATED2
 
Diweddariad gan y Llywydd - Chwefror
Written by   
FRIDAY, 17 FEBRUARY 2012 15:53

S’mai bawb, mae hi’n brysur iawn yn yr Urdd ar hyn o bryd, yn enwedig gyda’r etholiadau ar y gorwel! Dyma grynodeb o’r pethau rwyf wedi bod yn gweithio arnynt dros yr wythnosau diwethaf, rhag ofn ichi fethu rhai ohonynt.

Siop Goffi

Yn gyntaf, y diweddaraf am y siop goffi/Starbucks. Roeddwn wedi gobeithio y byddai’r gwaith adeiladu wedi hen ddechrau erbyn hyn, ond wedyn atgoffwyd fi fod unrhyw beth yn ymwneud â’r adran ystadau/adnewyddu’r Urdd yn cymryd hydoedd. Rwyf wedi anfon llwyth o ebyst i’r Brifysgol ac wedi bod yn annog staff yr Urdd i roi pethau ar ben ffordd, ac erbyn hyn mae’r cwch wedi’i wthio i’r dŵr. Yn anffodus, mae’n rhaid i ni nawr fynd trwy broses tendro gydag o leiaf tri chwmni adeiladu, a fydd yn cymryd 3 wythnos, ond yn y cyfamser, byddwn yn gofyn ichi pa fath o gaffi’r hoffech ei gael, hynny yw, rhywbeth tebyg i ystafell fyw draddodiadol gyda soffas retro, neu siop goffi fodern.
Proses arall sy’n ein dal ni’n ôl ac sy’n hollol chwerthinllyd yw’r angen am brawf asbestos. Rwyf, wrth gwrs, yn awyddus i beidio â gwenwyno myfyrwyr, ond rwy’n weddol siwr y cynhaliwyd y prawf pan benderfynodd y Brifysgol i osod simnai newydd trwy’r union fan lle bydd y siop goffi. Does bosib nad oes asbestos wedi ymddangos mewn 6 mis!

Cynllun Barnu eich Landlord/Llety

Fe wyddom ni gyd fod llety’r sector preifat yn Aberystwyth yn warth llwyr, dylai’r Brifysgol neu’r Urdd fod wedi rhoi llawer mwy o bwysau ar y sector preifat cyn hyn a dweud y lleiaf. Gyda hynny mewn golwg, rwyf wedi bod yn edrych ar yr opsiynau amrywiol am system ‘Barnu eich Landlord’ arlein. Gan fod y rhan fwyaf ohonoch yn defnyddio Facebook i wneud hyn yn barod, waeth i ni roi mwy o strwythur i’r peth.
Rydym wedi dechrau trafodaethau gyda chwmni o Gaint sy’n cynnal y wefan www.studenttennant.com, mae’n galluogi myfyrwyr i farcio eu llety, ac os bydd landlordiaid yn ymuno â’r wefan, bydd hefyd yn dangos calendr sy’n dweud pryd y bydd rhestrau tai’n cael eu cyhoeddi (a fydd gobeithio yn helpu i atal y rhuthrau a welwyd y tu allan i Alexanders yn ddiweddar).
Yn anffodus, mae’r Brifysgol ychydig yn bryderus ynghylch ariannu gwefan o’r fath. Maent wedi dweud na fydd yn gwneud gwahaniaeth gan y byddai’n rhaid i fyfyrwyr fyw mewn llety o safon isel beth bynnag.
Fy nadl i yw y byddai’n rhaid i fyfyrwyr fyw mewn llety gwael ond o leiaf y byddai mwy o wybodaeth ar gael iddynt. Mae’r Brifysgol hefyd yn dweud wrthym y bydd y llety newydd yn Fferm Penglais yn rhyddhau lle yn y sector preifat pan fydd yn agor yn 2014/15. Os felly, byddai’n gwneud synnwyr i roi pwysau ar y sector nawr mewn pryd i agoriad y neuadd newydd, a gobeithio erbyn hynny y byddai’r system marcio a grymodd y farchnad wedi gorfodi landlordiaid gwael i wella eu llety neu fod ar eu colled.

Os credwch y dylid gweithredu’r system hon yn Aber, rhowch wybod i mi neu’r Swyddfa Llety!

Hyrwyddo Gwaith yr Urdd

Mae’n siwr fod llawer ohonoch wedi sylwi fod pum llun (gweddol fawr) o’r 5 Swyddog Sabothol wedi ymddangos ger mynedfa’r Urdd. Mae hyn yn rhan o gynllun cyfredol i roi gwybod i fyfyrwyr ein bod ni’n gwneud llawer mwy fel Urdd na chynnal digwyddiadau fel Reload yn unig. Gobeithio y gallwn barhau â’r cynllun hwn a gwneud y gynrychiolaeth, y cymorth a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig yn fwy gweledol. Byddwn hefyd yn gosod blychau newydd ar gyfer posteri ar flaen adeilad yr Urdd, y cyntaf o’r rhain fydd canlyniadau Arolwg yr Urdd.

Ymgyrch Ysbyty Bronglais

Bues i i’r cyfarfod cyhoeddus diweddar y cynhaliwyd gan grwpiau lleol sy’n ymgyrchu yn erbyn y newidiadau difrifol i’r gwasanaethau sydd ar gael yn Ysbyty Bronglais. Yn ystod y trafodaethau, dywedais y bydd yr Urdd yn cefnogi’r ymgyrch gan y byddai’r toriadau’n effeithio’n ddifrifol ar fyfyrwyr gan nad oes gan lawer ohonynt geir ac maent filltiroedd i ffwrdd o ffrindiau a theulu a fyddai’n eu helpu fel arfer.
Rwy’n erfyn ar bawb i arwyddo’r ddeiseb arlein ac ymuno â’r ymgyrch:
http://www.facebook.com/pages/Save-Bronglais-Hospital/123628054426386
Mae llawer ohonoch yn chwarae chwaraeon cyswllt ac yn aml, ceir anafiadau sy’n gofyn am driniaeth brys. Mae pawb yn gwybod am rywun sydd wedi treulio amser ym Mronglais, pe bai’r Bwrdd Iechyd yn cael ei ffordd, efallai y bydd yn rhaid i fyfyrwyr fynd i Gaerfyrddin!

Cynllun Profiad Aber

Ac yn olaf, yn ystod y ddeufis diwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r tîm i gynhyrchu dogfen a fydd yn amlinellu dyfodol Urdd y Myfyrwyr Aberystwyth. Mae’n amlinellu beth yw profiad myfyrwyr Aberystwyth a sut y gall yr Urdd fod yn rhan hanfodol o hyn. Mae’n gofyn y cwestiwn allweddol; “Pe na bai’r traeth a’r bryniau’n bodoli yn Aber, a fyddai’r Brifysgol yn dal i gael marciau bodlonrwydd myfyrwyr mor uchel, neu a ydym yn lwcus o’n lleoliad?”. Hoffaf weld yr Urdd yn helpu i ddarparu profiad myfyrwyr yn Aber a fyddai gystal pe bai’r traeth yma ai peidio.
Byddwn yn cyflwyno’r ddogfen hon i’r Brifysgol gan obeithio y byddant yn ein cefnogi ag arian ac adnoddau er mwyn cyflawni’r amcan hwn. Yn fuan wedyn, bydd y ddogfen ar gael i bawb er mwyn i chi roi gwybod i ni beth rydych yn ei hoffi a beth nad ydych yn ei hoffi.


Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch:

Ebost: union.president@aber.ac.uk
Twitter: @bmeakin
Facebook: Urdd y Myfyrwyr Aberystwyth

Ben

 
Gwir Ddemocratiaeth, Gwir Gynrychiolaeth!
Written by   
THURSDAY, 02 FEBRUARY 2012 15:23

Ymgynghoriad ar y cynigion i ddiwygio strwythur democrataidd Urdd y Myfyrwyr
Chwefror 2il 2012

Cyflwyniad

Y cam diweddaraf yn y proses cyflwyno diwygiad democrataidd i’r Urdd yw’r ymgynghoriad hwn. Crëwyd y syniad ‘nôl ym mis Medi gyda’r Fforwm Syniadau cyntaf a ddangosodd ffordd newydd o wneud democratiaeth. Ysbrydolodd hyn i ni adeiladu ar y gwaith a wnaed gan Jon Antoniazzi a Simon Cameron y llynedd i lunio model “Cynulliad yr Urdd”, sydd wedi bod yn cylchredeg ers mis Tachwedd 2011.

Ond dim ond rhan o’r cynnig yw’r Cynulliad newydd. Mae arnom hefyd eisiau gweld newid mawr yn y ffordd rydym yn annog a chefnogi democratiaeth – mae strwythurau newydd ac ati yn dda iawn, ond oni bai fod ganddynt gefnogaeth a chymorth yr Urdd, ni fyddent yn golygu llawer.

LAST_UPDATED2
Read more...
 
Rhuthr Bwriadol (arall) yn y Farchnad Dai
Written by   
WEDNESDAY, 01 FEBRUARY 2012 09:32

Anhygoel!!

Dim ond pythefnos tan ein Ffair Llety ar y 14eg Chwefror, a chynigion i fyfyrwyr sy’n dychwelyd i lety gyda’r Brifysgol ar ddod, ond mae un asiant gosod yn Aberystwyth am geisio rhoi pwysau ar fyfyrwyr diniwed unwaith eto.

Mae gennych 7 eiddo ac mae arnoch eisiau cael llofnodion ar y contractau ar unwaith heb lawer o archwilio. Felly beth ydych am ei wneud? Rydych yn dweud wrth bawb y bydd y cyfle i bobl archebu lle i weld pob un ohonynt yn dechrau ar yr un diwrnod a’r cyntaf i’r felin caiff falu, er mwyn ‘tegwch’. Rydych yn peri awyrgylch tebyg i ddiwrnod cynta’ sêls mis Ionawr, a bydd pob myfyriwr sy’n dod i archebu lle i weld yr eiddo yn edrych ar y ciw y tu ôl iddynt, ac yn meddwl; dyma’r unig gyfle i gael llety preifat at y flwyddyn nesaf. P’un ai a ydynt yn arwyddo yn y fan a’r lle neu ar ôl gweld yr eiddo am y tro cyntaf, heb os nac oni bai mae hyn yn dric seicolegol ar ran yr asiant gosod sy’n manteisio’n annheg ar ddiffyg profiad myfyrwyr yn y farchnad dai.

Peidiwch â llyncu’r abwyd. Cofiwch, Pwyll Pia Hi.

Wrth gwrs, ewch i weld yr eiddo, a’i gadw fel opsiwn, ond peidiwch â chael eich tywys mewn i rywbeth os nad ydych yn gant y cant siŵr. Gwiriwch yr holl bethau rwyf wedi clebran amdanynt ers mis Tachwedd. A chofiwch, bydd mwy o eiddo yn dod ar y farchnad trwy gydol y flwyddyn. Ni fydd ar lawer o landlordiaid preifat da eisiau gorfodi eu tenantiaid i ailarwyddo ar gyfer y flwyddyn nesa’ tan fis Mawrth, ac mae eraill yn dymuno osgoi’r rhuthr yn gyfan gwbl.

Pob hwyl i chi allan yna, a gobeithio y gwela’i rai ohonoch ar y 14eg Chwefror. Ymunwch â’r digwyddiad ar Facebook: http://www.facebook.com/events/220927418000365/

Hwyl a phonsio!

 
IBERSbach-off
Written by   
FRIDAY, 27 JANUARY 2012 17:59

Mae adeilad newydd IBERS bellach wedi’i orffen. Bues i yno heddiw ac mae’r ystafelloedd dysgu a’r adnoddau’n wych. Os na wyddoch, mae IBERS (Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig - Institute of Biological, Environmental and Rural Sciences) ar 3 champws: Penglais, Llanbadarn a Gogerddan ac mae gan bob un ohonynt adnoddau arlwyo ar wahân.

Roeddwn yn siomedig iawn i ddeall bod y ‘clwb coffi’ yn Llanbadarn wedi’i gau. Roedd y gwasanaeth hwn yn darparu te, coffi a bisgedi i staff a myfyrwyr am 25c yn unig, trwy system docynnu. Roedd y clwb nid yn unig yn darparu canolbwynt i fyfiwyr yn yr adran gwrdd â’i gilydd a gweithio, ond hefyd roedd yn ardal gymdeithasol lle nad oeddynt yn cael eu gorfodi i brynu. Ond y prif bwynt yma yw bod yr arian dros ben o’r clwb coffi yn ariannu sawl grant teithio pwysig i fyfyrwyr IBERS.

Gyda’r wasgfa ariannol yn brathu unwaith eto, rwyf i a nifer o bobl eraill sy’n defnyddio’r cyfleuster yn siomedig gyda’r Brifysgol am ei diffyg gweledigaeth. Mae adrannau wrth galon y gymuned academaidd ac yn rhan bwysig o ffordd o fyw'r myfyrwyr. Mae hyn wedi dileu’r cyfle i sgwrsio â staff, a’r cyfle i fyfyrwyr a staff IBERS ariannu grantiau teithio. Y ddelwedd a geir yw bod y galon gymdeithasol wedi’i dileu a bod endid masnachol wedi’i roi yn ei lle.

Ymunwch â fi i lobïo i gael y cyfleuster angenrheidiol hwn yn ôl i fyfyrwyr a staff IBERS trwy e-bostio undeb.addysg@ac.uk i gofrestru eich cymorth.

 
<< Cychwyn < Yn ôl 1 2 3 Nesaf > Diwedd >>

JPAGE_CURRENT_OF_TOTAL

Fairtrade Unisex Contrast Hoody
£24.95
» more info

 

Fairtrade Unisex Sweatshirt
£24.95
» more info

» see all products
A hoffech chi weld llawr sglefrio tu allan yr Undeb cyn Dolig?
 

Darllen pob datganiad i'r wasg

Darllen y newyddion diweddaraf

Darllen pob blog

You must have the Adobe Flash Player installed to view this player.

Facebook Twitter: aberguild Foursquare Flickr: aberguild YouTube: aberguild Feed: Front page

 

Aberystwyth - Rhywbeth i bawb | Something for everyone

NUS: National Union of Students